Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth flynyddol am Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) a thrwyddedu HMO ar 31 Mawrth 2023

Nodyn

Mae’r wybodaeth hon wedi’i chynnwys yn flaenorol yn yr adroddiad ‘Peryglon a thrwyddedau tai’. Gweler cyhoeddiadau blaenorol Peryglon Tai a thrwyddedau ar gyfer blynyddoedd cynharach.

Cyflwyniad

Cyflwynwyd trwyddedu tai amlfeddiannaeth o dan Ddeddf Tai 2004 i helpu i sicrhau bod HMOs yn cael eu rheoli’n dda. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am drwyddedu gorfodol ar gyfer HMOs mwy, gyda risg uwch (gydag o leiaf dri llawr a phum preswylydd). Mae gan awdurdodau lleol hefyd y disgresiwn i ymestyn trwyddedu i gategorïau eraill o Dai Amlfeddiannaeth i fynd i'r afael â phroblemau penodol a all fodoli mewn eiddo llai neu mewn ardaloedd daearyddol penodol.

Prif bwyntiau

Rhwng 31 Mawrth 2017 a 31 Mawrth 2021, gostyngodd nifer y trwyddedau gorfodol o 2,973 i 2,443. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaraf, mae nifer y trwyddedau gorfodol wedi cynyddu, gyda 2,619 o drwyddedau gorfodol wedi’u cofnodi ar 31 Mawrth 2023.

Ers 31 Mawrth 2018, mae nifer y trwyddedau ychwanegol wedi gostwng yn raddol, o 6,056 yn 2018 i 4,332 yn 2023. Mae’r gostyngiad hwn yn bennaf oherwydd saib yn nhrwyddedu ychwanegol ward cymunedol Cathays yng Nghaerdydd (ailgyflwynwyd y drwydded hon yn ddiweddar yn 2023).

Ffigur 1: Nifer y tai amlfeddiannaeth trwyddedig, yn ôl y math o drwydded, 31 Mawrth 2014 i 31 Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell yn dangos bod nifer y trwyddedau mandedol ac ychwanegol wedi cyrraedd uchafbwynt ar 31 Mawrth 2018.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol.

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19.             

Ar 31 Mawrth 2023, yr awdurdodau lleol â’r nifer uchaf o HMOs trwyddedig oedd Caerdydd (2,187) ac Abertawe (1,693), y ddwy yn ardaloedd trefol mawr â lefelau uchel o anheddau rhent preifat a phoblogaethau myfyrwyr.

Ffigur 2: Yr amcangyfrif o dai amlfeddiannaeth a’r nifer sy’n hysbys, 31 Mawrth 2014 i 31 Mawrth 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart bar clwstwr sy'n dangos bod nifer yr HMOs amcangyfrifedig wedi amrywio rhwng 18,167 a 19,587 yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, tra bod nifer yr HMOs hysbys wedi amrywio rhwng 13,975 a 15,247.

Ffynhonnell: Dychweliadau Peryglon a Thrwyddedau gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Ni chafodd data eu casglu ar gyfer Mawrth 2020 oherwydd COVID-19. 

Ar 31 Mawrth 2023, amcangyfrifodd awdurdodau lleol fod cyfanswm o 18,252 o HMOs yng Nghymru, sef gostyngiad o 5% ar y flwyddyn flaenorol. Ynghyd â hyn cafwyd gostyngiad yn nifer yr HMOs y mae awdurdodau lleol yn gwybod amdanynt (o 14,697 ym mis Mawrth 2022 i 14,434 ym mis Mawrth 2023). Ar 31 Mawrth 2023, roedd 79% o HMOs amcangyfrifedig yn hysbys i awdurdodau lleol.

Gofnodwyd y niferoedd uchaf o HMOs amcangyfrifedig yng Nghymru gan Caerdydd ac Abertawe (7,000 a 2,100 yn y drefn honno). Yng Nghaerdydd ac Abertawe, roedd cyfran uchel o HMOs amcangyfrifedig yn hysbys i'r awdurdod lleol (92% yng Nghaerdydd ac 89% yn Abertawe). Mewn cyferbyniad, adroddodd Sir Ddinbych y nifer a oedd trydydd uchaf o HMOs amcangyfrifedig (1,345) gyda chyfran lawer llai o'r HMOs hyn yn hysbys i'r awdurdod lleol (16%).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Holly Flynn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.