Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 2 a Rhan 3 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/1010 Golwg gyffredinol ar y DGT a sut bydd yn cael ei defnyddio

O 1 Ebrill 2018 mae’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn disodli'r dreth dirlenwi yng Nghymru Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chodi ar yr holl warediadau trethadwy yn unol â’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn rheoli’r dreth. Hyd at 31 Mawrth 2018, roedd y dreth dirlenwi’n cael ei chasglu a’i rheoli yng Nghymru gan Cyllid a Thollau EM ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

I wneud yn siŵr bod y systemau treth newydd yn ddealladwy i'r rheini a fydd yn gorfod eu defnyddio o ddydd i ddydd, bydd y prosesau’n debyg a’r dull gweithredu hefyd yn debyg o ran y cyfraddau treth. Bydd hyn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau.

Fel y dreth dirlenwi, mae’r dreth gwarediadau tirlenwi yn dreth ar waredu deunydd fel gwastraff mewn safleoedd tirlenwi, a bydd yn cael ei chodi yn ôl pwysau. Cwmnïau sy’n rhedeg y safleoedd tirlenwi fydd yn talu'r dreth a byddant hwythau’n trosglwyddo’r costau hyn i gwmnïau gwastraff trwy eu ffioedd ar y giât.

DTGT/1020 Personau y mae’r dreth i'w chodi arnynt

Gweithredwr y safle tirlenwi neu weithredwyr safle tirlenwi awdurdodedig fydd yn atebol am dalu’r dreth ar warediadau sy’n cael eu gwneud yn y safle tirlenwi.

Pan fydd gwastraff yn cael ei waredu mewn safle tirlenwi awdurdodedig, gweithredwr y safle tirlenwi yw’r person sy’n gyfrifol am y gwaredu. Pan fydd deunydd yn cael ei waredu heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n cael gwared â’r deunydd, ond bydd gweithredwr y safle tirlenwi yn atebol am dalu’r dreth, hyd yn oed os person arall oedd yn gyfrifol am y gwaredu.

Er enghraifft, os bydd deunydd yn cael ei waredu y tu allan i oriau heb yn wybod i weithredwr y safle tirlenwi, gweithredwr y safle tirlenwi fydd yn atebol am dalu'r dreth er nad oedd trydydd parti anhysbys o bosib wedi bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu.