Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro sut rydym yn asesu ceisiadau, pwy all gymryd rhan, a pha mor hir mae penderfyniadau fel arfer yn cymryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym yn asesu prosiect arwyddocaol arfaethedig trwy gynnal 'archwiliad'. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r broses. Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllaw llai manwl ar gyfer cymunedau.

Y broses archwilio

Ar ôl i ni dderbyn cais am archwiliad, rydym yn ei gyhoeddi ac yn gofyn am sylwadau yn ystod 'cyfnod mynegi sylwadau' sy'n para chwe wythnos. 

Rydym yn cofrestru unrhyw un sy'n anfon sylw atom fel 'parti â chanddo ddiddordeb'.

Yna rydym yn:

  • adolygu'r cais ac unrhyw sylwadau a dderbyniwyd
  • adnabod y prif faterion
  • penderfynu ar y weithdrefn archwilio
  • gosod amserlen sy'n dangos dyddiadau allweddol ar gyfer yr archwiliad.

Sut a phryd rydym yn archwilio'r cais

Gallwn archwilio ceisiadau yn ysgrifenedig ('sylwadau ysgrifenedig') neu mewn digwyddiad cyhoeddus o'r enw gwrandawiad, ymchwiliad neu wrandawiad llawr agored.

Esbonnir sut rydym yn penderfynu ar y weithdrefn isod. Rydym yn gwneud y penderfyniad o fewn 28 diwrnod i ddiwedd y cyfnod mynegi sylwadau oni bai bod yr ymgeisydd eisiau ychwanegu mwy o dir i'w brynu yn orfodol (pŵer cyfreithiol i brynu tir neu adeiladau heb i'r perchennog gytuno).

Gwrandawiadau

Mae archwiliadau fel arfer yn cynnwys gwrandawiad. Mae hwn yn gyfarfod i drafod materion penodol. Mae'r cyfarfod yn cael ei lywio gan yr arolygwyr sy'n gofyn cwestiynau am y cais, tystiolaeth ategol a barn y cyfranogwyr.

Gallwch ddod â chynghorydd proffesiynol i wrandawiad, ond ni allwch gyflwyno tystiolaeth ffurfiol na chwestiynu eraill oni bai bod yr arolygwyr archwilio yn caniatáu hynny.

Sylwadau ysgrifenedig

Rydym yn defnyddio sylwadau ysgrifenedig pan na fyddai gwrandawiad yn helpu'r archwiliad. Mae hyn fel arfer pan:

  • fydd y materion yn syml a gall yr arolygwyr archwilio eu deall o'r dogfennau ac ymweliad safle
  • nad oes angen profi'r ffeithiau a'r dystiolaeth trwy holi unrhyw un
  • na chynigir prynu tir yn orfodol.

Gwrandawiad llawr agored

Rydym yn cynnal gwrandawiad llawr agored os bydd rhywun yn gofyn amdano yn eu sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod mynegi sylwadau.

Mewn gwrandawiad llawr agored:

  • gall partïon â diddordeb siarad ar y materion maen nhw'n eu dewis
  • gall siaradwyr enwebu llefarydd er mwyn osgoi ailadrodd materion
  • gall arsylwyr sydd wedi cyflwyno sylw ysgrifenedig gymryd rhan os yw'r arolygwyr archwilio yn cytuno
  • caniateir i'r ymgeisydd ymateb.

Ar ddechrau gwrandawiad llawr agored, mae'r arolygwyr archwilio yn cadarnhau ym mha drefn y bydd cyfranogwyr yn siarad. Gallant osod terfyn amser ar gyfer siarad.

Ymchwiliadau

Rydym yn cynnal ymchwiliadau ar gyfer materion mwy cymhleth. Mae hyn fel arfer pan:

  • fydd y dystiolaeth yn dechnegol neu'n gyfreithiol iawn, wedi'i herio gan dystiolaeth gyferbyniol, a bydd angen i fargyfreithwyr neu gyfreithwyr ei hystyried
  • bydd angen rhoi tystiolaeth o dan lw.

Nid yw faint o ddiddordeb lleol sydd mewn achos fel arfer yn rheswm dros gynnal ymchwiliad, yn enwedig os yw'r sylwadau yn codi pryderon tebyg.

Mae ymchwiliad yn fwy ffurfiol na gwrandawiad. Bargyfreithwyr neu gyfreithwyr sydd fel arfer yn arwain y cwestiynau/y broses gwestiynu. Mae tystion yn rhoi tystiolaeth ac yn ateb cwestiynau.

Cymryd rhan mewn gwrandawiadau ac ymchwiliadau

Gall unrhyw un arsylwi gwrandawiad neu ymchwiliad, ond yr arolygwyr archwilio sy'n penderfynu pwy fydd yn cymryd rhan. Efallai y bydd arsylwyr yn gallu siarad, ond ni ellir gwarantu hyn. 

Os nad ydych wedi'ch rhestru yn y prif hysbysiad o'r archwiliad fel rhywun a wahoddwyd i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a'ch bod am gymryd rhan, e-bostiwch PEDW.Infrastructure@gov.wales cyn gynted â phosibl. Rhaid i chi esbonio pam rydych chi'n meddwl y dylech gael cymryd rhan.

Bydd unrhyw dirfeddiannwr y mae pryniant gorfodol yn effeithio arnynt yn cael ei wahodd yn awtomatig i gymryd rhan mewn gwrandawiad neu ymchwiliad.

Mewn gwrandawiad neu ymchwiliad, gallwn:

  • oedi ac ailgychwyn y sesiwn
  • parhau heb fod yr holl bartïon yn bresennol
  • gofyn i bobl sy'n tarfu i adael
  • gwrthod clywed tystiolaeth amherthnasol neu ailadroddus.

Ar y dechrau, byddwn yn esbonio'r materion i'w trafod ac yn cadarnhau'r drefn y bydd tystion yn rhoi tystiolaeth. Efallai y gofynnir i gyfranogwyr gyflwyno sylwadau i gloi o fewn 7 diwrnod.

Gweler ein canllaw ar gyfer cymunedau am ragor o gyngor ar wrandawiadau ac ymholiadau.

Ymweliadau â'r safle

Bydd arolygwyr yr archwiliad yn ymweld â'r safle a'r ardal leol. Pan fo modd gweld popeth o le cyhoeddus, bydd arolygydd yn cynnal ymweliadau ar ei ben ei hun. Os nad yw hyn yn bosibl, gwneir trefniadau i arolygwyr gael mynediad. Ni fydd unrhyw drafodaeth am y cynnig yn ystod yr ymweliad â'r safle.

Dylid gwneud ceisiadau i'r arolygwyr archwilio ymweld â lleoliadau penodol fel rhan o sylwadau ysgrifenedig yn unol â'r dyddiadau cau penodedig.

Newidiadau i'r weithdrefn

Efallai y byddwn yn newid sut rydym yn archwilio'r cais. Er enghraifft, os:

  • bydd rhywun yn cyflwyno tystiolaeth sy'n codi mater newydd
  • bydd rhywun yn tynnu ei sylwadau yn ôl.

Cyfarfodydd rheoli archwiliad

Weithiau rydym yn cynnal cyfarfodydd i drafod sut y bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal. Mae'r cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar faterion ymarferol, nid manylion y cais.

Gall cyfarfodydd ymdrin â'r canlynol:

  • y drefn y bydd gwahanol faterion yn cael eu harchwilio
  • trefniadau ar gyfer sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • anghenion iaith neu gyfieithu
  • cymorth i gyfranogwyr sydd angen help ychwanegol.

Dim ond os ydym yn eich gwahodd y gallwch chi gymryd rhan. Rydym bob amser yn gwahodd yr ymgeisydd. Efallai y byddwn yn caniatáu i eraill arsylwi.

Fel arfer cynhelir y cyfarfodydd ar-lein. Rydym fel arfer yn anfon hysbysiad cyfarfod i gyfranogwyr o leiaf 14 diwrnod ynghynt. Mae'r hysbysiad yn nodi:

  • diben y cyfarfod
  • yr agenda, yr amseroedd, a'r cyfranogwyr
  • dolen i'r cyfarfod rhithwir.

Byddwn yn cynnal y cyfarfod hyd yn oed os na all rhai gwahoddedigion fynychu. Rydym yn cyhoeddi crynodeb ar y porth gwaith achos.

Sut rydym yn hysbysu partïon â diddordeb

Ar ôl i ni benderfynu sut i archwilio cais, rydym yn anfon prif hysbysiad o'r archwiliad at yr holl gyfranogwyr yr archwiliad o fewn 5 diwrnod gwaith.

Hysbysiad y prif gyfnod archwilio

Mae'r hysbysiad y prif gyfnod archwilio y cyfeirir ato weithiau fel y PEN, yn nodi:

  • materion i'w harchwilio drwy sylwadau ysgrifenedig
  • materion a chwestiynau ar gyfer gwrandawiadau neu ymchwiliadau
  • unrhyw wybodaeth bellach y gofynnir amdani gan yr arolygwyr archwilio
  • yr amserlen ar gyfer pob sesiwn a'r dyddiadau cau allweddol
  • partïon a wahoddwyd i gymryd rhan mewn sesiynau (mae'r ymgeisydd bob amser wedi'i gynnwys)
  • enwau pobl sydd â'r hawl i siarad mewn gwrandawiadau llawr agored
  • lleoliad digwyddiadau neu ddolenni ar-lein ar gyfer presenoldeb rhithwir
  • canllawiau i gyfranogwyr ac arsylwyr
  • dyddiad cau ar gyfer ein hadroddiad ar benderfyniad neu argymhelliad i Weinidogion Cymru.

Cyfrifoldebau

Rhaid i bob parti:

  • ddarllen prif hysbysiad o'r archwiliad
  • cadw at ddyddiadau cau, gan mai dim ond mewn achosion eithriadol y rhoddir estyniadau
  • cadarnhau neu ofyn am bresenoldeb mewn gwrandawiad llawr agored cyn y dyddiad cau penodol.

Sylwadau ysgrifenedig pellach

Efallai y byddwn yn gofyn am sylwadau ysgrifenedig pellach. Gall y rhain fod mewn cysylltiad â gwrandawiad neu ymchwiliad neu beidio. Mae prif hysbysiad o'r archwiliad yn esbonio:

  • pwy ddylai eu cyflwyno
  • y materion neu'r cwestiynau i'w trafod
  • dyddiadau cau
  • sut mae'r terfyn geiriau 3,000 yn berthnasol.

Os yw eich datganiad ysgrifenedig ar gyfer ymchwiliad dros 1,500 o eiriau, mae'n rhaid i chi ddarparu crynodeb o hyd at 1,500 o eiriau.

Bydd hysbysiad y prif gyfnod archwilio yn gwahodd yr ymgeisydd i ymateb i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Bydd hefyd yn gwahodd unrhyw dirfeddiannwr yr effeithiodd pryniad gorfodol arno i ddarparu cynrychiolaeth ysgrifenedig bellach.

Amserlen yr archwiliad

Pan fydd gwrandawiadau ac ymchwiliadau yn digwydd

Oni bai bod yr ymgeisydd wedi gofyn i newid y cais, neu os oes angen mwy o wybodaeth ar yr arolygwyr archwilio, mae'r sesiynau'n dechrau o fewn 10 wythnos ar ôl i'r cyfnod mynegi sylwadau ddod i ben.

Bydd cyfranogwyr a wahoddir i wrandawiad neu sesiwn ymchwilio yn cael o leiaf 6 wythnos o rybudd. Rhaid i'r ymgeisydd roi cyhoeddusrwydd i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad mewn papur newydd lleol ac ar hysbysiad ger safle y cais, 4 wythnos ynghynt. 

Newid yr amserlen

Efallai y byddwn yn newid yr amserlen os:

  • yw'r ymgeisydd yn gofyn am newid y cais ('amrywiad') ac rydym yn cytuno
  • yw'r weithdrefn archwilio yn newid
  • oes oedi cyn derbyn sylwadau ysgrifenedig
  • na ellir dod o hyd i leoliad addas
  • nad yw personél allweddol yn gallu bod yn bresennol
  • oes angen mwy o wybodaeth arnom cyn i'r sesiynau ddechrau.

Byddwn yn hysbysu gwahoddedigion o leiaf 6 wythnos cyn unrhyw wrandawiad, ymchwiliad neu wrandawiad llawr agored a drefnwyd.

Os bydd tystiolaeth neu ffeithiau newydd yn codi ar ôl i'r archwiliad gau, byddwn yn gofyn i gyfranogwyr a ydynt am i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei ailagor. Efallai y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig newydd.

Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer penderfyniadau

Rydym yn disgwyl penderfynu ar geisiadau o fewn 52 wythnos o dderbyn y cais. 

Efallai y byddwn yn ymestyn y cyfnod hwn os:

  • yw'r cais yn gymhleth neu mae ganddo sawl rhan
  • yw'r cais yn cael ei newid yn ystod yr archwiliad
  • os oes angen i ni ystyried tystiolaeth newydd neu newidiadau i bolisi cynllunio
  • oes angen mwy o asesiadau amgylcheddol arnom
  • oes amgylchiadau annisgwyl yn atal cwrdd â'r dyddiad cau gwreiddiol.

Fel arfer, rydym yn ceisio caniatâd yr ymgeisydd oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i ymestyn y cyfnod archwilio. 

Mae prif hysbysiad o'r archwiliad yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y dyddiad targed newydd ar gyfer cyhoeddi'r penderfyniad neu'r adroddiad. 

Deddfwriaeth berthnasol

  • Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025
  • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025.