Mae dros 92% o wasanaethau gofal yng Nghymru wedi cyflawni safonau uchel yn ystod y 7 mis cyntaf o weithredu system sgorio newydd.
Ers mis Ebrill, mae 578 o arolygiadau o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref wedi’u cynnal a chafodd sgoriau eu cyhoeddi ar gyfer 566.
Mae’r system sgorio yn asesu gwasanaethau yn erbyn 4 thema allweddol:
- llesiant
- arweinyddiaeth a rheolaeth
- gofal a chymorth
- amgylchedd
Yn hytrach na chael un sgôr gyffredinol ar gyfer y cartref gofal neu wasanaeth cymorth cartref, mae gwasanaethau yn cael eu sgorio yn erbyn pob thema yn unigol.
O’r 2,115 o sgoriau a gafodd eu rhoi i wasanaethau gan Arolygiaeth Gofal Cymru rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2025, nodwyd bod 1,958 (92.5% ohonynt) naill ai’n ‘rhagorol’ neu’n ‘dda’. Felly, mae’r darlun ar gyfer gwasanaethau gofal yn gyson gadarnhaol ym mhob cwr o Gymru.
Mae sgorio yn ffordd bwysig o gefnogi gwelliannau parhaus yn y sector ac mae’n helpu pobl i ddeall ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu yn well.
Mae’r system wedi cael ei chroesawu gan ddarparwyr, â’r adborth yn tynnu sylw at broses arolygu sy’n drylwyr, yn dryloyw ac sy’n canolbwyntio ar helpu gwasanaethau i lwyddo.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:
Mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor eithriadol o ymroddgar a phroffesiynol y mae darparwyr gofal ledled Cymru.
Mae’n gadarnhaol gweld bod dros naw o bob deg dyfarniad yn dangos bod ein gwasanaethau yn darparu gofal rhagorol neu dda i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed.
Mae’r system sgorio newydd yn darparu tryloywder ac eglurder i deuluoedd sy’n gwneud penderfyniadau pwysig am ofal, gan dynnu sylw ar yr un pryd at feysydd rhagoriaeth ac annog y sector i barhau i wella
Dywedodd Gillian Baranski, y Prif Arolygydd yn Arolygiaeth Gofal Cymru:
Rwy’n hynod falch o’r hyn y mae’r sgoriau hyn yn ei ddatgelu am ofal yng Nghymru. Mae’r canlyniadau hyn yn brawf o ymroddiad eithriadol staff gofal ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.
Mae’r system sgorio newydd wedi’i chynllunio i gydnabod y rhagoriaeth hon a chefnogi gwasanaethau i wella. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’r holl ddarparwyr i’w helpu i ddarparu’r gofal o ansawdd uchel y mae pobl yng Nghymru yn ei haeddu.
