Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Mehefin 2013.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â'r canlynol: Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy, etc.) 2010, y Rheol Dolen Sicrwydd a'r diwygiadau i'r Ddogfen Gymeradwy sy'n cefnogi rheoliad 7 (Deunyddiau a chrefftwaith).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r Rheoliadau Adeiladu’n rheoli mathau penodol o waith adeiladu ac yn sicrhau bod yr adeiladau’n bodloni safonau penodol o ran:
- iechyd
- diogelwch
- lles
- cyfleustra
- cynaliadwyedd.
Rydym yn bwriadu:
- gwneud newidiadau i Reoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc) 2010
- gwneud diwygiadau i’r Ddogfen Gymeradwy sy’n cefnogi rheoliad 7
- i ddileu’r Rheol Dolen Sicrwydd.
