Heddiw [dydd Mercher 1 Ebrill], bydd system gryfach ar gyfer codi pryderon am ofal y GIG yn dod i rym – y diwygiad mwyaf o ran sut yr ymdrinnir â chwynion mewn bron i 15 mlynedd.
Mae Gwrando ar Bobl yn disodli'r broses Gweithio i Wella â dull mwy tosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'n cyflwyno proses dau gam, sef cam datrys cynnar sy'n canolbwyntio ar ddeall a datrys pryderon yn gyflym, a cham ymchwilio ffurfiol a allai, os oes angen, gynnwys asesiad i bennu a ellir cynnig iawndal gwerth hyd at £50,000.
Mae newidiadau allweddol, sydd wedi'u llunio gan brofiadau'r cyhoedd o gwyno i'r GIG, yn cynnwys:
• Cynnig gorfodol o drafodaeth wrando ar ddechrau'r broses
• Cynigion eiriolaeth a chymorth yn weithredol drwy gydol y broses
• Cyfathrebu clir a hygyrch, gan esbonio terminoleg gyfreithiol neu feddygol gymhleth yn briodol
• Gwiriadau gorfodol i sicrhau bod pryderon yn cael eu datrys o fewn cyfnodau amser penodol.
Mae pedair egwyddor graidd yn sail i'r diwygiadau, sef sicrhau y gwrandewir ar bobl sy'n lleisio pryderon a'u bod yn cael eu trin â pharch, yr ymchwilir i bryderon mewn modd cymesur ac effeithiol, bod sefydliadau'r GIG yn dysgu o gwynion i leihau'r posibilrwydd o gwynion ailadroddus, a bod arweinwyr yn rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni'r gofynion rheoleiddiol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n galed i sicrhau bod y gofal gorau posibl ar gael i bawb, ond ry'n ni’n gwybod bod pethau’n gallu mynd o’i le weithiau.
Bydd y system hon sydd wedi'i gwella yn cryfhau proses pryderon bresennol y Gwasanaeth Iechyd yn sylweddol, drwy sicrhau y gellir gwneud cwynion yn hawdd a'u bod yn cael eu trin mewn modd tosturiol, effeithiol ac amserol.
Gall pobl godi pryderon am unrhyw wasanaeth a ariennir gan y GIG yng Nghymru, gan gynnwys practisau meddygon teulu, practisau deintyddol a fferyllfeydd, drwy un pwynt mynediad.
Mae eiriolaeth a chymorth annibynnol ar gael yn rhad ac am ddim drwy Llais yn www.llaiscymru.org.
Gall pobl sy'n anfodlon ar ôl ymchwiliad gan y GIG gyfeirio eu pryderon at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
