Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £1 miliwn ar gael i gefnogi prosiectau newydd a all helpu i leihau allyriadau amonia, ac mae'r ffenestr ymgeisio yn agor heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Canolbwynt yr her Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) hon yw'r sector amaeth yng Nghymru.

Nod yr her yw helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i leihau effeithiau niweidiol y llygrydd ar y tir ac yn yr atmosffer.

Mae amonia atmosfferig yn brif lygrydd sy'n cael ei allyrru gan weithgareddau amaethyddol, gyda'r rhan fwyaf o'r amonia yn dod wrth i sgil-gynhyrchion anifeiliaid bydru'n naturiol.

Mae gan y diwydiant gwartheg, yn enwedig y sector llaeth, er enghraifft, lefelau uchel o allyriadau amonia y gellir eu priodoli i'r cylch cynhyrchu.

Mae SBRI yn cysylltu heriau gyda syniadau arloesol o'r diwydiant, gan alluogi sefydliadau i ddefnyddio technoleg a datrysiadau newydd i fynd i'r afael â phroblemau gan gefnogi busnesau i ddatblygu a thyfu.

Bydd busnesau'n cael cyfle i lunio pecynnau tystiolaeth cadarn sy'n dangos sut y gall eu prosiectau leihau allyriadau amonia, a sut y maent yn cyd-fynd â rhestrau Ansawdd Aer y DU.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae mynd i'r afael ag allyriadau amonia yng Nghymru yn fater pwysig.

"Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o allyriadau amonia'n dod o'r sector amaeth ac felly mae'r her rydyn ni'n ei rhoi i fusnesau yn canolbwyntio'n bennaf ar hyn.

"Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn i wneud cais am gymorth."

Gall busnesau ddysgu mwy am Her Menter Ymchwil Busnesau Bach Amonia Llywodraeth Cymru a gwneud cais am gyllid drwy ymweld â Ammonia Challenge Brief - Welsh.docx (simplydo.co.uk)