Neidio i'r prif gynnwy

Gan Kay Powell, Cynghorydd Polisi Cymru, Cymdeithas y Cyfreithwyr

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd Cymdeithas y Cyfreithwyr weithio ar drethi Cymru cyn i Gymru hyd yn oed gael y pŵer i godi trethi newydd. Yn y ffordd arferol, aethom ati i graffu’r ddeddfwriaeth ar gyfer disodli treth dir y dreth stamp a sefydlu awdurdod trethi newydd ar gyfer Cymru, sef Awdurdod Cyllid Cymru.

Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, a dyma'r corff cyntaf o’i fath yng Nghymru. Roedd yn amlwg o’r camau cyntaf un bod cyfle yma i weithio mewn ffordd newydd.

Gyda threthi newydd datganoledig i Gymru ar y gweill am y tro cyntaf mewn wyth canrif, rhoddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr gefnogaeth i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru i ddefnyddio dulliau'r unfed ganrif ar hugain i fynd ati; gan gydweithio i ddatblygu gwasanaethau a pholisïau trethu newydd.

Wrth ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru, gweithiodd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn agos â thîm craidd staff Llywodraeth Cymru a Awdurdod Cyllid Cymru, a oedd yn agored ac yn fodlon clywed barn cyfreithwyr gyda phrofiad o’r hen system drethi ac a oedd yn awyddus i wella’r system ar gyfer y trethi newydd.

Hefyd, cyfrannodd ein haelodau yn helaeth drwy ymuno â grwpiau defnyddwyr i gynnig eu barn a’u safbwyntiau yn ystod camau datblygu’r system dreth ddigidol. Roedd hyn yn golygu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu profi a mireinio ei wasanaethau cyn lansio ar 1 Ebrill.

Cyn y lansio, aethom ati i hyrwyddo digwyddiadau ymgysylltu Awdurdod Cyllid Cymru, a daeth bron i 1,000 o bobl o bob cwr o Gymru a Lloegr iddynt.

Mewn gweithdy ar y cyd, cafodd Kathryn Bishop, Cadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru a staff gyfle i ryngweithio â nifer o gyfreithwyr sy’n gwsmeriaid rheolaidd erbyn hyn. Erbyn mis Ebrill 2018, roedd yr Awdurdod Cyllid Cymru wedi cofnodi dros 1,200 o gofrestriadau.

Wrth weithio mewn partneriaeth, cyflwynwyd y Dreth Trafodiadau Tir yn y ffordd fwy hwylus bosib, ac rwy’n credu bod y ffordd arloesol hon o weithio yn lasbrint ar gyfer y dyfodol.

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn gorff proffesiynol annibynnol ar gyfer cyfreithwyr. Rydym yn cynrychioli ac yn cefnogi cyfreithwyr fel eu bod, yn eu tro, wedi'u paratoi yn y ffordd orau i helpu eu cleientiaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i lawsociety.org.uk.