Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Hydref 2023.

Cyfnod ymgynghori:
19 Mehefin 2023 i 2 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem gael eich barn ar ein cynigion ynghylch system fodern ar gyfer tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar gynigion i ddiwygio tribiwnlysoedd datganoledig Cymru. Ein nod yw creu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol a fydd yn diwallu anghenion cyfiawnder tribiwnlysoedd yng Nghymru yn well. Bydd modd ei haddasu hefyd i ddiwallu anghenion y dyfodol yng Nghymru.

Dyma’r prif gynigion: 

  • fframwaith statudol ar gyfer un system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol. Bydd yn cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf newydd Cymru gyda hawliau apelio clir a chyson i Dribiwnlys Apêl newydd Cymru
  • dyletswyddau statudol i gynnal annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd. Bydd mwy o annibyniaeth strwythurol i'r ffordd y caiff ei gweinyddu, drwy gorff newydd o’r enw "Tribiwnlysoedd Cymru/Tribunals Wales"
  • arweinyddiaeth farnwrol o dan reolaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a llywyddion a dirprwy lywyddion Siambrau
  • prosesau clir ac effeithlon i bennu rheolau gweithdrefnol ar gyfer y system dribiwnlysoedd newydd
  • trefniadau cyson ar gyfer penodi aelodau tribiwnlys. Prosesau clir ar gyfer ymdrin â thrawsneilltuo a chwynion.

Dogfennau ymgynghori

Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 306 KB

PDF
306 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.