Neidio i'r prif gynnwy

Polisi ac Amodau ar gyfer Systemau Fideo 'Pwynt Taro' mewn perthynas â'u gosod a'u defnyddio mewn Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat

Mae systemau VPIS, a elwir hefyd yn gamerâu dangosfwrdd cerbyd, yn gamerâu sy'n wynebu tuag allan sy'n recordio delweddau y tu allan i'r cerbyd. Fe'u defnyddir i recordio delweddau os bydd cerbyd mewn damwain ffordd. 

Mae iddynt lawer o fanteision megis nodi pwy sy'n gyfrifol am achosi damwain, darparu tystiolaeth, datrys anghydfodau ac, mewn rhai achosion, gallant leihau premiymau yswiriant. 

Rhaid i berchenogion cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat trwyddedig sydd am osod system VPIS wneud hynny yn unol â'r polisi hwn a'r amodau hyn. 

Mae systemau VPIS/camerâu dangosfwrdd yn ddarostyngedig i'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a, chyn prynu system, dylai perchenogion cerbydau ddarllen Cod Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer Camerâu Gwyliadwriaeth a Gwybodaeth Bersonol a Chanllaw i'r GDPR, ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan Information Commissioner's Office.

Dylid nodi mai perchennog y cerbyd yw rheolydd data'r system a'i fod yn gyfrifol am y data, oni fydd y system yn cynnwys camerâu CCTV mewnol (gweler y polisi ar systemau CCTV am ragor o fanylion).

Rhaid i systemau sy'n recordio delweddau mewnol ac allanol gydymffurfio â'r polisi hwn a pholisi a gofynion yr Awdurdod Trwyddedu ar gyfer systemau CCTV. 

Amodau i'w gosod ar Drwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat:

  1. Ni ddylid gosod unrhyw system VPIS oni fydd nod 'CE' arni a'i bod yn cydymffurfio â Chyfarwyddeb y Cyngor 93/68/EEC neu'r hyn sy'n cyfateb iddi.
  2. Rhaid i berchennog y cerbyd lunio polisi ar systemau VPIS/camerâu dangosfwrdd sy'n nodi'n glir y sail gyfreithiol dros brosesu data personol a gesglir ac am ba hyd y cedwir y data. Dylid hysbysu unrhyw un sy'n gyrru'r cerbyd am ddiben y system.
  3. Bydd perchennog y cerbyd yn hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 7 diwrnod fod system VPIS wedi'i gosod ynddo. Bydd y cyfryw hysbysiad yn ysgrifenedig a bydd yn cynnwys manylion y cerbyd y mae'r system wedi'i gosod ynddo a gwneuthuriad, model a rhif nod CE  (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo) y system VPIS.
  4. Dylid gosod hysbysiad cynghori, a ddarperir gan y cyflenwr, y tu mewn i'r cerbyd ar ddwy ffenestr ochr y teithwyr yn y cefn. Dylid gosod yr hysbysiadau mewn man amlwg lle y gallant gael eu darllen yn hawdd gan bobl y tu mewn i'r cerbyd a'r tu allan iddo. Bydd y perchennog yn sicrhau bod yr hysbysiadau bob amser yn lân ac yn ddarllenadwy.
  5. Bydd y perchennog yn sicrhau bod y system yn cael ei chadw a'i chynnal a'i gwasanaethu'n briodol ac yn rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr gan unigolyn cymwys addas. Caiff cofnodion ysgrifenedig o'r holl waith cynnal a chadw a gwasanaethu eu gwneud a'u cadw gan y perchennog am o leiaf 12  mis. Darperir cofnodion ysgrifenedig o'r fath os bydd un o swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu neu Swyddog yr Heddlu yn gofyn amdanynt.
  6. Os bydd un o swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu neu Swyddog yr Heddlu yn gwneud cais i adalw delweddau , bydd y perchennog yn sicrhau bod y system VPIS ar gael i weinyddwr y system, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a sut bynnag o fewn 7 diwrnod i'r cais.
  7. Bydd perchennog y cerbyd yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw un sy'n gyrru'r cerbyd yn cael ei hysbysu am unrhyw amod sy'n ymwneud ag unrhyw system VPIS sydd wedi'i gosod yn y cerbyd a'i fod wedi cael cyfarwyddyd digonol ynghylch yr angen i ddarparu'r system cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a sut bynnag o fewn 7 diwrnod i unrhyw gais awdurdodedig i adalw unrhyw ddelweddau.
  8. Lle y bo angen, bydd y perchennog yn sicrhau bod hysbysiad yn cael ei gyflwyno i'r Comisiynydd Gwybodaeth i gwmpasu'r dibenion y mae'r system VPIS yn cael ei defnyddio ar eu cyfer.