Neidio i'r prif gynnwy

Mewn araith yn y Senedd, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ei blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei phortffolio newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth annerch y Siambr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Mae fy mhortffolio newydd Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio yn dwyn ynghyd yr elfennau allweddol sydd eu hangen i gyflawni fy mlaenoriaethau uchaf; mynd i'r afael â digartrefedd a'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol.

Er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ffurfioli'r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ddarparu 20,000 o gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol fforddiadwy yn ystod tymor y Senedd.

Mae'r cynllun datblygu cenedlaethol, Cymru'r Dyfodol, yn nodi y bydd angen tua 110,000 o gartrefi newydd yng Nghymru dros y cyfnod 2019-2039.

Trwy weithio'n agosach ac yn fwy effeithiol gyda llywodraeth leol a pharhau i gryfhau gwytnwch gwasanaethau cynllunio, gallwn fanteisio i'r eithaf ar ein siawns o ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen yng Nghymru.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet yn ei blaen:

Gyda system gynllunio gryfach, fwy gwydn, a pherthynas fwy strategol gydag awdurdodau lleol, rwy'n hyderus y gallwn wneud y mwyaf o'n cyfleoedd a darparu mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Mae ystadegau diweddar yn dangos bod darpariaeth tai fforddiadwy gan bartneriaid awdurdodau lleol yn 2022-23 wedi treblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae cymorth i ddarparu cartrefi fforddiadwy wedi cael ei ddarparu drwy fuddsoddiad mwy nag erioed yn y Grant Tai Cymdeithasol, buddsoddiad ychwanegol a hyblygrwydd drwy'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol a'r cynnydd mawr ei angen i'r Grant Cymorth Tai.

Mae systemau cynllunio gwydn yn hanfodol i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac mae gwaith eisoes ar y gweill i wella gwasanaethau cynllunio ac adnoddau.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â Chyd-bwyllgorau Corfforaethol i fynd i'r afael ag adnoddau a gwella gwydnwch.

Anogwyd awdurdodau lleol hefyd i adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol mewn modd amserol i gryfhau gwytnwch gwasanaethau cynllunio a chyflymu prosesau.

Mae sicrhau diogelwch cartrefi yn flaenoriaeth allweddol arall ac yn ddiweddar cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet lwybr tuag at waith adfer ar gyfer pob adeilad preswyl dros 11 metr, os oes cladin neu beidio. 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu system reoleiddio newydd yng Nghymru, creu llinellau atebolrwydd cliriach a gosod ystod o ddyletswyddau statudol ar "ddeiliaid dyletswydd" perthnasol adeiladau preswyl amlfeddiannaeth.