Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw ar ddefnyddio systemau monitro cynorthwyol ar gyfer llongau pysgota masnachol dan 12m.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae systemau monitro llongau arfordirol (iVMS) wedi'u gosod ar longau pysgota ac yn trosglwyddo gwybodaeth i'r awdurdod pysgodfeydd. Mae hyn yn cynnwys y lleoliad daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y llong. 

Daeth deddfwriaeth i rym ar 15 Chwefror 2022 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio VMS ar bob llongi pysgota trwyddedig dan 12m sy'n gweithredu yn Nwylo Cymru, a llongau Cymreig pa bynnag ble y maen nhw'n pysgota. Mae'n drosedd i bysgota heb ddyfais iVMS sy'n gweithio ar eich llong a gellid cymryd camau gorfodi.

Rhaid i ddyfeisiau iVMS ddarparu'r wybodaeth ganlynol i Lywodraeth Cymru (drwy ganolfan VMS y DU) o leiaf unwaith bob 10 munud:

  • Safle daearyddol diweddaraf y cwch hwnnw gan ddefnyddio cyfesurynnau lledred a hydred ar System Geodetig y Byd 1984, gyda chyfeiliornad safle o lai na 10 metr;
  • Dyddiad ac amser, wedi eu mynegi mewn Amser Cyffredinol Cyd-drefnedig, unrhyw safle daearyddol y cwch hwnnw;
  • Cyflymder a chwrs y cwch hwnnw ar yr adeg honno.

Pam y caiff llongau eu monitro

Mae dyfeisiau iVMS yn cael eu gosod ar gychod pysgota, ac maent yn anfon gwybodaeth, gan gynnwys lleoliad daearyddol, dyddiad, amser, cyflymder a chwrs y cwch, at yr Awdurdod Pysgota. O 15 Chwefror 2022 mae’n ofynnol cael dyfais iVMS ar gychod sy’n trosglwyddo’r wybodaeth i Awdurdodau Cymru bob 10 munud. Mae pysgota heb ddyfais iVMS weithredol ar eich cwch yn drosedd, a gall gwneud hynny arwain at gamau gorfodi’n cael eu cymryd.

Mae iVMS yn dangos i ni pryd a ble mae gweithgaredd pysgota yn digwydd. Mae hyn yn ein helpu i gael dealltwriaeth well o raddfa, lleoliad a tymhoroldeb gweithgaredd pysgota ac yn cynorthwyo rheoli pysgodfeydd.

Yn 2019 fe wnaethom gyflwyno system Cofnodi Dalfeydd ar gyfer cychod dan 10m. Mae hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth inni am yr hyn sy'n cael ei ddal yn nyfroedd Cymru. Mae cyfuno data dalfeydd â data’r iVMS yn rhoi darlun llawnach inni o weithgareddau pysgota ac yn ein helpu i reoli cynaliadwyedd pysgota.

Mae’r iVMS yn rhoi tystiolaeth i’r diwydiant o darddiad dalfeydd a lle mae’r cwch yn pysgota. Gellid defnyddio’r dystiolaeth hon i ddatrys gwrthdaro â defnyddwyr morol eraill ac ar gyfer ymateb i ymgynghoriadau cynllunio morol a thrwyddedu.

Mae cyflwyno’r iVMS yn creu gofyniad cyffredin i holl gychod y DU a thrydydd gwledydd sy'n pysgota yn nyfroedd Cymru, ac mae’n galluogi trefniadau gorfodi i weithredu mewn modd mwy effeithlon a thargededig.

Ni fydd dyfeisiau Succorfish yn cydymffurfio o 31 Mawrth 2026

Ym mis Awst 2025, daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol nad oedd dyfeisiau System Monitro Llongau Glannau Succorfish (iVMS) bellach yn trosglwyddo data i ganolfan VMS y DU yn unol â gofynion statudol.

Nes ichi gael eich hysbysu fel arall, dylai'r rhai sy'n defnyddio unedau Succorfish barhau i weithredu fel arfer, gan gynnwys cadw eu dyfeisiau iVMS wedi'u troi ymlaen a throsglwyddo data lleoliadol pan fyddant ar y môr. 

Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu'r disgwyliad y byddai'r toriad mewn trosglwyddo data yn gam dros dro, fodd bynnag, mae sawl mis bellach wedi mynd heibio heb ddatrysiad.

Yn effeithiol ar 31 Mawrth 2026, ni fydd dyfeisiau Succorfish nad ydynt yn trosglwyddo data i ganolfan VMS y DU bellach yn cael eu cydnabod fel rhai sy'n cydymffurfio â rheoliadau Gorchymyn Gweithrediadau Pysgota Môr (Dyfeisiau Monitro) (Cymru) 2022

Dyfeisiau wedi'u cymeradwyo

Efallai yr hoffech wirio’r rhestr o ddyfeisiau a gymeradwywyd gan y Sefydliad Rheoli Morol i nodi darpar gyflenwyr dyfeisiau amgen. Ar hyn o bryd mae Fulcrum/CLS wedi'i restru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dyfais nad yw ar y rhestr o ddyfeisiau a gymeradwywyd gan y Sefydliad Rheoli Morol neu sydd wedi'i gymeradwyo gan Awdurdod Pysgodfeydd arall y DU, bydd angen i chi gysylltu â ni i drafod a yw'r ddyfais yn addas. Rhaid i'r ddyfais allu trosglwyddo i ganolfan VMS y DU, gall unrhyw ddyfais nad yw'n cael ei chymeradwyo eisoes gan awdurdodau'r DU arwain at ffioedd cysylltu ychwanegol. 

Astudiaeth beilot Rewire ar gyfer dyfais iVMS newydd

Ar hyn o bryd rydym yn treialu dyfais iVMS newydd a gyflenwir gan Rewire ac yn chwilio am wirfoddolwyr ychwanegol. Mae nifer y cyfranogwyr yn gyfyngedig, gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i'r rhai sy'n defnyddio dyfais Succorfish ar hyn o bryd. Bydd iVMS Rewire yn cael ei ddarparu am ddim, ond nid yw costau gosod wedi'u cynnwys (gan fod y dyfeisiau yn rhai gwifredig), a bydd perchnogion llongau yn gyfrifol am dalu amser awyr yn uniongyrchol i Rewire. Ystyrir bod cymryd rhan yn astudiaeth beilot Rewire yn bodloni gofynion rheoleiddiol iVMS, a bydd cyfranogiad yn para am flwyddyn, gan ddod i ben ym mis Mawrth 2027. 

Os hoffech fod yn rhan o'r astudiaeth beilot neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: