Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i helpu perchenogion i gadw anifeiliaid anwes a cheffylau yn ddiogel yn ystod cyfnod tân gwyllt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Anifeiliaid anwes

  • Darganfyddwch amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt wedi'u cynllunio yn eich ardal.
  • I osgoi adegau pan fydd tân gwyllt yn debygol o gael eu cynnau, ewch â'ch ci am dro yn ystod oriau golau dydd.
  • Ceisiwch gadw’ch ci a/neu gath y tu fewn gyda’r nos a darparwch fannau tawel iddynt gilio, neu guddio, os oes angen.
  • Caewch y ffenestri a'r llenni i dawelu sŵn tân gwyllt. I greu awyrgylch heddychlon, gall chwarae cerddoriaeth dawel neu wylio'r teledu fod o gymorth hefyd.
  • Ar adegau a allai fod yn drallodus, ceisiwch osgoi gadael eich anifeiliaid anwes gartref ar eu pen eu hunain.

Ceffylau

  • Darganfyddwch amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt wedi'u cynllunio yn eich ardal. Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio tân gwyllt ger ceffylau mewn caeau neu stablau.
  • Gofalwch am eich ceffylau yn ôl yr arfer a chadwch nhw mewn amgylcheddau diogel a chyfarwydd. Gallai hyn olygu eu gadael nhw allan yn ystod y tân gwyllt os mai dyma yw eu trefn arferol. Fodd bynnag, os ydynt yn ofnus o dân gwyllt, efallai yr hoffech ystyried eu rhoi mewn stabl dros nos.
  • I osgoi anaf, cadwch yn ddiogel a gwyliwch am geffylau sydd wedi dychryn.
  • Y bore ar ôl tân gwyllt, mae'n bwysig gwirio iechyd eich ceffyl i sicrhau ei les a gwirio am unrhyw anafiadau gweladwy.