Rydym yn symud pob cynllun RPW i ddefnyddio'r canllaw newydd hwn ar hawliadau contract, ar hyn o bryd mae'n berthnasol i 2 gynllun.
Cynnwys
Nodiadau pwysig
Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i gwblhau hawliad contract ar gyfer y cynlluniau canlynol:
- Grant Creu Coetir (WCG)
- Grantiau Bach – Creu Coetir
- Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru – Rownd Ariannu Gyffredinol (WMFS)
- Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig
Ar gyfer cynlluniau eraill, gwiriwch dudalen y cynllun.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyflwyno eich ffurflen hawlio contract erbyn y dyddiad cau sydd wedi'i gynnwys yn eich contract. Os na fyddwch yn hawlio erbyn y dyddiad cau hwn, ni fyddwch yn derbyn taliad.
Nodyn i gwsmeriaid y Grant Creu Coetir (WCG): os gwnaethoch nodi eich bwriad i hawlio am y rhagdaliad gwaith tir yn eich cais WCG, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich hawliad gwaith tir cyn ceisio dechrau eich hawliad contract. Os na, bydd hyn yn golygu na fydd unrhyw eitemau y gallwch eu hawlio ar gael yn eich hawliad contract.
Problemau gyda'r hawliad contract
Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Os ydych chi'n cael problemau neu'n methu cael mynediad at eich cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid lle mae staff wrth law i roi gwybodaeth ac ateb ymholiadau.
Gallwch ddefnyddio'r dudalen "Negeseuon" yn eich cyfrif RPW Ar-lein i anfon ymholiad at y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Fel arall, gallwch ffonio 0300 062 5004 (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 09:00 i 16:00).
Cyrchu'r hawliad contract
Mae'r hawliad contract yn cael ei ddechrau o ardal contractau eich cyfrif RPW Ar-lein. O ddewislen eich tudalen gartref, cliciwch ar "Contractau a Grantiau Bach", yna dewiswch "Contractau" o'r naidlen. Bydd hyn yn mynd â chi i'ch tudalen contractau lle bydd unrhyw gontractau a gynigir ac sy'n weithredol yn cael eu rhestru.
Bydd botwm "Dechrau Hawliad" glas yn ymddangos ger cynlluniau sydd ar gael i’w hawlio drwy'r hawliad contract. Cliciwch "Dechrau Hawliad" i ddechrau.
Nodwch, os ydych wedi dechrau hawliad contract o'r blaen ac wedi cadw'ch cynnydd heb ei gyflwyno, bydd y botwm yn newid i "Parhau â'r Hawliad". Os ydych yn parhau â hawliad, bydd y system yn cynnig y dewis i chi barhau o ble gwnaethoch chi stopio o'r blaen neu ddechrau eto. Os ydych am ddechrau eto, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Trosolwg a llywio’r ffurflen hawlio
Bydd yr hawliad contract yn dangos eich Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) yng nghornel chwith uchaf y dudalen.
Bydd dewislen o dudalennau i'w gweld neu i fewnbynnu gwybodaeth yn cael ei dangos ar ochr chwith y sgrin. Bydd y dudalen sy’n weithredol ar hyn o bryd wedi'i hamlygu mewn glas. Gallwch glicio ar dudalen i symud yn uniongyrchol i'r dudalen honno neu glicio'r botymau "Nesaf" / "Blaenorol" i symud rhwng tudalennau. Bydd tudalennau sy'n gofyn am fewnbwn data yn cael eu marcio â chroes goch neu dic gwyrdd. Mae'r groes goch yn dynodi mewnbwn anghyflawn ar y dudalen honno, tra bod tic gwyrdd yn dynodi bod yr holl wybodaeth ofynnol wedi'i mewnbynnu'n llwyddiannus.
Dangosir nifer o fotymau ar y sgrin i helpu gyda llywio'r hawliad contract fel a ganlyn:
- "Cymorth" os oes angen cymorth i lenwi'r ffurflen
- "Argraffu" i argraffu copi o'r ffurflen yn ei chyflwr presennol
- "Cymraeg"/"Saesneg" i newid rhwng ieithoedd
- "Cadw" i gadw eich cynnydd cyfredol
- "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf yn y rhestr
- "Blaenorol" i symud i'r dudalen flaenorol yn y rhestr
- "Allanfa" i gadw a gadael y ffurflen
Tudalen cyflwyniad
Mae'r dudalen "Cyflwyniad" yn crynhoi gwybodaeth allweddol y contract rydych yn gwneud hawliad oddi tano, gan gynnwys y math o gontract a chyfeirnod y contract. Rhowch sylw arbennig i'r negeseuon allweddol yn y maes hwn gan y gallant newid o gynllun i gynllun. Sicrhewch fod y manylion a ddangosir yn gywir cyn parhau. Cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.
Tudalen hysbysiad preifatrwydd
Mae’r dudalen "hysbysiad preifatrwydd" yn amlinellu sut rydym yn trin data personol sy'n ymwneud â cheisiadau am grant a cheisiadau am gyllid. Mae'n esbonio sut rydym yn prosesu gwybodaeth a gyflwynir ar gyfer cymhwysedd, atal twyll, a gwirio hunaniaeth. Mae hefyd yn manylu ar sut y gellir rhannu data gydag awdurdodau rheoleiddio ac asiantaethau atal twyll, cyfnodau cadw ar gyfer gwybodaeth bersonol, a hawliau unigolion o dan gyfreithiau diogelu data. Ar ôl darllen, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen nesaf.
Eitemau hawlio: tudalen costau safonol
Bydd unrhyw eitemau hawlio costau safonol dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, mae’n rhaid i chi dicio'r blwch gweithgaredd hawlio a darparu manylion am swm yr hawliad a dyddiad cwblhau'r gweithgaredd. Dyma ddisgrifiad llawn o bob elfen ar y dudalen hon:
- cod eitem: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r ID unigryw mewn rhai cynlluniau
- enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad yr eitem i'w hawlio
- swm a gymeradwywyd: dyma'r swm a gymeradwywyd yn eich contract
- hawlio'r gweithgaredd hwn: rhaid i chi dicio'r blwch hwn i nodi eich bod wedi cwblhau gwaith ar gyfer yr eitem hon ac yn dymuno ei gynnwys yn eich hawliad
- swm a hawlir: wrth hawlio gweithgaredd, rhaid i chi nodi'r swm rydych yn ei hawlio yn y blwch hwn
- dyddiad cwblhau'r gweithgaredd: wrth hawlio gweithgaredd, rhaid i chi nodi dyddiad cwblhau'r gweithgaredd yn y blwch hwn
Eitemau'r hawliad: costau ansafonol
Bydd unrhyw eitemau hawlio costau ansafonol dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, mae’n rhaid i chi lenwi'r rhif adnabod trafodiad, talai, dyddiad yr anfoneb, cost anfoneb net, cost net gymwys, eitem wedi'i gwblhau (os hawliad terfynol).
Dyma ddisgrifiad llawn o bob elfen ar y dudalen hon:
- cod eitem/rhif adnabod: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r rhif adnabod unigryw mewn rhai cynlluniau
- enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad yr eitem i'w hawlio
- ar gael (£): dyma gyfanswn y gost wedi ei gymeryd o’ch llythyr dyfarnu grant. Pan fyddwch yn mewnosod gwerth yn y blychau cost anfoneb net a chost net gymwys, bydd y swm sydd ar gael yn gostwng yn unol â'r gwerth a fewnosodwyd.
- gwariant a hawlir (£): Rhaid i chi nodi'r gwerth yr hoffech ei hawlio ar gyfer pob is-eitem yn y blwch hwn. Os ydych yn nodi gwerth gwariant a hawlir sy'n llai na'r swm sydd ar gael, gofynnir i chi roi rheswm dros y tanwariant. Sylwer, os oes diffyg, ni fyddwch yn gallu hawlio am yr hyn sy'n weddill
- rhif adnabod trafodiad: bydd angen i chi nodi rhif adnabod trafodiad unigryw. Mae hyn yn ofynnol fel y gallwn gysylltu'r dystiolaeth ategol â'r eitem sy'n cael ei hawlio. Gall y rhif adnabod trafodiad fod yn unrhyw lythyren neu rif cyn belled â'i fod yn dechrau gyda llythyren, ac yna un i chwe rhif heb fylchau. Er enghraifft, A123456 neu C123. Bydd angen rhif adnabod trafodiad ar wahân ar gyfer pob eitem/llinell. Bydd neges wall yn ymddangos os bydd yr un rhif adnabod trafodiad yn cael ei nodi.
- talai: rhowch enw’r cwmni ar anfoneb yr eitem berthnasol
- dyddiad yr anfoneb: nodwch y dyddiad a ddangosir ar anfoneb ar gyfer yr eitem berthnasol. Sylwch, na all y dyddiad a ddangosir ar yr anfoneb fod yn ddyddiad ar ôl dyddiad cyflwyno’r hawliad.
- cost anfoneb net: nodwch y swm net fel y dangosir ar anfoneb yr eitem. Os yw’r anfoneb yn cynnwys costau nad ydynt yn ymwneud â chost yr eitem, ni ddylech eu tynnu o’r swm. Gallwch nodi cost yr eitem yn y blwch cost net gymwys.
- cost net gymwys: rhowch swm yr eitem
- eitem wedi'i gwblhau: ar ôl i chi gyflwyno'r holl hawliadau am eitem gallwch ddewis y blwch eitem wedi'i gwblhau. Os ydych yn hawlio'n llawn ar un llinell, rhaid i chi dicio'r blwch eitem wedi'i chwblhau er mwyn dileu'r neges wall am orwario
- eitemau wedi'u mapio: dyma nifer yr eitemau sydd wedi'u mapio a byddant yn dangos gwerthoedd yn erbyn is-eitemau grant cyfalaf FD001 yn unig
- +Botwm mapio: bydd hwn i'w weld wrth ymyl is-eitemau grant cyfalaf FD001 yn unig. Bydd clicio ar y botwm hwn yn mynd â chi i'r rhestr eitemau hawlio ar gyfer parseli tir lle gallwch fapio pob is-eitem
Os oes angen i chi ychwanegu rhes ychwanegol at hawlio eitem, gallwch glicio ar y botwm Ychwanegu Hawliad. Gellir dewis hyn gymaint o weithiau ag sy'n ofynnol.
Os ydych am gael gwared ar y rhes ychwanegol, gallwch glicio ar y botwm dileu hawliad.
Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen cliciwch ar y botwm nesaf.
Mapio eitemau hawliad
I fapio eitemau'r hawliad, cliciwch y botwm +Mapio a ddangosir wrth ymyl pob rhif adnabod eitem.
Bydd y Rhestr Parseli Tir yn cael ei harddangos ac yn dangos maint y cae; deiliadaeth a faint o eitemau sydd wedi'u mapio yn erbyn pob cae.
Cliciwch ar y parsel tir yr hoffech fapio eitem ynddo.
Bydd y map ffotograff o'r awyr yn agor, a bydd y parsel tir a ddewiswyd yn cael ei amlinellu mewn glas.
Dewiswch y botwm "Ychwanegu Eitem" ar ochr chwith uchaf y sgrin.
Dewiswch yr eitem a ddewiswyd o'r rhestr a chlicio parhau.
Bydd hyn yn mynd â chi nôl i'r llun o'r awyr o'r parsel tir.
Mae'r eitemau yn cael eu mapio fel pwyntiau, metrau a hectarau.
I fapio eitem fel pwynt, dewiswch y botwm "Ychwanegu Pwynt" a gosodwch y cyrchwr lle rydych am fapio'r eitem a chlicio.
I fapio eitem mewn metrau, dewiswch y botwm "Tynnu Llinell" a chliciwch ar y cyrchwr lle rydych am i'r llinell ddechrau. Bydd neges yn ymddangos yn gofyn a ydych am dynnu amlinell o ffin y parsel tir. Os ydych chi am dynnu amlinell, gosodwch y cyrchwr lle rydych am i'r llinell ddod i ben a chliciwch ddwywaith.
I fapio eitem mewn hectarau, dewiswch y botwm "Lluniadu'r Arwynebedd" a chliciwch ar y cyrchwr lle rydych am i'r ardal ddechrau. Bydd llinell binc yn ymddangos a dangosir hyd y llinell mewn metrau. Mae modd lluniadu'r arwynebedd trwy glicio'r cyrchwr sawl gwaith i ffurfio siâp sy'n adlewyrchiad cywir o arwynebedd yr eitem. Pan fydd y pwynt olaf yn ymuno â'r pwynt cyntaf, bydd y siâp wedi'i gwblhau.
Gallwch luniadu arwynebedd sawl ardal ar gyfer yr un eitem o fewn y parsel tir.
Bydd pob eitem wedi'i mapio yn ymddangos mewn rhestr ar ochr chwith y sgrin.
Ar ôl i chi orffen mapio'r eitem, cliciwch y botwm "Parhau".
Os hoffech ychwanegu eitem wahanol yn yr un parsel tir, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu Eitem" a dewiswch eitem wahanol o'r rhestr.
Dilynwch yr un camau ag uchod.
Os hoffech ddileu eitem wedi'i mapio, cliciwch ar y botwm "Dileu" coch wrth ymyl yr eitem dan sylw yn y rhestr a ddangosir ar ochr chwith y sgrin.
Pan fyddwch wedi gorffen mapio'r holl eitemau yn y parsel tir a ddewiswyd, cliciwch y botwm Yn ôl i'r Rhestr yng nghornel dde uchaf y sgrin.
Dewiswch gae arall o'r rhestr ac ailadroddwch y camau uchod nes bod yr holl eitemau wedi'u mapio.
Ffurflen hawlio contract: costau staff
Bydd unrhyw eitem Costau Staff dan gontract sydd ar gael i'w hawlio yn cael eu dangos ar y dudalen hon. I hawlio eitem, rhaid i chi lenwi Rhif Adnabod Trafodiad, Oriau a Hawliwyd, Dyddiad o, Dyddiad i, Eitem wedi'i Gwblhau (os mai dyma'r hawliad terfynol).
Dyma ddisgrifiad llawn o bob elfen ar y dudalen hon:
- cod eitem: dyma gyfeirnod y cod eitem sy'n ymwneud â phob eitem costau safonol unigol yn eich contract. Nodwch y gall hyn gyfeirio at y cod opsiwn neu'r rhif adnabod unigryw mewn rhai cynlluniau
- enw / disgrifiad: dyma enw neu ddisgrifiad o'r eitem i'w hawlio
- teitl y swydd: rhowch enw neu ddisgrifiad y rôl a gyflawnwyd
- oriau sydd ar gael: y swm o oriau ar gael i'w hawlio
- cyfradd: y gyfradd a delir yn ôl yr awr
- rhif adnabod trafodiad: bydd angen i chi roi rhif trafodiad unigryw. Mae hyn yn ofynnol fel y gallwn gysylltu'r dystiolaeth ategol â'r eitem a hawliwyd. Gall y rhif adnabod trafodiad fod yn unrhyw lythyren neu rif cyn belled â'i fod yn dechrau gyda llythyren, ac yna un i chwe rhif heb fylchau. Er enghraifft, A123456 neu C123. Bydd angen rhif adnabod trafodiad ar wahân ar bob eitem/llinell. Bydd neges wall yn ymddangos os bydd yr un rhif adnabod trafodiad yn cael ei nodi
- oriau a hawliwyd: rhowch y swm o oriau yr ydych am eu hawlio
- dyddiad o: y dyddiad y dechreuwyd y gwaith
- dyddiad i: y dyddiad y cwblhawyd y gwaith
- gwariant cymwys £: bydd y ffigwr hwn yn cael ei gynhyrchu'n awtomatig pan fydd swm wedi'i gyflwyno yn y blwch oriau a hawliwyd
- eitem wedi'i gwblhau: ar ôl i chi gyflwyno'r holl hawliadau am eitem gallwch ddewis y blwch eitem wedi'i gwblhau. Os ydych yn hawlio'n llawn ar un llinell, mae'n rhaid i chi dicio'r blwch eitem wedi'i gwblhau i gael gwared ar y neges wall am orwario
Os oes angen rhes ychwanegol ar eitem rydych yn hawlio ar ei chyfer, gallwch glicio ar y botwm "Ychwanegu Hawliad". Gellir dewis hyn cynifer o weithiau ag sy'n ofynnol.
Os ydych am gael gwared ar y rhes ychwanegol, gallwch glicio ar y botwm Dileu Hawliad.
Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen, cliciwch ar y botwm Nesaf.
Chwilio am eich eitemau hawliadwy
Mae blwch o'r enw "Dod o Hyd i Eitemau" wedi'i leoli ar frig rhestr yr eitemau hawlio, y gellir ei ddefnyddio i chwilio'n hawdd am eitemau mewn rhestr fawr. Mewnbynnwch ychydig o nodau o'ch meini prawf chwilio a bydd y rhestr yn hidlo'n awtomatig i ddangos canlyniadau sy'n cynnwys y meini prawf a fewnbynnwyd. Cliciwch y botwm "X" i glirio'r hidlydd chwilio.
Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon
Pan fydd y gwaith o fewnbynnu data hawlio wedi'i gwblhau, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Yn ystod y broses hon, bydd y data rydych wedi'i fewnbynnu’n cael ei ddilysu. Bydd unrhyw wallau a ganfyddir yn cael eu hamlygu mewn coch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar y sgrin yn nodi'r camau mae angen eu cymryd i gywiro'r broblem. Tra bo gwallau’n dal i fod ar y dudalen, bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â’r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Os yw'r data a fewnbynnwyd yn gywir, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos.
Noder efallai na fydd y dudalen hon wedi'i chynnwys yn eich hawliad, yn ddibynnu ar y math o gynllun.
Cynnydd prosiect
Mae'n rhaid i chi nodi a ydych yn cyflwyno cais terfynol ar gyfer y prosiect neu a ydych yn bwriadu cyflwyno rhagor o hawliadau.
Os mai hwn yw’r cais terfynol, dewiswch "Ydw".
Os byddwch yn cyflwyno ceisiadau pellach, dewiswch "Na".
Os nad yr hawliad hwn yw eich hawliad terfynol, rhaid i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am statws presennol y prosiect o fewn blwch testun "Cynnydd y Prosiect".
Gallwch gynnwys cyfeiriad at y canlynol:
- y cynnydd hyd yn hyn a’r gwaith sydd ar y gweill
- y gwaith ymgysylltu â’r gymuned wedi'i gynnal neu gyfranogiad y gymuned
- problemau a wynebwyd ac unrhyw risgiau a nodwyd a allai effeithio ar gwblhau'r gwaith
- sut mae’r problemau/risgiau sydd wedi’u nodi yn cael eu datrys
Cynllun prosiect: dangosyddion a chanlyniadau
Ar gyfer pob hawliad, rhaid i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r prosiect yn bodloni'r dangosyddion a'r canlyniadau a ddewiswyd ar gyfer eich prosiect a ddangosir ar y tab adroddiad prosiect, hyd yn oed os ydych wedi cwblhau targed y contract.
Ym mhob blwch "Cyflawnwyd Hyd Yma", nodwch ffigur rhifol i ddangos y cynnydd yn erbyn targed y contract.
Ym mhob blwch "Cynnydd" rhaid i chi roi testun, gan ddisgrifio sut rydych yn symud ymlaen i gyrraedd pob targed y cytunwyd arno.
Lle nad oes cynnydd pellach wedi'i wneud, rhowch y ffigur rhifol cyfredol.
Rhaid cofnodi testun sy'n disgrifio'r canlyniad yn y blwch "Cynnydd" ar gyfer pob un o'r dangosyddion a'r canlyniadau y cytunwyd arnynt hyd yn oed pan nad oes cynnydd wedi'i wneud.
Lle mae cynnydd wedi gwella, nodwch y cyfanswm cronnus rhifol.
Rhowch destun yn y blwch "Cynnydd".
Rhowch ffigurau a thestun ar gyfer pob dangosydd a restrir.
Rhaid i bob targed y cytunwyd arno gynnwys testun.
Os nad oes cynnydd wedi'i wneud, rhaid cwblhau'r blwch "Cynnydd Hyd Yma" a'r blwch testun "Cynnydd".
Gwiriwch fod yr holl gofnodion yn gywir, yna safio.
Ar ôl i chi gywiro unrhyw wallau ac ateb yr holl gwestiynau ar bob tudalen, cliciwch ar y botwm "Nesaf".
Tudalen dogfennau ategol
Gellir defnyddio'r dudalen hon i ychwanegu dogfennau ategol i brofi eich hawliad. Nid yw pob cynllun yn gofyn am lwytho dogfennau, felly cyfeiriwch at lyfr rheolau'r cynllun perthnasol ar ein gwefan i wirio gofynion. Cofiwch, os oes angen tystiolaeth ond ni chafwyd ei darparu, caiff y taliad ei atal.
Sut i ychwanegu dogfennau
I ychwanegu dogfen, cliciwch y botwm "Ychwanegu Dogfennau". Nodwch y gallwch ddewis sawl dogfen i'w lanlwytho ar yr un pryd. Ar ôl i ddogfen gael ei lanlwytho'n llwyddiannus, bydd y ddogfen yn ymddangos yn y rhestr.
Sut i ddileu dogfennau
I ddileu dogfen ddiangen, cliciwch y botwm "Dileu" wrth ymyl yr eitem i'w dileu.
Chwilio am eich dogfennau wedi'u lanlwytho
Mae blwch o'r enw "Hidlo Dogfennau" wedi'i leoli ar frig y rhestr ddogfennau, y gellir ei ddefnyddio i chwilio'n hawdd am ddogfennau mewn rhestr fawr. Mewnbynnwch ychydig o nodau o'ch meini prawf chwilio a bydd y rhestr yn hidlo'n awtomatig i ddangos canlyniadau sy'n cynnwys y meini prawf a fewnbynnwyd. I glirio'r hidlydd chwilio, dilëwch y meini prawf a nodwyd yn y blwch "Hidlo Dogfennau".
Cyfyngiadau lanlwytho dogfennau
Dim ond cyflwyniadau o'r mathau canlynol o ddogfennau y gall y dudalen hon eu derbyn - PDF (pdf), Microsoft Office (xls, xlsx, doc, docx, ppt, pptx, mpp, vsd, rtf), lluniau (jpg, jpeg, tif, tiff) neu Zip (zip).
Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon
Pan fydd y broses o lanlwytho dogfennau wedi'i chwblhau, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â'r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin nes i chi ymweld â'r dudalen hon. Os nad oes angen lanlwytho dogfennau ar gyfer y cynllun sy'n cael ei hawlio, ar ôl ymweld, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos gyferbyn â'r dudalen hon yn y ddewislen.
Atodlen 6: tudalen datganiad sicrwydd
Fel rhan o'ch llythyr dyfarnu grant o dan y cynllun a ddewiswyd, os oes angen cwblhau atodlen 6, bydd angen i chi gwblhau datganiad sicrwydd atodlen 6.
Fel rhan o'r datganiad sicrwydd, byddwch yn nodi a ydych yn derbyn unrhyw gyllid gan sefydliadau eraill i gefnogi'r dibenion fel y'u manylir yn atodlen 1 o'ch dyfarniad grant, yn ogystal â gwybodaeth am y personél a'r goruchwylwyr yn eich sefydliad mewn perthynas â chyfrifoldeb rheoli ariannol.
Rhaid i chi hefyd ddatgan bod gweithwyr, swyddogion, cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr ac aelodau’r bwrdd, lle bo’n berthnasol, yn deall eu dyletswyddau’n llawn, bod ganddynt ddigon o wybodaeth am faterion llywodraethu i gyflawni eu rolau mewn modd sy’n cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’u bod yn craffu ac yn goruchwylio gwaith y rhai sydd â’r prif gyfrifoldeb am eich rheolaeth ariannol yn briodol.
Dyma'r eitemau unigol ar y dudalen hon sydd angen eich mewnbwn:
A ydych yn derbyn unrhyw gyllid arall gan unrhyw sefydliad arall i gefnogi'r dibenion fel y'u manylir yn atodlen 1 o'ch dyfarniad grant?
Rhaid i chi nodi "Ie" neu "Na" i'r cwestiwn hwn. Os byddwch yn ateb "Ie", bydd tabl yn ymddangos ar waelod y sgrin i ganiatáu i chi nodi'r canlynol:
math o gyllid a’i bwrpas
swm y cyllid a dderbyniwyd
% o gost ôl-dâl/eitem cyfalaf
ffynhonnell ariannuOs oes angen sawl llinell i nodi data, cliciwch y botwm "+Ychwanegu Cyllid". Gallwch ddileu llinellau drwy glicio'r botwm "Dileu" wrth ymyl y llinell berthnasol.
Enwch y personél yn eich sefydliad sydd â chyfrifoldeb penodol am reolaeth ariannol mewn perthynas â'r dibenion fel y manylir yn atodlen 1 eich dyfarniad grant.
Rhowch enw llawn bob person a'u swydd yn y busnes. Cliciwch "+Ychwanegu Unigolyn" i ychwanegu rhagor o linellau mewnbynnu. Cliciwch "Dileu Unigolyn" i ddileu llinellau.
Pwy sy'n gyfrifol am oruchwylio'r personél a enwir uchod?
Rhowch enw llawn pob person a'i swydd yn y busnes. Cliciwch "+Ychwanegu Unigolyn" i ychwanegu rhagor o linellau mewnbynnu. Cliciwch "Dileu Unigolyn" i ddileu llinellau.
- Rwy'n cadarnhau'r datganiad uchod
Rhaid ticio'r blwch yma i gadarnhau'r manylion a fewnbynnwyd.
Gorffen mewnbynnu data ar y dudalen hon
Pan fyddwch wedi cwblhau'r gwaith o fewnbynnu data ar y dudalen hon, gallwch ddewis "Cadw", "Nesaf", neu lywio'n uniongyrchol i dudalen arall drwy'r ddewislen. Yn ystod y broses hon, bydd y data rydych wedi'i fewnbynnu’n cael ei ddilysu. Bydd unrhyw wallau a ganfyddir yn cael eu hamlygu mewn coch, ynghyd â chyfarwyddiadau ar y sgrin yn nodi'r camau mae angen eu cymryd i gywiro'r broblem. Tra bo gwallau’n dal i fod ar y dudalen, bydd croes goch yn cael ei dangos gyferbyn â’r dudalen hon yn y rhestr ddewislen ar ochr chwith y sgrin. Os yw'r data a fewnbynnwyd yn gywir, bydd tic gwyrdd yn cael ei ddangos.
Cyflwyniad: gwallau, gwybodaeth a chrynodeb
Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r data rydych wedi'i roi yn eich hawliad contract. Bydd unrhyw wallau a geir yn y data yn cael eu rhestru ar frig y dudalen hon a bydd lleoliad y gwallau hynny yn cael ei nodi yn y ddewislen gyda chroes goch yn erbyn pob tudalen. Rhaid i chi gywiro unrhyw wallau cyn y gallwch gyflwyno'r ffurflen hawlio.
Efallai y bydd negeseuon gwybodaeth ar y dudalen hon. Mae'r rhain i'ch atgoffa am unrhyw gamau y gallai fod angen ichi eu cymryd, ond nid ydynt yn eich rhwystro rhag cyflwyno’ch hawliad.
Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl ddata a fewnbynnwyd yn gywir, cliciwch "Nesaf" i symud i'r dudalen "Datganiadau ac Ymrwymiadau".
Cyflwyniad: datganiadau ac ymrwymiadau
Mae'r dudalen hon yn rhestru'r datganiadau a'r ymrwymiadau y mae'n rhaid i chi gytuno iddynt wrth hawlio cymorth grant. Darllenwch y dudalen hon yn drylwyr i gadarnhau eich dealltwriaeth o ganllawiau'r grant, cydymffurfiaeth â gofynion y cynllun, yr angen i gadw anfonebau, a'r gofyniad i gydweithredu ag unrhyw arolygiadau sydd eu hangen. Rydych hefyd yn gwarantu bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, bod eitemau a hawlir yn bodloni amodau'r grant, nad oes unrhyw gyllid dyblyg wedi'i geisio, a'ch bod yn deall y gellir adennill taliadau os na chyflawnir amcanion.
Ticiwch y blwch ar y gwaelod sydd wedi'i labelu "Rwyf wedi darllen ac yn cytuno â'r Datganiadau ac Ymrwymiadau uchod" a chliciwch ar "Nesaf" i symud ymlaen i'r dudalen gyflwyno.
Noder, os nad ydych yn cytuno â'r datganiadau a'r ymrwymiadau, ni fyddwch yn gallu cyflwyno'ch hawliad.
Cyflwyniad: cyflwyno
Mae eich hawliad contract bellach yn barod i'w gyflwyno. Cliciwch y botwm "Cyflwyno".
Ar ôl ei gyflwyno, bydd dogfen gryno sy'n cynnwys manylion y wybodaeth a gyflwynwyd yn cael ei hychwanegu at eich adran negeseuon.
