Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mawrth 13 Hydref) cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams gynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru sy'n nodi'r camau nesaf ar daith ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynllun gweithredu, Cenhadaeth Ein Cenedl yn dangos y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws a'i hymateb i'r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yr wythnos diwethaf.

Mae'r ddogfen yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ers 2017 pan gyhoeddwyd y cynllun gweithredu cyntaf. Ymysg y prif lwyddiannau sy’n cael sylw mae’r canlynol:

  • Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella sgôr PISA ar draws y tri maes
  • mae nifer y disgyblion o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy'n ennill o leiaf un Radd C mewn TGAU Gwyddoniaeth wedi cynyddu 30%
  • mae addysg gychwynnol athrawon wedi'i diwygio'n llwyddiannus, gyda chynnydd o 50% mewn ceisiadau
  • mae buddsoddiad uwch nag erioed mewn dysgu proffesiynol athrawon, a’r cyflog cychwynnol yn uwch
  • 100% o ysgolion bellach yn defnyddio band eang cyflym iawn, o'i gymharu â 37% yn 2016.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Roedd yn amhosibl rhagweld y byddem yn agor y bennod hon o hanes addysg Cymru o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae tîm o 3.2 miliwn o bobl wedi bod yn rhan o’r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws, ac mae'r teulu addysg wedi ymateb i'r her gyda'i gilydd, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cefnogaeth o ran eu lles a'u gallu i ddysgu.

Mae'r diweddariad i Cenhadaeth Ein Cenedl yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod yr ymdrechion a'r llwyddiannau a wnaed gyda’n gilydd hyd yma, yn ystyried argymhellion yr OECD, ac yn mapio cam nesaf y daith.

Mae ein diwygiadau addysg, sy’n canolbwyntio ar y Cwricwlwm i Gymru, yn ymdrech genedlaethol ar y cyd.

Mae sylfeini cadarn yn eu lle, ac wrth gydweithio byddwn yn parhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd.

Ochr yn ochr â chynllun gweithredu diweddaraf Cenhadaeth Ein Cenedl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen hefyd yn nodi ein disgwyliadau o'r hyn y bydd gwireddu'r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. 

Crëwyd 'Cwricwlwm i Gymru: y daith hyd at 2022' i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm.

Mae'r ddogfen wedi'i chyd-lunio â phartneriaid strategol gan gynnwys ymarferwyr, consortia rhanbarthol ac Estyn, ac mae mewn ymateb uniongyrchol i adolygiad yr OECD.

Dywedodd y Gweinidog:

Rwy'n llwyr gydnabod yr amgylchiadau heriol y mae ysgolion yn eu hwynebu. Er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen ddisgwyliadau ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. 

Mae'r ddogfen hon yn nodi rolau a chyfrifoldebau gwahanol rannau'r system addysg wrth gefnogi ysgolion. 

Mae cyhoeddi'r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig ar y daith i newid y cwricwlwm, ond dim ond pan fydd eu staff a'u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion eu defnyddio.