Data blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am nifer yr anheddau a gafodd eu dymchwel yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tai a gafodd eu dymchwel
Gall nifer yr anheddau a ddymchwelir amrywio’n fawr o’r nail flwyddyn i’r llall. Bydd yn dibynnu ar faint o waith datblygu a gwaith clirio a wneir yn ardal pob awdurdod yn ystod y cyfnod dan sylw [troednodyn 1].
Prif bwyntiau
- Yn 2021-22, dymchwelwyd 100 o anheddau ledled Cymru, gostyngiad o 29% o'i gymharu â 2020-21.
- Yn yr 16 o awdurdodau lleol lle dymchwelwyd anheddau, roedd y niferoedd uchaf yng Nghaerffili (26), Gwyneddd (17), Powys (12) a Sir y Fflint (11).
- Roedd 13 achos o ddymchwel mewn ardaloedd adnewyddu (11 yn Sir y Fflint a 2 yn Nhorfaen), gan gyfrif am 13% o'r holl anheddau a gafodd eu dymchwel [troednodyn 2].
- Ers 2016-17, nid oes unrhyw waith dymchwel wedi cael ei wneud ar ardaloedd clirio yng Nghymru [troednodyn 3].
Troednodiadau
[1] Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo amcangyfrifon ar gyfer y stoc anheddau yng Nghymru.
[2] Mae cynlluniau adnewyddu tai sy’n seiliedig at ardaloedd yn galluogi'r awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar weithredu a buddsoddi mewn ardaloedd y mae angen cymorth arnynt ac sydd hefyd yn addas i'w hadnewyddu.
[3] Ardaloedd clirio yw ardaloedd lle’r ystyrir bod y tai yn anaddas i bobl fyw ynddynt neu eu bod yn beryglus neu'n niweidiol i iechyd y preswylwyr. Bydd yr awdurdod lleol yn datgan ardal glirio pan fydd yn fodlon mai'r ffordd fwyaf addas o ymdrin ag amodau o’r fath yw dymchwel yr holl adeiladau yn yr ardal honno.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.