Cyngor ar sut i gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel ac yn gyfreithlon pan fyddwch ar-lein.
Cynnwys
Gwefannau defnyddiol
Learn My Way
Mae Learn My Way yn wefan a grëwyd gan y Good Things Foundation sy'n darparu cyrsiau dysgu byr am ddim i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol sylfaenol. Mae ganddyn nhw bynciau diogelwch ar-lein cryno sy'n addas ar gyfer dechreuwyr sydd heb unrhyw sgiliau digidol neu sgiliau digidol isel.
Get Safe Online
Mae Get Safe Online yn dudalen we cyngor diogelwch ar-lein ddefnyddiol a gymeradwyir gan lawer o sefydliadau sy’n ymwneud ag atal seiberdroseddu.
Action Fraud
I adrodd am seiberdroseddu, neu ofyn am gyngor, siaradwch ag Action Fraud, y Ganolfan Adrodd am Dwyll a Seiberdroseddu Genedlaethol, neu ffoniwch 0300 123 2040.
Gwirio bod gwefan yn ddiogel
Defnyddiwch wefannau ar gyfer cwmnïau sy'n gyfarwydd i chi, pan fyddwch chi'n dechrau llywio'r rhyngrwyd. Gwiriwch fod gan gyfeiriad y wefan glo clap a https.
Defnyddiwch wiriwr gwefan i wirio eichg wefan am broblemau diogelwch osydych chi'n ansicr.
Crëwch gyfrifon ar-lein diogel
Mae creu cyfrif diogel ar-lein yn bwysig er mwyn diogelu gwybodaeth bersonol.
Ewch ati i greu cyfrinair diogel. Defnyddiwch y rheol cyfrinair 3 gair i gyfuno 3 gair nad ydynt yn gysylltiedig i greu cyfrinair cryf.
Amddiffynnwch eich dyfeisiau clyfar trwy ychwanegu cod mynediad cofiadwy er mwyn datgloi a defnyddio'r ddyfais. Felly, dim ond y rhai sy'n gwybod y cod mynediad sy'n gallu codi eich dyfais a’i defnyddio.
Gallwch hefyd ddefnyddio dilysu 2- ffactor ar lawer o wahanol wefannau a chyfrifon, i'w gwneud yn fwy diogel. Mae hyn yn golygu, ar ôl i chi fewnbynnu eich cyfrinair, bod cod mynediad ar wahân yn cael ei anfon i'ch dyfais cyn y gallwch chi fewngofnodi.
Cadwch eich dyfais yn gyfoes
Y ffordd orau o osgoi firysau a thoriadau diogelwch yw trwy ddilyn camau diogelwch rhyngrwyd, a pharhau i fod
yn wyliadwrus o bethau fel e-byst gwe-rwydo, gwefannau ffug, a ffenestri naid.
Mae’r rhan fwyaf o ddyfeisiau digidol modern yn gosod diogelwch gwrthfeirysau drwy ddiweddariadau. Dyna pam ei bod hi’n bwysig sicrhau eich bod yn cadw’ch dyfeisiau a’ch apiau’n gyfredol.
