Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddir, yn y diwydiant tacsis, fod Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat yn chwarae rôl bwysig wrth gyfleu delwedd gadarnhaol o'r ardal.

Er mwyn sicrhau bod y diwydiant cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn cyfleu delwedd broffesiynol a bod gyrwyr yn gyrru'n ddiogel, mae'r cod gwisg canlynol yn gymwys:

  1. Dylai dillad fod yn lân, mewn cyflwr da a heb eu difrodi
  2. Ni ddylai trowsus byr na sgertiau fod yn uwch na'r pengliniau
  3. Dylai esgidiau ffitio o amgylch sawdl y droed
  4. Ni ddylid gwisgo cyflau ('hoods') dros y pen wrth yrru

Mae enghreifftiau o ddillad derbyniol yn cynnwys:

  • Trowsus/jîns trwsiadus
  • Crys
  • Crys Ti trwsiadus
  • Trowsus byr trwsiadus
  • Crysau Polo
  • Siwmperi

Mae safonau gwisg annerbyniol yn cynnwys:

  • Dillad ac arnynt sloganau neu graffigwaith o natur sarhaus/awgrymog
  • Dillad brwnt, drewllyd, sydd wedi colli lliw neu wedi'u difrodi
  • Esgidiau megis fflip-fflops neu 'sliders' nad oes ganddynt strapiau sawdl
  • Sodlau uchel
  • Capiau pêl fas neu fathau eraill o wisg pen sy'n cuddio'r wyneb
  • Dillad nad ydynt yn gorchuddio'r ysgwyddau na rhan uchaf y breichiau megis festiau
  • Dillad nad ydynt yn gorchuddio'r frest neu'r bol megis topiau â gwddf isel neu 'crop tops'.

Nid yw'r rhestrau uchod yn gynhwysfawr a gall fod safonau gwisg eraill nad ydynt yn dderbyniol, ym marn Swyddogion Awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu. Gall methu â chydymffurfio â'r cod gwisg arwain at rybudd ysgrifenedig. Gall methiannau parhaus i gydymffurfio ar fwy na dau achlysur o fewn 12 mis arwain at atgyfeirio'r gyrrwr at y Pwyllgor Trwyddedu er mwyn iddo benderfynu ar unrhyw gamau ychwanegol sydd angen eu cymryd.