Neidio i'r prif gynnwys

Gweledigaeth ar y cyd ar gyfer budd-daliadau Cymru

Wedi’i seilio ar egwyddorion urddas, symlrwydd a hygyrchedd Siarter Budd-daliadau Cymru, byddwn yn defnyddio dull ataliol wrth ddarparu budd-daliadau Cymru. Mae’n dod â chymorth ariannol ynghyd â gwasanaethau cynghori a chymorth ehangach at ei gilydd, gan helpu pobl i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr amser cywir, wrth ymateb i achosion a chanlyniadau tlodi ac anfantais.

Cefndir a diben

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella budd-daliadau Cymru er mwyn gwneud cymorth yn haws i’w gael ac yn addas i’r diben. Bydd gwaith Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru yn allweddol i gyflawni’r ymrwymiad hwn. Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi gofyn i Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru barhau i hyrwyddo gwaith Cam 1 hyd at ei gyflawniad, ynghyd ag ystyried cynnwys cyfres estynedig o fudd-daliadau i Gymru, fel rhan o ymdrech amserol i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu.

Nod y trywydd hwn yw adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma, a datblygu ac ehangu cwmpas y rhaglen i gynnwys mwy o fudd-daliadau i Gymru. Mae’n nodi’r gweithgareddau sydd eu hangen i weithredu proses symlach o ddarparu budd-daliadau cam un yn llawn ar draws yr holl awdurdodau lleol, yn ogystal â’r rhai sy’n ofynnol i gynnwys budd-daliadau eraill Cymru (ynghyd â gwahanol bartneriaid cyflawni) yn y gwaith, ac yn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen (os o gwbl) i symleiddio’r ddarpariaeth a chynyddu’r niferoedd sy’n eu hawlio.

Yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth a ddatblygwyd yn ôl yn 2020 gan Sefydliad Bevan a rhanddeiliaid eraill, mae’r grantiau a’r taliadau canlynol wedi’u diffinio’n flaenorol fel budd-daliadau Cymru. Felly, ystyrir y gallant fod o fewn cwmpas y trywydd hwn, ond byddant yn agored i drafodaeth a blaenoriaethu pellach wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen:

  • Bwndeli Babi 
  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cam 1)
  • Grant Cyfleusterau i’r Anabl
  • Cronfa Cymorth Dewisol (Cynllun Cysylltiedig)
  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg
  • Presgripsiwn am ddim
  • Prydau Ysgol Am Ddim (Cam 1)
  • Talebau Banc Tanwydd 
  • Gofal Plant a Ariennir
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) 
  • Talebau Cychwyn Iach
  • Cynllun y Gronfa Wres Genedlaethol 
  • Cynllun cartrefi cynnes NYTH
  • Cynllun Incwm Isel y GIG 
  • Grant Hanfodion Ysgol (Cam 1)

Mae hyn yn golygu y bydd rhai gweithgareddau ar y trywydd hwn yn cynnwys budd-daliadau/grantiau a ddarperir gan wahanol randdeiliaid, o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, ac nid gan awdurdodau lleol yn unig. Mae pob un ohonynt naill ai’n cael ei ariannu a/neu ei lywodraethu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r trywydd yn nodi camau gweithredu sy’n dechrau archwilio sut y gall y budd-daliadau ychwanegol hyn ddod yn rhan o ddarpariaeth fudd-daliadau gydlynol yng Nghymru, a’r rôl y gall y grŵp llywio ei chwarae wrth gyflawni hyn. Cydnabyddir graddfa a chymhlethdod yr her, a nod y trywydd yw gosod y sylfeini, gyda chamau gweithredu pellach i’w hychwanegu wrth i’r broses fynd yn ei blaen. Wrth i’r gwaith hwn barhau, bydd angen ystyried ehangu aelodaeth y grŵp llywio er mwyn sicrhau cynrychiolaeth briodol o bartneriaid cyflawni perthnasol, wrth nodi bod yr aelodaeth bresennol yn cynnwys cynrychiolwyr awdurdodau lleol sy’n ymwneud â darparu budd-daliadau yn ystod Cam 1 yn unig. Nid yw’r trywydd wedi’i fwriadu’n benodol i fapio cyfeiriad tuag at bwynt terfyn sefydlog. Yn hytrach, ei bwrpas yw amlinellu camau gweithredu sy’n helpu i ddatblygu gwelliannau pendant, fesul cam, i’r broses o ddarparu budd-daliadau yng Nghymru. Nod hyn yw sicrhau system les sy’n decach ac yn fwy tosturiol, sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd Cymru, ac sy’n cynnig cymorth effeithiol i unigolion a theuluoedd.

Beth rydym wedi’i wneud hyd yn hyn?

Yn ystod 2025 i 2026, goruchwyliodd Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru swm sylweddol o waith cymhleth, a oedd i raddau helaeth yn waith archwilio. Mae Adroddiad Cynnydd Cam 1, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2026, yn rhoi trosolwg manwl o’r gwaith a wnaed a chymhlethdodau integreiddio systemau gwahanol. Yn ogystal, mae’n cynnwys 6 argymhelliad eang y dylid eu gweithredu, er mwyn sicrhau bod y momentwm yn parhau mewn perthynas â 3 budd-dal Cam 1. Mae’r trywydd yn cynnwys y 6 argymhelliad, yn ogystal â chamau gweithredu eraill i gychwyn y gwaith ar restr estynedig o fudd-daliadau yng Nghymru sy’n cael eu symleiddio.

Yn ystod mis Awst/Medi 2026, cwblhawyd adolygiad cynnydd cyflym er mwyn deall i ba raddau yr oedd awdurdodau lleol wedi symud ymlaen, ac i sefydlu llinell sylfaen ar gyfer trefniadau monitro yn y dyfodol. Er i’r adolygiad ddatgelu rhywfaint o gynnydd da tuag at yr argymhellion yn yr adroddiad cynnydd, helpodd hefyd i nodi bylchau o ran gweithredu, ac rydym wedi defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd o’r adolygiad i lywio’r gwaith o ddatblygu camau gweithredu sy’n ymwneud â chydgrynhoi Cam 1 o fewn y trywydd hwn. 

Sut mae llwyddiant yn edrych?

  • Y nod hirdymor yw galluogi unigolion i gael gafael ar eu hawliau ariannol mewn ffordd symlach, waeth ble maent yn byw yng Nghymru.
  • Bydd pobl yn gallu adrodd eu stori unwaith er mwyn cael (neu gael eu cyfeirio at) yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hytrach na rhoi gwybodaeth a thystiolaeth sy’n dyblygu’r hyn a roddwyd sawl gwaith eisoes.
  • Bydd newid diwylliannol tuag at hawliau a’r arian mae pobl yn gymwys i’w gael, lle bydd rhwystrau fel stigma yn cael eu hystyried a’u dileu cyn belled ag y bo modd.
  • Bydd yr ymrwymiadau a’r canlyniadau o fewn Siarter Budd-daliadau Cymru yn sail i lwyddiant y nodau hyn.

Mae llwyddiant ar gyfer y rhestr o fudd-daliadau estynedig wedi’i ddiffinio fel:

System les sy’n adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau Cymru, yn helpu i leihau tlodi, yn hyrwyddo lles, ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Methodoleg

Mae ein hymrwymiadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru wedi eu mapio yn erbyn 5 amcan strategol.

1. System Budd-daliadau Mwy Syml i Gymru

  • Gweithredu’n unol â Safonau’r Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan hyrwyddo a hwyluso gallu dinasyddion i gael mynediad hawdd at y system mewn Cymraeg clir a hygyrch.
  • Addasu prosesau a systemau er mwyn diwallu anghenion a dewisiadau unigol, ac archwilio dulliau a fydd yn sicrhau bod budd-daliadau Cymru yn hygyrch drwy sawl sianel gyfathrebu – dulliau digidol, dros y ffôn neu drwy’r post.
  • Cadw at Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.
  • Mesur y nifer sy’n hawlio yn ôl nifer y bobl a gefnogir drwy gynlluniau budd-daliadau Llywodraeth Cymru.

2. System Budd-daliadau Gynhwysol i Gymru

  • Dangos tegwch a chydraddoldeb wrth ddarparu budd-daliadau yng Nghymru i sicrhau urddas a pharch wrth drin unigolion heb wahaniaethu. 
  • Diwallu anghenion grwpiau ymylol a difreintiedig, sydd mewn perygl arbennig o wynebu tlodi, gan gydnabod amrywiaeth pobl Cymru yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
  • Sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, yn deg a heb wahaniaethu, a bod y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei fabwysiadu gan yr holl bartneriaid cyflwyno.
  • Yn nodi a dileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt, a helpu pobl yn rhagweithiol i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
  • Yn codi ymwybyddiaeth a galluogi’r rhai sy’n gymwys i fanteisio ar eu hawliau drwy:
    • gyfathrebu ar bob sianel gyfryngau mewn ffordd sy’n hyrwyddo golwg gadarnhaol ar hawliau, ac mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys fformat Hawdd ei Darllen, Iaith Arwyddion Prydain, yn Gymraeg ac mewn ieithoedd cymunedol
  • Gwell ymwybyddiaeth o’r hawl i fudd-daliadau a’r cymorth sydd ar gael drwy negeseuon clir ynglŷn â budd-daliadau yng Nghymru a budd-daliadau sydd heb eu datganoli, sydd hefyd yn herio mythau a stereoteipiau.

3. System Budd-daliadau i Gymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Gwerthuso prosesau a systemau gyda’r bobl a fydd yn eu defnyddio, cyn eu rhoi ar waith yn y pen draw.
  • Yn hyblyg ac nid yn seiliedig ar un methodoleg sy’n addas i bawb – gall ymateb i newidiadau a phwysau bywydau pobl yng Nghymru.
  • Polisi i Gymru sy’n seiliedig ar wybodaeth ac wedi cynnwys partneriaid, unigolion a rhanddeiliaid eraill yn ei ddatblygiad.
  • Dyrannu adnoddau’n deg ac yn effeithlon ledled Cymru i gynnig gwasanaeth sy’n rhoi pobl yn gyntaf.
    Annog ac ymateb i adborth er mwyn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posibl.

4. System Budd-daliadau Gydlynol i Gymru

  • Sicrhau bod budd-daliadau newydd Cymru wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r system fudd-daliadau ddatganoledig bresennol, gan nodi’r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.
  • Gweithio tuag at un pwynt mynediad ar gyfer budd-daliadau Cymru.
  • Codi ymwybyddiaeth a galluogi’r rhai sy’n gymwys i fanteisio ar eu hawliau drwy:
    • sicrhau bod staff sy’n darparu budd-daliadau Cymru yn wybodus ac yn brofiadol, ac yn cael hyfforddiant parhaus i’w galluogi i roi’r cyngor diweddaraf a chymorth priodol
  • Codi ymwybyddiaeth a galluogi’r rhai sy’n gymwys i fanteisio ar eu hawliau drwy:
    • barhau i weithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau nad ydynt wedi’u datganoli yng Nghymru
  • Hwyluso’r broses o ganfod a yw rhywun yn gymwys am gymorth ariannol arall.
  • Gwneud defnydd o arferion rhannu data er budd y cyhoedd, yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

5. System Budd-daliadau i Gymru sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol

  • Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yng Nghymru, sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol.’
  • Codi ymwybyddiaeth a galluogi’r rhai sy’n gymwys i fanteisio ar eu hawliau, drwy eu cyfeirio at gyngor a chymorth annibynnol yn gynnar, er mwyn:
    • canfod beth sy’n achosi caledi ariannol, a mynd i’r afael â hynny, gan helpu i dorri’r cylch tlodi
    • eu helpu i wneud eu cais am gymorth ariannol a herio penderfyniadau
  • Gwella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel, gan eu cefnogi i gael dyfodol gwell a chyflawni eu potensial llawn.
  • Mwy o bobl yn hawlio budd-daliadau Cymru, gan helpu i wneud y mwyaf o incwm aelwydydd a chyfrannu at drechu tlodi yng Nghymru.
  • Datblygu cymunedau sy’n gydnerth yn ariannol drwy ein hymrwymiad i liniaru ac atal tlodi.
  • Llai o angen am gymorth brys, fel banciau bwyd, gan fod cartrefi yn cael eu cefnogi i fod yn gydnerth yn ariannol.

Trywydd 2026 i 2030

Isod yn dangos y camau gweithredu lefel uchel sy’n flaenoriaeth ac angen eu cyflawni o dan yr amcanion hyn yn y cam hwn, ynghyd ag amserlen ar gyfer eu cwblhau. Mae rhyngddibyniaethau i’w gweld yn amlwg rhwng rhai o’r blaenoriaethau hyn, a bydd y rhain yn cael eu rheoli er mwyn sicrhau nad oes dyblygu gweithgareddau.

Dylid nodi nad nod y trywydd hwn yw rhagnodi’r holl weithgareddau a fydd yn cael eu cynnal fel rhan o’r rhaglen. Yn hytrach, ei bwrpas yw cynnig cyfeiriad ar lefel uchel gyda’r nod o symud darpariaeth budd-daliadau Cymru ymhellach tuag at y nod terfynol. Cydnabyddir y bydd y trywydd yn esblygu, ac y gallai’r blaenoriaethau a’r allbynnau gael eu mireinio wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Lle bo modd, cyflwynir camau gweithredu yn nhermau’r hyn y gellir ei gyflawni neu ei ddarparu yn y

  • tymor byr (y 12 mis nesaf)
  • y tymor canolig (y 24 mis nesaf)
  • hirdymor (erbyn diwedd y tymor hwn: 2030)

Cyhoeddir y trywydd hwn o dan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru, a gymeradwywyd yn ffurfiol yn y Cyngor Partneriaeth ym mis Tachwedd 2023.

1. System Budd-daliadau Mwy Syml i Gymru

Blaenoriaeth 1

Datblygu llinell sylfaen o gynnydd tuag at yr ymrwymiadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru, a datblygu opsiynau ar gyfer monitro yn y dyfodol.

Cam gweithredu
  • Cynnal adolygiad cynnydd cyflym o’r 22 awdurdod lleol yn erbyn argymhellion Cam 1.
  • Cyfarfodydd unigol gydag awdurdodau lleol i drafod cynnydd a nodi rhwystrau neu anghenion cymorth.
  • Adroddiad blynyddol i’r grŵp Llywio ar gynnydd camau gweithredu’r trywydd.
Allbwn
  • Nodi bylchau mewn cynnydd, er mwyn canolbwyntio ar roi cefnogaeth a chyflawni ymrwymiadau. (Tymor byr)
  • Cytuno ar gamau gweithredu unigol i gyflawni canlyniadau’r trywydd, a nodi cymorth unigol ar gyfer pob awdurdod lleol. (Tymor byr)
  • Monitro cynnydd yn barhaus. (Parhaus)

Blaenoriaeth 2

Llywodraeth Cymru i ystyried cyfleoedd i symleiddio polisi, deddfwriaeth a chanllawiau darparu ar gyfer yr holl raglenni budd-daliadau yng Nghymru, er mwyn lleihau'r baich gweinyddol ar unigolion a phartneriaid cyflawni. 

Cam gweithredu
  • Cynnal ymgynghoriad ynghylch ailasesu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol, a gweithredu argymhellion.
  • Symleiddio’r broses i ddysgwyr cymwys wneud cais am gymorth ariannol wrth astudio cwrs addysg bellach cymwys.
  • Adolygu a diweddaru canllawiau ac amodau cyllido grantiau ar gyfer holl fudd-daliadau Cymru, er mwyn cynnwys camau gweithredu i gefnogi Symleiddio Budd-daliadau Cymru.
Allbwn
  • Yn amodol ar allbwn ymgynghoriad Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, bydd y baich gweinyddol ar awdurdodau lleol yn cael ei leihau. Gallai hyn hefyd leihau'r effaith ariannol ar hawlwyr sydd ag enillion ar y trothwyon hyn, neu o’u cwmpas. (Tymor canolig)
  • System ymgeisio sy'n dileu dyblygu ymdrech ac yn creu un cofnod wrth i unigolion cymwys symud o addysg bellach i addysg uwch. (Tymor canolig)
  • Galluogi myfyrwyr i nodi gwybodaeth unwaith ar gyfer grantiau addysgol ôl-16, o Addysg Bellach i Addysg Uwch, gan ddiweddaru’r wybodaeth dim ond pan fydd newidiadau. (Tymor canolig)
  • Canllawiau ac amodau cyllido grantiau ar gyfer partneriaid cyflawni wedi’u diweddaru, i weithio tuag at ddarparu yn unol ag ymrwymiadau Siarter Budd-daliadau Cymru. (Tymor byr)

Blaenoriaeth 3

Archwilio heriau sy’n ymwneud ag integreiddio systemau TG, fel y nodwyd yn ystod Cam 1, a chanfod atebion digidol addas i sicrhau bod profiad y cwsmer yn gwella.

Cam gweithredu
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol unigol i fynegi’r problemau a chanfod atebion, a’u bwydo i Grŵp Cynghori Digidol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Allbwn
  • Caiff cwsmeriaid brofiad gwell wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol. (Tymor canolig/hirdymor)

2. System Budd-daliadau Gynhwysol i Gymru

Blaenoriaeth 1

Mae pob awdurdod lleol yn gweithio i greu newid diwylliannol, gan symud i ffwrdd o reoli budd-daliadau yn unig tuag at ddull sy’n hyrwyddo mynediad at hawliau’n rhagweithiol, ac yn rhan o hyn, maent yn hyrwyddo’r defnydd o ddata o fewn ac ar draws yr awdurdod lleol yn weithredol (argymhelliad Cam 1).

Cam gweithredu
  • Sefydlu cymuned ymarfer i annog awdurdodau lleol i hyrwyddo cymhwysedd ar gyfer cymorth ariannol (budd-daliadau Cam 1) yn rhagweithiol.
  • Ymestyn y ffocws i restr estynedig berthnasol o fudd-daliadau Cymru dan arweiniad Awdurdodau Lleol (ALl) ar ôl i’r ymarferiad adolygu a darganfod gael ei gwblhau.
Allbwn
  • Cymuned ymarfer i annog gwella gwasanaethau allgymorth a chodi ymwybyddiaeth yn barhaus ar gyfer holl fudd-daliadau Cymru, gyda phrofiad bywyd ac adborth gan gwsmeriaid wrth wraidd y broses. (Tymor byr)

3. System Budd-daliadau i Gymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Blaenoriaeth 1

Adolygu holl fudd-daliadau Cymru er mwyn gwneud y mwyaf o’u heffaith a sicrhau gwerth am arian.

Cam gweithredu
  • Ystyried canfyddiadau adroddiad ymchwil a gomisiynwyd yn allanol.
Allbwn
  • Dealltwriaeth ddyfnach o sut y gall Llywodraeth Cymru gydweddu adnoddau, a’u heffaith ar unigolion yng Nghymru a gwneud y mwyaf ohonynt. (Tymor byr)
  • Rhoi blaenoriaeth gychwynnol i helpu i nodi pa fudd-daliadau y dylai’r grŵp Llywio ganolbwyntio arnynt fel rhan o’r cwmpas estynedig. (Tymor byr)

Blaenoriaeth 2

Awdurdodau lleol i fabwysiadu’r gwersi a ddysgwyd o waith datblygu ffurflenni Cam 1 a symud tuag at ddefnyddio un ffurflen gais ddeallus ar gyfer y budd-daliadau Cymreig a ddarperir ganddynt (argymhelliad Cam 1).

Cam gweithredu
  • Cofnodi’r gwersi a ddysgwyd o gyflwyno’r ffurflen yn Nhorfaen mewn astudiaeth achos a’i rhannu ag awdurdodau lleol eraill i helpu i symud tuag at ddefnyddio un ffurflen neu fecanwaith arall addas i gyflawni dull o weithio sy’n gofyn i bobl ‘ddweud wrthon ni unwaith’.
  • Diffinio ac asesu manteision defnyddio’r ffurflen gais unigol, o safbwynt y cwsmer a’r defnyddiwr (ALl) fel ei gilydd.
  • Nodi pa awdurdodau lleol sydd fwyaf parod i fabwysiadu, a gosod amserlen ar gyfer mabwysiadu yn seiliedig ar adnoddau, systemau ac ati, yn ogystal â deall yr amserlen a’r cyfyngiadau ar gyfer y rhai sy’n llai parod.
  • Archwilio opsiynau ar gyfer y dyfodol o ran integreiddio dull sy’n defnyddio un ffurflen i systemau cefndir (ar gyfer budd-daliadau Cam 1).
  • Ystyried y rhestr estynedig o fudd-daliadau yng Nghymru sydd dan arweiniad Awdurdodau Lleol - gan gynnwys tystiolaeth a’r galw gan gwsmeriaid - i’w chynnwys mewn dull un ffurflen (lle mae capasiti a phrosesau’n caniatáu).
Allbwn
  • Gwell mynediad at fudd-daliadau Cymru i unigolion ledled y wlad. Dileu’r baich o lenwi ffurflenni lluosog ar gyfer unigolyn. (Tymor byr/canolig)

Blaenoriaeth 3

Ailadrodd/adnewyddu’r weledigaeth ar gyfer darparu budd-daliadau Cymru.

Cam gweithredu
  • Datblygu a chyhoeddi Siarter Budd-daliadau Cymru wedi’i hailwampio.
  • Sicrhau cymeradwyaeth gan BOB partner darparu i’r ymrwymiadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru (sydd wedi’i llofnodi gan awdurdodau lleol yn unig ar hyn o bryd).
Allbwn
  • Siarter Budd-daliadau Cymru wedi’i hailwampio i adlewyrchu’r rhestr estynedig o fudd-daliadau Cymru. (Tymor byr)
  • Cymeradwyaeth ffurfiol i’r Siarter Budd-daliadau Cymru adnewyddedig gan y partneriaid darparu perthnasol. (Tymor byr)

Blaenoriaeth 4

Awdurdodau lleol i wella cyfleoedd i ymateb i gyswllt gan gwsmeriaid ac adborth, fel y nodwyd gan ymchwil CLlLC ar Gysylltiadau a Chwynion.

Cam gweithredu
  • Sefydlu safonau data gofynnol ar gyfer cofnodi ymholiadau.
  • Datblygu galluoedd hunanwasanaeth digidol e.e. ar gyfer statws taliadau a statws hawlio.
  • Gwell eglurder mewn llythyrau am benderfyniadau a chyfathrebiadau â chwsmeriaid e.e. ystyried datblygu templed safonol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
Allbwn
  • Gwell dealltwriaeth o foddhad cwsmeriaid a phrosesau adborth clir sy’n cyfrannu at ddylunio a darparu gwasanaethau. (Tymor canolig)

4. System Budd-daliadau Gydlynol i Gymru

Blaenoriaeth 1

Dylai pob awdurdod lleol fod â’r cytundebau a'r strwythurau rhannu data perthnasol ar waith i alluogi'r defnydd o ddata presennol i adnabod, targedu a chofrestru unigolion cymwys yn rhagweithiol, a lleihau'r wybodaeth sydd ei hangen pan fo angen ceisiadau (argymhelliad Cam 1).

Cam gweithredu
  • Archwilio/asesu'r rhwystrau sy'n wynebu'r 14 awdurdod lleol a nodwyd yn yr adolygiad cynnydd cyflym nad oes ganddynt Gytundebau Rhannu Data gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
  • Gweithio gyda Grŵp Cynghori Digidol CLlLC a Grŵp y Swyddogion Diogelu Data i ddeall a datblygu cynllun i oresgyn rhwystrau ar gyfer y 3 awdurdod lleol a nodwyd yn yr adolygiad cynnydd cyflym nad ydynt yn annog ailddefnyddio gwybodaeth ALl ar draws system Budd-daliadau Cymru.
  • Gweithio gyda 7 awdurdod lleol, a nodwyd yn yr adolygiad cynnydd cyflym, i roi Hysbysiadau Preifatrwydd ar waith, er mwyn caniatáu ailddefnyddio data a gesglir drwy geisiadau uniongyrchol at ddiben darparu’r hyn mae pobl yn gymwys i’w hawlio.
  • Datblygu Cymuned o Arferion Gorau mewn awdurdodau lleol er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiad o gwblhau a chael cymeradwyaeth ar gyfer Hysbysiadau Preifatrwydd ac Asesiadau Effaith Diogelu Data.
Allbwn
  • Dylai pob awdurdod lleol fod â Chytundebau Data yn eu lle. (Tymor byr)
  • Dylai’r holl Awdurdodau Lleol ailddefnyddio gwybodaeth ar draws y tri budd-dal yng Ngham 1, a fydd yn cyfrannu at greu newid diwylliannol tuag at ddyfarnu hawliau yn rhagweithiol. (Tymor byr)
  • Dylai pob ALl fod â Hysbysiadau Preifatrwydd yn eu lle, er mwyn caniatáu ailddefnyddio data a gesglir drwy geisiadau uniongyrchol at ddiben darparu’r hyn mae pobl yn gymwys i’w hawlio. (Tymor byr)
  • Goresgyn y rhwystr o archwaeth risg isel o fewn awdurdodau lleol o ran gweithgareddau rhannu data. (Tymor byr)
  • Arferion llywodraethu data mwy cyson ac effeithlon ar draws awdurdodau lleol, a fydd yn galluogi defnydd ehangach o ddata i nodi a chefnogi preswylwyr, a allai fod â hawl i fudd-daliadau, yn rhagweithiol. (Tymor Canolig)

Blaenoriaeth 2

Gweithio gyda phartneriaid cyflawni er mwyn creu rhestr estynedig o fudd-daliadau Cymru nad ydynt yn cael eu harwain gan ALl er mwyn deall a blaenoriaethu sut y gellir eu cynnwys o dan System Budd-daliadau Cymru gydlynol, wrth gynnal mecanweithiau ar wahân ar gyfer eu darparu.

Cam gweithredu
  • Nodi ac ymgymryd ag ymarfer ymgysylltu a darganfod gyda phartneriaid cyflawni, er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer cydlynu neu rannu gwybodaeth yn well rhwng partneriaid.
  • Datblygu cyfres o gamau gweithredu ar gyfer pob partner cyflawni er mwyn gweithio tuag at system gydlynol.
Allbwn
  • Cydlynu a rhannu gwybodaeth yn well rhwng partneriaid. (Tymor byr)
  • Cyfres o gamau gweithredu ar gyfer pob partner cyflawni, sy'n nodi'r hyn sydd ei angen i weithio tuag at ddarparu budd-daliadau cydlynol yng Nghymru. (Tymor canolig)

Blaenoriaeth 3

Ystyried sut i hyrwyddo budd-daliadau Cymru fel cynnig cydlynol, fel bod unigolion yn deall beth mae ganddynt hawl iddo.

Cam gweithredu
  • Defnyddio Cymuned arferion gorau CLlLC i ddeall gwerth a chwmpas datblygu dyluniad rhesymegol ar gyfer ceisiadau a hyrwyddo budd-daliadau ar draws Cymru, i’w defnyddio ar draws y 3 budd-dal yng Ngham 1 i ddechrau.
  • Hyrwyddo Budd-daliadau Cymru fel rhan o’r ymgyrch bresennol, Hawliwch yr Hyn sy’n Ddyledus i Chi.
  • Datblygu ffordd gyson o gyfeirio at Wasanaethau Cynghori fel rhan o’r broses ymgeisio am Fudd-dal yng Nghymru.
  • Symleiddio Gweithdai Dangos a Dweud ar gyfer Budd-daliadau Cymru i’w cynnal yn rheolaidd.
Allbwn
  • Cydraddoldeb gwasanaeth ledled Cymru. (Tymor byr)
  • Bydd pobl yn ymwybodol o’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig. Mwy yn manteisio arno. (Tymor byr)
  • Sicrhau bod pobl sy’n hawlio budd-daliadau Cymru yn cael eu cefnogi i ddod yn gydnerth yn ariannol. (Tymor byr)
  • Caiff rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol eu hysbysu, a gallant helpu i hyrwyddo hyn fel system gydlynol. (Parhaus)

5. System Budd-daliadau i Gymru sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol

Blaenoriaeth 1

Deall y goblygiadau os oes manteisio llawn ar fudd-daliadau’n digwydd yn erbyn arbedion posibl o ran canlyniadau iechyd, cyflogaeth a llesiant.

Cam gweithredu
  • Awdurdodau lleol i nodi cyfanswm y gost o gael y nifer llawn (100%) i hawlio budd-daliadau Cam 1 (argymhelliad Cam 1).
  • Awdurdodau lleol i ystyried yr angen am adnoddau ychwanegol.
  • Comisiynu ymarferiad dadansoddi ar gyfer costau a manteision.
Allbwn
  • Dealltwriaeth gliriach o effeithiau/arbedion yn y dyfodol sy’n deillio o gynyddu’r nifer sy’n hawlio nawr, er mwyn helpu i barhau i ddadlau o blaid yr achos. (Tymor byr)

Blaenoriaeth 2

Gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac adrannau eraill Llywodraeth y DU i roi gwell dealltwriaeth o’r defnydd o ddata i nodi pwy sy’n gymwys i gael cymorth ariannol arall. 

Cam gweithredu
  • Templedi a chanllawiau ar ailsefydlu porth cyfreithiol ar gyfer rhannu data.
Allbwn
  • Sefydlu pyrth cyfreithiol ar gyfer nodi a phenderfynu ar hawliau i gael budd-daliadau datganoledig neu fudd-daliadau a gedwir yn ôl. (Tymor byr)

Blaenoriaeth 3

Ystyried a ellir cyflawni’r uchelgais o ddarparu budd-daliadau symlach a chydlynol i Gymru yn llawn, heb ddeddfwriaeth. 

Cam gweithredu
  • Cynnal asesiad o’r opsiynau.
Allbwn
  • Llywio penderfyniadau ehangach Llywodraeth Cymru ynghylch deddfu mewn perthynas â Symleiddio Budd-daliadau Cymru. (Tymor canolig)

Atodiad 1: Symleiddio aelodaeth Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru (diwygiwyd ym mis Hydref 2026)

Ieithoedd amgen

Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.