Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeiriadau post ar gyfer swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Gogledd Cymru

Caergybi

Timekeeper's Office
Porthladd Caergybi
Caergybi
LL65 1DQ

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mewn cerbyd yn unig

Mae swyddfa Caergybi yn safle arbenigol ac wedi’i lleoli o fewn porthladd Stena. Ar hyn o bryd trwy apwyntiad yn unig a dim ond mewn perthynas â Môr a Physgodfeydd y gellir ei defnyddio. Dim ond mewn cerbyd y gellir ei chyrraedd a bydd cyfarwyddiadau pellach yn cael eu darparu pan fydd apwyntiad wedi'i wneud.

Caernarfon

Doc Fictoria
Caernarfon
LL55 1TH

Swyddfa Caernarfon ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae'r prif safle bysiau yng Nghaernarfon wedi'i leoli ym Mhenllyn sy’n daith gerdded chwe munud o'r swyddfa. Am amserlenni bysiau, ewch i Traveline Cymru. Am amserlenni bysiau lleol ewch i wefan Cyngor Gwynedd am ragor o wybodaeth.

Ar drên

Mae'r orsaf drên agosaf i Gaernarfon ym Mangor sydd tua 9 milltir i ffwrdd. Mae angen cysylltiad bws o safle bws yr orsaf er mwyn cyrraedd Caernarfon. Am amserlenni bysiau a thrên ewch i Traveline Cymru.

Ar feic

Mae dau lwybr beiciau sy'n pasio'n agos i'r swyddfa yng Nghaernarfon. Mae gwybodaeth ar y llwybrau hyn ar gael ar wefan Sustrans. Mae safle beiciau ger y swyddfa lle gellir storio beiciau yn ystod y dydd.

Cyffordd Llandudno

Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ

Swyddfa Cyffordd Llandudno ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae safle bws ar y safle ac mae gwasanaeth Bws Rhif 24 rhwng Gorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno a Gorsaf Reilffordd Bae Colwyn yn aros yma drwy gydol y dydd. Mae gwasanaethau bws ychwanegol yn stopio ar Lôn Gul a Heol Conwy sydd lai na phum munud o gerdded o'r swyddfa ac yn gwasanaethu ystod eang o gyrchfannau.

Ar drên

Mae trenau i Gaerdydd, Llundain a Manceinion yn darparu gwasanaethau yng Ngorsaf Reilffordd Cyffordd Llandudno sydd tua 15 munud o waith cerdded o'r swyddfa.

Ar feic

Mae llwybrau beicio'n cael eu rhannu yng Nghyffordd Llandudno ond dydyn nhw ddim yn gwasanaethu'r swyddfa yn uniongyrchol. Mae gan y swyddfa resel feiciau dan do ddiogel y tu allan i'r swyddfa i adael a chloi eich beic wrth fynychu'r safle.

Wrecsam

Porthdy Grosvenor
1 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BS

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae'r swyddfa yn daith gerdded dwy funud o orsaf Fysiau Wrecsam.

Ar drên

Yr orsaf drên agosaf yw Wrecsam Cyffredinol. Mae'r swyddfa yn daith gerdded pum munud ar yr un ffordd.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa.

Canolbarth Cymru

Aberystwyth

Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UR

Aberystywyth office ar Google Maps

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae bysiau'n cysylltu â gorsaf fysiau Aberystwyth o amrywiaeth o leoliadau. Am amserlenni a gwybodaeth am fysiau cysylltwch â Traveline Cymru.

Ar drên

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithredu gwasanaeth bob awr yn ôl ac ymlaen i Aberystwyth, gyda chysylltiadau â Chaerdydd a Gogledd Cymru drwy Amwythig. Ewch i National Rail Enquiries i gynllunio'ch siwrnai ar y rheilffyrdd.

Ar feic

Gall teithwyr sy'n cyrraedd Aberystwyth ar y trên neu ar fws gyrraedd y swyddfa ar hyd Rhodfa Plascrug neu ar hyd Boulevard De Saint Brieuc.

Llandrindod

Adeilad y Llywodraeth
Spa Road East
Llandrindod Wells
LD1 5LG

Swyddfa Llandrindod ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae yna gysylltiadau bws lleol o orsaf fysiau Llandrindod i'r swyddfa. Mae safle bws yn Swyddfeydd Cyngor Sir Powys.

Ar drên

Mae'r swyddfa yn 10 munud ar droed o orsaf drenau Llandrindod (sydd ar Gilgant yr Orsaf LD1 5BB). Mae cysylltiadau bws lleol o'r orsaf i'r swyddfa.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa. Mae gan y swyddfa resel feiciau dan do ddiogel y tu allan i'r swyddfa i adael a chloi eich beic wrth fynychu'r safle.

Y Drenewydd

Tŷ Ladywell 
Y Drenewydd
Powys
SY16 1JB

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae'r safle bws agosaf i'r swyddfa yn daith gerdded fer i ffwrdd, wedi'i leoli oddi ar Back Lane (gyferbyn ag Argos). Mae Amserlen Bws Powys ar gael ar Traveline Cymru.

Ar drên

Mae'r swyddfa yn daith gerdded fer o orsaf drenau'r Drenewydd (sydd yn Old Kerry Road). Gallwch gyrraedd yr orsaf hon ar linell Cambrian yn uniongyrchol gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC). Mae TrC hefyd yn rhedeg gwasanaethau rhwng Canolbarth Lloegr, gogledd Cymru a de Cymru i'r Drenewydd drwy Amwythig. I ddod o hyd i'ch llwybr, ewch i wefan TrC.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa. Mae gan y swyddfa resel feiciau dan do ddiogel y tu allan i'r swyddfa i adael a chloi eich beic wrth fynychu'r safle.

De-orllewin Cymru

Caerfyrddin

Adeiladau'r Llywodraeth
Heol Picton
Caerfyrddin
SA31 3BT

Swyddfa Caerfyrddin ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae yna gysylltiadau bysiau lleol i Orsaf Fysiau Caerfyrddin. Mae safle bws (Barics) yn agos i swyddfa Llywodraeth Cymru. Y llwybr bws yw 222.

Ar drên

Mae'r swyddfa yn daith gerdded 15 munud o orsaf drenau Caerfyrddin (sydd ar Heol yr Orsaf, SA31 2BE).

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa. Mae gan y swyddfa ddwy resel feiciau dan do ddiogel y tu allan i'r swyddfa i adael a chloi eich beic wrth fynychu'r safle.

Aberdaugleddau

Pysgodfeydd
Ystafell 3, Cwrt Cedrwydden 
Parc Busnes Havens Head
Aberdaugleddau
SA73 3LS

Swyddfa Aberdaugleddau ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae safle bws yn agos i'r swyddfa, gyda chysylltiadau bws lleol i Orsaf Fysiau Hwlffordd.

Ar drên

Mae gorsaf drenau Aberdaugleddau yn agos i'r swyddfa sydd yn Iard yr Orsaf, Ffordd Victoria.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa.

Abertawe

Llys-y-ddraig 
Penllergaer Business Park
Abertawe
SA4 9NX

Swyddfa Abertawe ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae'r safleoedd bysiau agosaf i'r swyddfa yn daith gerdded fer, sydd wedi'i leoli naill ai ar Heol Abertawe, Penlle’r-gaer neu'r A483 (Parc Penlle'r-gaer). I ddod o hyd i'r llwybr mwyaf cyfleus i'r swyddfa, ewch i Gynlluniwr Taith Traveline Cymru.

Ar drên

Mae Gorsaf reilffordd Abertawe yn daith 20 munud mewn car/tacsi o'r swyddfa ac yn cynnig gwasanaethau rheolaidd rhwng Llundain, gogledd a de Cymru.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos i'r swyddfa. Mae gan y swyddfa resel feiciau tua 15 metr o'r brif fynedfa.

De-ddwyrain Cymru

Merthyr Tudful

Adeiladau'r Llywodraeth
Parc Busnes Rhydycar 
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Swyddfa Merthyr Tudful ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae Gorsaf Fysiau Merthyr Tudful yng nghanol y dref sydd 5-10 munud ar droed o'r swyddfa.

Ar drên

Mae gorsaf drenau Merthyr Tudful yng nghanol y dref sydd 5-10 munud ar droed o'r swyddfa.

Ar feic

Does dim lonydd beicio yn agos at y swyddfa ym Merthyr Tudful. Mae gan y swyddfa resel feiciau dan do ddiogel y tu allan i'r swyddfa i adael a chloi eich beic wrth fynychu'r safle.

Casnewydd

Oak House
Parc Cleppa
Casnewydd
NP10 8BD

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Y safleoedd a’r gwasanaethau bws agosaf yw'r Dragonfly (34, 35, 36), Parc Cleppa (30, SJ6, SJ9, SJ10, X15) a Lloyds Banking Group (145, X5), sydd i gyd yn daith gerdded fer o'r swyddfa.

Ar drên

Yr orsaf drenau agosaf yw Pye Corner, sy'n daith gerdded 30 munud o'r swyddfa. Gallwch gyrraedd yr orsaf hon ar lein Caerdydd Canolog i Lynebwy. Nid oes bysiau cysylltu o Pye Corner, ond mae'r bws X15 yn rhedeg o Forge Lane ar y ffordd i'r swyddfa.

Ar feic

Gall beicwyr gyrraedd y swyddfa drwy deithio ar hyd ffordd yr A48 o Gasnewydd neu Gaerdydd. Mae beicwyr wedi eu gwahardd rhag teithio ar hyd Forge Lane. Mae rhesel feiciau y tu allan i'r swyddfa lle gellir cadw beiciau yn ystod y dydd.

Bedwas

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Tŷ Afon
Ffordd Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Swyddfa Bedwas ar Google Maps

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae'r safle bws yn daith gerdded fer o adeilad Bedwas ac mae gwasanaethau A, 50, 50A a 86X yn pasio ger y swyddfa.

Ar drên

Yr orsaf drên agosaf i Fedwas yw tref Caerffili. Mae gwasanaeth A Stagecoach De Cymru yn mynd o'r orsaf drenau i Heol Bedwas.

Caerdydd Parc Cathays

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd
CF10 3NQ

Swyddfa Parc Cathays ar Google Maps
Ymweld â Pharc Cathays: canllawiau

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae Bws Caerdydd ac Adventure Travel yn gweithredu sawl gwasanaeth bws i ganol dinas Caerdydd. Ewch i wefannau Bws Caerdydd neu Adventure Travel i gynllunio'ch taith. Mae swyddfa Parc Cathays tua 10 munud ar droed o ganol y ddinas.

Ar drên

Mae Great Western Railway (GWR) yn rhedeg gwasanaethau rhwng Gorllewin Cymru a Paddington yn Llundain, sy'n aros yng Nghaerdydd Canolog tra bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu llwybrau ledled Cymru. Yr orsaf drenau agosaf i swyddfa Parc Cathays yw Cathays sydd bum munud ar droed o'r swyddfa.

Am wasanaethau rheilffordd ledled y DU i Gaerdydd, ewch i wefan Ymholiadau National Rail.

Ar feic

Mae llwybrau beiciau wedi’u darparu trwy ganol y ddinas ac o'i chwmpas i gefnogi beicwyr. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Caerdydd a Chwmni Pedal Power Caerdydd.

 

Bae Caerdydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Tŷ Hywel 
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Mae Bws Caerdydd rhif 6 Baycar yn stopio yn Stryd Pierhead a thu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru gerllaw'r Senedd. Mae Bws Caerdydd rhif 7 a rhif 8 yn stopio ar Stryd Pierhead, sydd o fewn tafliad carreg (tua 200 metr) i Dŷ Hywel. Ewch i wefan Bws Caerdydd i gynllunio’ch taith.

Ar drên

Mae gwasanaethau yn rhedeg o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r orsaf ychydig funudau o gerdded o Dŷ Hywel.

Ar feic

Mae lle i barcio beiciau ger mynedfa Tŷ Hywel. Ceir llwybrau beicio i bob cyfeiriad. Mae gan wefan Cyngor Caerdydd adnoddau i helpu i gynllunio'ch taith.

 

Llundain

25 Victoria Street
City of Westminster
London
SW1H 0EX

020 7799 5883

Trafnidiaeth gyhoeddus

Ar fws

Y safleoedd bws agosaf yw SC a SD (St James’s Park) neu T a V (Westminster Abbey) ar Victoria Street. Ewch i Fysiau - Transport for London (tfl.gov.uk) i gynllunio’ch taith a Bus - Transport for London (tfl.gov.uk) i weld y map bysiau.

Ar drên

Yr orsaf drên agosaf yw London Victoria. Ewch i National Rail Enquiries - Station facilities for London Victoria.

Ar London Underground

Mae'r orsaf agosaf, St James’s Park ar linellau District a Circle, yn daith gerdded pum munud o'r swyddfa. Mae gorsaf danddaearol London Victoria ar linellau Victoria, District a Circle yn daith gerdded 15 munud, ac mae gorsaf danddaearol Westminster ar linellau District a Circle hefyd yn daith gerdded 15 munud. Ewch i Plan a journey - Transport for London (tfl.gov.uk).