Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae cyfiawnhau ei bod yn iawn i rywun mawr daro rhywun bach? Dyna a ddywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei sesiwn dystiolaeth derfynol yng nghyfarfod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Mercher (12 Mehefin), roedd y Dirprwy Weinidog yn ei sesiwn dystiolaeth derfynol fel rhan o gam un o broses graffu Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Roedd y Gweinidog wedi cadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddor y dylai'r gyfraith wahardd cosbi plant yn gorfforol. 

Ers i'r Bil gael ei gyflwyno ym mis Mawrth eleni, mae nifer o sefydliadau ac unigolion allweddol wedi bod yn gefnogol o egwyddor y Bil. Cafwyd cefnogaeth gryf gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a diogelu, gan gynnwys Colegau Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, meddygon teulu ac ymarferwyr nyrsio. 

Wrth roi tystiolaeth mewn cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd Sally Holland, y Comisiynydd Plant:

“Dyw'r gyfraith bresennol ddim yn effeithiol yn fy marn i, a'r prif reswm am hynny yw'r ffaith nad yw'r gyfraith yn diogelu hawliau dynol ein plant yng Nghymru. Y gwir amdani yw ei bod yn torri ymrwymiad Cymru a'r Deyrnas Unedig (DU) i hawliau dynol plant.”

“Yn ystod sesiynau tystiolaeth eraill roedd nifer o sefydliadau eraill o'r farn y byddai'r gyfraith newydd yn sicrhau mwy o eglurder.

“Bydd y newid hwn yn sicrhau mwy o eglurder ar y mater i rieni a gweithwyr proffesiynol, ac mae hynny i'w groesawu. Ond yn anad dim, bydd yn amddiffyn ein plant yn well.”

Vivienne Laing, NSPCC

“Rydyn ni'n croesawu'r newid sy'n cael ei gynnig gan y bydd yn sicrhau mwy o eglurder yn y maes hwn — i blant, i rieni ac i weithwyr proffesiynol.”

Sally Jenkins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru)

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Does byth reswm i oedolyn gosbi plentyn yn gorfforol. Mae'r Bil hwn yn helpu i amddiffyn hawliau plant ac yn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag cosb gorfforol yn yr un ffordd ag oedolion. 

“Mae'r gefnogaeth am y Bil gan ystod eang o sefydliadau ac unigolion wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'r dystiolaeth a roddwyd gan randdeiliaid allweddol wedi dangos yn ddiamheuol fod angen i'r gyfraith fod yn eglur ar y mater er budd rhieni, plant a gweithwyr proffesiynol.”

Yn dilyn cwblhau'r gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer cam un o'r broses graffu, bydd Pwyllgorau craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i ystyried y dystiolaeth a gafwyd ac wedyn ysgrifennu eu hadroddiadau - y mae'n rhaid iddynt eu cyhoeddi yn yr haf.