Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ynghylch tai, sefydliadau cymunedol a phobl sydd ag ail gyfeiriad mewn tri bwletin ar wahân.

Mae’r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys crynodebau o’r tri maes pwnc hyn yng Nghymru. Mae’n darparu gwybodaeth am fathau o lety (gan gynnwys sefydliadau cymunedol) a deiliadaeth; nifer yr ystafelloedd, ystafelloedd gwely a chyfraddau cyfanheddu; mathau o wres canolog; ceir a faniau sydd ar gael i’w defnyddio a mathau o ail gyfeiriadau ar gyfer cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru o Gyfrifiad 2021.

Cyhoeddir data ar y nifer a’r mathau o anheddau fel rhan o gyhoeddiadau Cam 2 yr SYG.

Prif bwyntiau

Tai yng Nghymru

  • Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, roedd 87.2% (1.2 miliwn) o gartrefi’n byw mewn tŷ neu fyngalo, 12.5% (168,000) yn byw mewn fflat, neu maisonette a 0.3% (4,000) yn byw mewn carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro. Roedd cyfrannau’r cartrefi mewn gwahanol fathau o lety yr un fath yn ystod y degawd rhwng 2011 a 2021.
  • Yn 2021, roedd 66.4% (894,000) o gartrefi’n berchen ar eu cartref eu hunain, roedd 33.5% (451,000) o gartrefi’n rhentu eu cartref ac roedd 0.2% (2,000) o gartrefi ddim yn talu rhent.
  • Yn 2021, roedd gan 7.6% (103,000) o gartrefi yng Nghymru un ystafell wely, 23.8% (321,000) ddwy ystafell wely, 48.0% (646,000) dair ystafell wely ac roedd gan yr 20.6% (277,000) oedd yn weddill bedair ystafell wely neu fwy. Gostyngodd cyfran y cartrefi ag un, dwy neu dair ystafell wely dros y degawd diwethaf o 80.9% yn 2011 i 79.4% yn 2021, tra bod y gyfran â phedair ystafell wely neu fwy wedi cynyddu o 19.1% yn 2011 i 20.6% yn 2021.
  • Yng Nghymru, roedd gan 2.2% (30,000) o gartrefi lai o ystafelloedd gwely nag oedd eu hangen; roedd 21.4% (289,000) o gartrefi’n bodloni’r safon ofynnol o ran ystafelloedd gwely ac roedd gan 76.4% (1.0 miliwn) o gartrefi fwy o ystafelloedd gwely nag oedd eu hangen. Gostyngodd cyfran y cartrefi â llai o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen dros y degawd, o 2.9% (38,000) yn 2011 i 2.2% (30,000) o gartrefi yn 2021.
  • Roedd gan bron pob cartref wres canolog (98.8%, 1.3 miliwn) ac roedd 1.1% (14,000) o gartrefi’n defnyddio o leiaf un ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
  • Nid oedd gan bron i un rhan o bump o gartrefi Cymru unrhyw geir na faniau ac roedd gan ddau o bob pump o gartrefi un car neu fan. O gymharu â 2011, bu cynnydd cymesur yn nifer y cartrefi â mwy nag un car neu fan.

Preswylwyr sefydliadau cymunedol

  • Yn 2021, roedd yna 56,000 o breswylwyr sefydliadau cymunedol yng Nghymru (1.8% o’r holl breswylwyr arferol), cynnydd o 52,000 o breswylwyr yn 2011 (1.7% o’r holl breswylwyr arferol).
  • Roedd bron hanner (45.7%) preswylwyr sefydliadau cymunedol yn 16 i 24 oed, ac roedd 17.0% arall yn 85 oed neu’n hŷn. O’r cyfanswm, roedd 50.9% o breswylwyr sefydliadau cymunedol yn fenywod a 49.1% yn wrywod.
  • Roedd rhagor na thri chwarter preswylwyr sefydliadau cymunedol yn byw mewn sefydliadau addysgol (24,000, 43.6%) neu gartrefi gofal (20,000, 35.1%). Roedd 7.5% (4,000) o breswylwyr sefydliadau cymunedol mewn canolfannau prawf neu garchardai, gyda’r 13.8% sy’n weddill yn byw mewn ystod o sefydliadau cymunedol.

Pobl ag ail gyfeiriad

  • Dywedodd 5.2% (161,000) o breswylwyr arferol Cymru eu bod yn aros mewn ail gyfeiriad am fwy na 30 diwrnod mewn blwyddyn, sydd ychydig yn uwch na’r ffigur o 5.0% (154,000) yn 2011.
  • Yn gyffredinol, roedd 141,000 (4.5%) o breswylwyr arferol yn defnyddio ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig (DU) a 21,000 (0.7%) o breswylwyr arferol yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r DU.

Math o lety

Yn 2021, roedd 1.35 miliwn o gartrefi yng Nghymru gydag o leiaf un preswylydd arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, a 3,052,000 o breswylwyr arferol (98.2% o’r holl breswylwyr arferol) yn byw ynddynt. Gwelwyd bron 44,000 o gynnydd yn nifer y cartrefi ers 2011 (o 1.30 miliwn).

Ledled Cymru, arhosodd cyfrannau’r cartrefi mewn gwahanol fathau o lety yr un peth ar draws y degawd o 2011 i 2021. Yn 2021, roedd 87.2% (1.2 miliwn) yn byw mewn tŷ neu fyngalo, 12.5% (168,000) yn byw mewn fflat neu maisonette ac roedd 0.3% (4,000) yn byw mewn carafán neu fath arall o gartref symudol neu dros dro.

Ffigwr 1: Math o lety, 2021, Cymru a Lloegr, pob cartref

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae Ffigur 1 yn dangos bod cyfran llai o gartrefi yng Nghymru’n byw mewn fflat neu maisonette (12.5%) nag sydd yn Lloegr (22.2%) a bod cyfran mwy yng Nghymru’n byw mewn tŷ neu fyngalo (87.2%) nag sydd yn Lloegr (77.4%).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Mae data manylach yn dangos newidiadau bach yng nghyfran y cartrefi sy’n byw mewn gwahanol fathau o dai neu fyngalos gan gynnwys:

  • roedd 432,000 o gartrefi (32.1% o’r holl gartrefi) yn byw mewn adeilad semi, i fyny o 414,000 (31.8%) yn 2011
  • roedd 384,0000 (28.5%) yn byw mewn adeilad ar wahân, i fyny o 361,000 (27.7%) yn 2011
  • 358,000 (26.6%) yn byw mewn teras, i lawr o 361,000 (27.7%) yn 2011.

Yng Nghymru, gwelwyd y newid canrannol mwyaf yn y mathau o gartrefi yn Nhor-faen, Casnewydd a Merthyr Tudful, gyda chanran is o gartrefi’n dai neu fyngalos mewn teras a chanran uwch yn adeiladau ar wahân.

Deiliadaeth

Ystyr deiliadaeth yw a yw’r bobl sy’n byw yn y cartref yn berchen arno neu’n ei rentu. Gofynnwyd i’r cartrefi sy’n rhentu pa fath o landlord sy’n berchen ar eu cartref neu’n ei reoli.

Mae data’r cyfrifiad ar ddeiliadaeth yng Nghymru’n dangos:

  • gostyngiad yn y cyfran sy’n berchen ar eu cartrefi, o 67.8% (883,000) yn 2011 i 66.4% (894,000) yn 2021)
  • cynnydd yn y cyfran sy’n rhentu eu cartrefi, o 30.6% (399,000) yn 2011 i 33.5% (451,000) yn 2021)
  • gostyngiad yn y cyfran sy’n byw yn eu cartrefi heb dalu rhent, o 1.6% (20,000) yn 2011 i 0.2% (2,000) yn 2021)

Mae’r data manylach ynghylch pwy sy’n berchen ac yn rhentu eu cartref yn 2021 yn dangos bod:

  • 38.0% (512,000) o gartrefi’n berchen yn gyfan gwbl ar y cartref y maen nhw’n byw ynddo, cynnydd o 35.4% (461,000) yn 2011
  • 28.3% (382,000) o gartrefi’n berchen ar eu cartref gyda morgais neu fenthyciad neu gynllun rhanberchenogaeth, sy’n gyfran llai nag yn 2011 (32.3%, 422,000)
  • 17.0% (229,000) o gartrefi’n rhentu eu cartref yn breifat, i fyny o 14.2% (184,000) yn 2011
  • 16.5% (222,000) o gartrefi yn y sector rhentu cymdeithasol, er enghraifft, cyngor lleol neu gymdeithas dai; mae hyn ychydig yn uwch nag yn 2011 (16.4%, 215,000)

Yn gyffredinol, roedd y cyfran oedd yn berchen ar eu cartref (yn gyfan gwbl neu gyda morgais, benthyciad neu drwy gynllun rhanberchnogaeth) yn uwch yng Nghymru (66.4%) nag yn Lloegr (62.3%).

Roedd dau ranbarth yn Lloegr â chyfradd uwch yn berchen ar eu cartrefi na Chymru: De-ddwyrain Lloegr (67.1%) a De-orllewin Lloegr (67.0%). Ond roedd canran uwch yng Nghymru yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (38.0%) nag yn unrhyw ranbarth yn Lloegr.

Sut oedd deiliadaeth yn amrywio ar draws Cymru

Ffigwr 2: Math o ddeiliadaeth, 2021, Cymru a’r awdurdodau lleol yng Nghymru, pob cartref

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae'r siart colofn bentyrog hwn yn dangos sut roedd y math o ddaliadaeth yn amrywio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru gyda Chaerdydd yn dangos y berchnogaeth gyffredinol isaf o 58.3% a Sir Fynwy yn dangos y berchnogaeth catref uchaf sef 72.3%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y cartrefi ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn ôl deiliadaeth.

Yng Nghymru, roedd y cyfran oedd yn berchen ar eu cartref yn amrywio o 58.3% yng Nghaerdydd i 72.3% yn Sir Fynwy. Yng Nghaerdydd hefyd oedd y ganran uchaf o gartrefi oedd yn rhentu’n breifat gan gynnwys yn byw heb rent (24.3%). Tor-faen oedd â’r ganran uchaf o gartrefi yn y sector rhentu cymdeithasol (23.8%).

Ystafelloedd, ystafelloedd gwely a chyfraddau cyfanheddu

Ystafelloedd

Defnyddiodd Cyfrifiad 2021 ddata Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) i gyfrif nifer yr ystafelloedd mewn annedd, yn lle gofyn cwestiwn yn y cyfrifiad fel a wnaed yng nghyfrifiadau’r gorffennol. Cyfrifir pob ystafell mewn annedd ac eithrio ystafelloedd ymolchi, toiledau, cynteddau neu ben grisiau, ceginau, heulfannau neu ystafelloedd aml-bwrpas. Ar gyfer cartrefi mewn annedd a rennir ag eraill, cyfrifir nifer yr ystafelloedd yn yr annedd gyfan, nid fesul cartref.

Ar draws Cymru, roedd gan 6.6% (89,000) y cartrefi un neu ddwy ystafell, 75.7% (1.0 miliwn) dair, pedair neu bump ystafell, 16.7% (225,000) chwech, saith neu wyth ystafell ac 1.0% (13,000) naw ystafell neu fwy.

Ar lefel yr awdurdod lleol, Caerdydd oedd â’r ganran uchaf o gartrefi ag un neu ddwy ystafell (12.8%), Blaenau Gwent oedd â’r ganran uchaf o gartrefi â thair, pedair neu bump ystafell (87.1%) a Sir Fynwy oedd â’r ganran uchaf o gartrefi â chwech, saith neu wyth ystafell (26.0%). Powys oedd â’r ganran uchaf o gartrefi â naw neu fwy o ystafelloedd (2.1%).

Mae dull y VOA o gyfrif nifer yr ystafelloedd yn wahanol mewn sawl ffordd i’r dull a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad 2011. Er enghraifft, mae dull y VOA yn cynnwys ystafelloedd storio (na chawsant eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2011) ond nid yw’n cynnwys ceginau, heulfannau ac ystafelloedd amlbwrpas (a gynhwyswyd yng Nghyfrifiad 2011). Am hynny, ni ddylid cymharu data Cyfrifiad 2021 am nifer ystafelloedd yn uniongyrchol â’r data cyfatebol yng Nghyfrifiad 2011. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Amcangyfrif nifer ystafelloedd yng Nghyfrifiad 2011: diweddariad am ddulliau priodoli data Asiantaeth y Swyddfa Brisio - y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).

Ystafelloedd gwely

Fel yn 2011, roedd cwestiwn uniongyrchol yng Nghyfrifiad 2021 yn gofyn am nifer yr ystafelloedd gwely fesul cartref.

Ffigwr 3: Cyfran y cartrefi gydag un, dwy, tair a phedair neu fwy o ystafelloedd gwely, Cymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae Ffigur 3 yn dangos bod gan bron i hanner yr holl gartrefi dair ystafell wely a gyda bron i chwarter ohonynt â dwy ystafell wely.  Mae gan un rhan o bump o gartrefi bedair neu fwy o ystafelloedd gwely ac mae gan y cyfran sy’n weddill o gartrefi (7.6%) un ystafell wely.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Mae’r data’n dangos bod cyfran y cartrefi sydd ag un, dwy neu dair ystafell wely wedi gostwng yn y degawd diwethaf ond bod y cyfran sydd â phedair ystafell wely neu fwy wedi cynyddu:

  • 7.6% (103,000) o gartrefi ag un ystafell wely (o’u cymharu â 7.8%, 102,000 yn 2011)
  • 23.8% (321,000) â dwy ystafell wely (o’u cymharu â 24.2%, 316,000 yn 2011)
  • 48.0% (646,000) â thair ystafell wely (o’u cymharu â 48.9%, 637,000 yn 2011)
  • 20.6% (277,000) â phedair neu fwy o ystafelloedd gwely (o’u cymharu ag 19.1%, 248,000 in 2011)

Roedd gan Gymru ganran is na Lloegr o gartrefi ag un ystafell wely (7.6% o’u cymharu ag 11.6%), dwy ystafell wely (23.8% o’u cymharu â 27.3%) a phedair neu fwy o ystafelloedd gwely (20.6% o’u cymharu â 21.1%). Ond roedd canran y cartrefi â thair ystafell wely yn uwch yng Nghymru (48.0%) nag yn Lloegr (40.0%). Hefyd, cartrefi sydd â 3 ystafell wely yw’r mwyaf cyffredin yng Nghymru ac yn Lloegr.

Yng Nghymru, Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili sydd â’r gyfran uchaf o gartrefi â thair ystafell wely (58.1%), oedd yn ostyngiad yn y cyfran ers 2011 pan roedd gan 59.5% o gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot dair ystafell wely, a 59.1% yng Nghaerffili. Yn y ddau awdurdod lleol, arhosodd nifer y cartrefi gyda thair ystafell wely yr un fath dros y ddegawd (36,000 a 44,000 yn y drefn honno), tra bod nifer y cartrefi mewn llety llai neu fwy wedi cynyddu. Caerdydd oedd â’r gyfran isaf o gartrefi â thair ystafell wely (38.8%, 57,000), i lawr o 40.1% (57,000) yn 2011. Roedd gan Gastell-nedd Port Talbot (13.3% i 14.9%) a Chaerdydd (20.8% i 22.2%) gyfran uwch o gartrefi â phedair neu fwy o ystafelloedd gwely yn 2021 nag yn 2011.

Sir Fynwy (32.2%), 13,000) a Bro Morgannwg (28.2%, 16,000) oedd â’r cyfran uchaf o gartrefi â phedair ystafell wely neu fwy; Caerdydd oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi ag un ystafell wely (13.6%, 20,000) a Sir Ddinbych oedd â’r gyfran uchaf â dwy ystafell wely (30.5%, 13,000).

Cartrefi gorlawn a thangyfanheddu

Mae’r cyfraddau cyfanheddu yn fesur o’r graddau y mae cartref yn orlawn neu wedi’i dangyfanheddu.

Mae cyfradd gyfanheddu o 1 negyddol neu lai yn awgrymu bod llai o ystafelloedd gwely yn y cartref na’r safon ofynnol. Mae 1 positif yn awgrymu bod mwy o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen, ac mae 0 yn awgrymu y bodlonir y safon ofynnol. Am ragor o wybodaeth am y diffiniad o ystafelloedd gwely a’u cyfanheddu, gweler y Rhestr Termau (SYG).

Ffigur 4: Cyfran y cartrefi, fesul awdurdod lleol, yn orlawn, wedi’u tangyfanheddu neu’n cyrraedd y safon ofynnol, Cymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae Ffigur 4 yn dangos nifer y cartrefi yn 2021 oedd naill ai’n orlawn, wedi’u tangyfanheddu neu’n cyrraedd y safon ofynnol fesul awdurdod lleol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Ar draws Cymru, roedd gan 2.2% o gartrefi (30,000) lai o ystafelloedd gwely na’r gofyn, i lawr o 2.9% (38,000) yn 2011. Ar lefel awdurdod lleol, Caerdydd (3.9%) a Chasnewydd (3.4%) oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi â llai o ystafelloedd gwely na’r gofyn (cyfraddau cyfanheddu cyfartalog).

Roedd gan 21.4% (289,000) o gartrefi Cymru y nifer gofynnol o ystafelloedd gwely sy’n is na chyfradd Lloegr (26.8%, 6.3 miliwn). 

Roedd gan y 76.3% (1.0 miliwn) o gartrefi yng Nghymru sy’n weddill fwy o ystafelloedd gwely na’r gofyn, hynny o’u cymharu â 68.8% (16.1 miliwn) o gartrefi yn Lloegr. Ar lefel awdurdod lleol, Powys (82%) oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi â mwy o ystafelloedd na’r gofyn (cyfraddau cyfanheddu cyfartalog).

Gwres canolog

Dywedodd bron pob cartref yng Nghymru bod ganddynt wres canolog yn 2021 (98.8%, 1.3 miliwn), cyfran ychydig yn uwch o gartrefi nag yn Lloegr (98.5%). Er hynny, roedd 1.2% (15,000) o gartrefi heb wres canolog.

Y mathau mwyaf cyffredin o wres canolog oedd y prif gyflenwad nwy (71.6%, 965,000), dau fath o wres canolog neu fwy (heb gynnwys ynni adnewyddadwy) (9.2%, 124,000) ac olew yn unig (7.8%, 105,000). O’i chymharu â Lloegr, mae cyfran uwch o gartrefi yng Nghymru’n defnyddio olew yn unig (7.8% o’i gymharu â 3.2%), tanwydd solet (0.6% o’i gymharu â 0.2%) neu nwy tanc neu botel (2.0% o’i gymharu ag 1.0%) ar gyfer gwres canolog. Yn arbennig, cartrefi mewn ardaloedd gwledig oedd fwyaf tebygol o ddibynnu ar y mathau hyn o wres canolog a’r siroedd sydd â’r cyfran uchaf yn defnyddio olew yn unig yw Ceredigion (35.3%, 11,000), Powys (27.7%, 17,000), Sir Gaerfyrddin (23.7%, 19,000) a Sir Benfro (22.7%, 13,000).

Cartrefi heb wres canolog

Roedd cyfran is o gartrefi Cymru heb wres canolog (1.2%, 15,000) o’u cymharu â Lloegr (1.5%, 352,000).

Ar lefel awdurdod lleol, Gwynedd oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi heb wres canolog (3.2%, 2,000), fwy na dwywaith cyfartaledd Cymru. Ceredigion (2.6%, 800) ac Ynys Môn (2.3%, 700) oedd nesaf.

Ynni adnewyddadwy

Yn 2021, am y tro cyntaf, roedd y cyfrifiad yn gofyn a oedd gwres canolog y cartref yn defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy. Roedd cyfran y cartrefi oedd yn defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy ychydig yn uwch yng Nghymru (1.1%, 14,000) nag yn Lloegr (0.9%, 219,000). Dywedodd 0.6% (8,000) eu bod yn defnyddio ynni adnewyddadwy a math arall o wres canolog a dywedodd 0.5% (6,000) eu bod yn defnyddio ynni adnewyddadwy yn unig.

Ar lefel awdurdod lleol, Ceredigion oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi sy’n defnyddio o leiaf un ffynhonnell o ynni adnewyddadwy (4.1%, 1,000), gyda Phowys yn dilyn (3.1%, 2,000). Ceredigion hefyd oedd â’r gyfran uchaf o gartrefi sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy yn unig (2.6%) o holl awdurdodau lleol Cymru a Lloegr.

Car neu fan ar gael

Fel yng nghyfrifiadau’r gorffennol, gofynnwyd yng Nghyfrifiad 2021 sawl car neu fan yr oedd cartrefi’n berchen arnynt neu a oedd ar gael i’w defnyddio ganddynt.

Yng Nghymru yn 2021

  • Roedd 19.4% (262,000) o gartrefi heb gar na fan (i lawr o 22.9%, 299,000 yn 2011).
  • Roedd gan 41.7% (562,000) un car neu fan (i lawr o 43.0%, 560,000 yn 2011).
  • Roedd gan 28.1% (379,000) ddau gar neu fan (i fyny o 25.8%, 336,000 yn 2011).
  • Roedd gan 10.7% (144,000) dri char neu fan neu fwy (i fyny o 8.3%, 108,000 yn 2011).

Roedd canran y cartrefi yng Nghymru oedd heb gar na fan (19.4%) yn 2021 yn is nag yn Lloegr (23.5%) tra bo’r ganran o gartrefi â thri char neu fan neu fwy yng Nghymru (10.7%) yn uwch nag yn Lloegr (9.1%).

Yr awdurdodau lleol â’r ganran uchaf o gartrefi heb gar na fan oedd Caerdydd (26%, 38,000) a Merthyr Tudful (25%, 6,000), a’r awdurdodau lleol â’r canrannau uchaf o gartrefi â thri char neu fwy oedd Powys (15.0%) a Sir Fynwy (14.9%). Mae’r data’n awgrymu bod canran y cartrefi â cheir neu faniau yn uwch yn yr awdurdodau lleol gwledig na’r rhai trefol.

Preswylwyr sefydliadau cymunedol

Sefydliad cymunedol yw sefydliad ag arolygaeth amser llawn neu ran-amser sy’n darparu llety preswyl, fel neuadd breswyl i fyfyrwyr, ysgol breswyl, canolfan lluoedd arfog, ysbyty, cartref gofal a charchar.

Wrth ddehongli’r data, mae’n bwysig cofio y cafodd y cyfrifiad ei gynnal yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19) a allai fod wedi effeithio ar nifer y preswylwyr mewn rhai mathau o sefydliadau cymunedol. Er enghraifft, gallai’r amharu ar deithiau tramor fod wedi arwain at lai o fyfyrwyr mewn sefydliadau addysg na’r disgwyl, oherwydd y gostyngiad yn nifer y myfyrwyr o wledydd tramor.

Preswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl oed a rhyw

Yn 2021, roedd 56,000 o breswylwyr arferol Cymru (1.8% o’r holl breswylwyr arferol) yn byw mewn sefydliad cymunedol, o’u cymharu â’r 3,052,000 (98.2%) oedd yn byw mewn cartrefi.

Gwelwyd cynnydd o bron 3,700 yn nifer y bobl sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol ers 2011 (pan roedd 52,000 yn byw mewn sefydliadau cymunedol), cynnydd bach o’i fynegi fel canran o’r boblogaeth breswyl arferol (o 1.7%).

Yn yr ystadegau hyn, rydym wedi gwahaniaethu rhwng y rheini sy’n preswylio mewn sefydliad cymunedol a’r rheini sy’n rheoli neu’n gweithio ynddo (a’u teuluoedd). Rydym wedi rhannu’r data yn ôl rhyw ac oed y preswylwyr ond nid felly ar gyfer y nifer fach o berchenogion a staff sefydliadau cymunedol, aelodau eu teuluoedd a’r rheini sy’n aros mewn sefydliad cymunedol dros dro sydd heb gyfeiriad arferol yn y DU.

Mae’r dadansoddiad o’r data yn ôl rhyw ar gyfer y grŵp hwn yn dangos bod 50.9% o breswylwyr sefydliadau cymunedol (27,000) yn fenywod a 49.1% (26,000) yn wrywod.  Mae hyn yn debyg i’r rhaniad yn ôl rhyw ym mhoblogaeth breswyl arferol Cymru (51.1% benywod, 48.9% gwrywod).

Mae’r dadansoddiad yn ôl oed yn dangos bod y rhan fwyaf o breswylwyr sefydliadau cymunedol yn perthyn i ddau grŵp oed. O’r cyfanswm, roedd 45.7% o breswylwyr sefydliadau cymunedol (24,000) yn 16 i 24 oed. Mae’n debygol bod mwyafrif y grŵp hwn yn preswylio mewn sefydliad addysgol (fel neuaddau preswyl prifysgolion neu ysgolion preswyl), sef y math mwyaf cyffredin o sefydliad yr oedd preswylwyr yn byw ynddo.

Roedd 17.0% (9,000) arall yn 85 oed a hŷn. Roedd y rhaniad yn ôl rhyw yn y grŵp oed hwn yn dangos bod mwy na thri chwarter y grŵp oed hwn yn fenywod (78.6% o holl breswylwyr sefydliadau cymunedol sy’n 85 oed a hŷn). Mae’n bosibl bod hyn yn adlewyrchu poblogaeth sefydliadau cymunedol sy’n gartrefi gofal a’r gwahaniaeth rhwng disgwyliad oes dynion a menywod. Yng Nghymru, disgwyliad oes ar enedigaeth oedd 82 mlynedd i fenywod a 78 mlynedd i ddynion ar gyfer 2018-20. Roedd hyn yn ostyngiad bach ar gyfer gwrywod a benywod, yn dilyn cyfraddau marwolaeth uwch yn 2020 yn ystod pandemig COVID-19.

Mathau o sefydliadau cymunedol

Gellir rhannu sefydliadau cymunedol yn sefydliadau meddygol a gofal a mathau eraill o sefydliadau cymunedol (fel gwestai a hosteli, sefydliadau addysgol, canolfannau lluoedd arfog a charchardai).

Ffigur 5: Cyfran y preswylwyr sefydliadau cymunedol yn ôl mathau o sefydliadau cymunedol, Cymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Dengys Ffigur 5 mai sefydliad addysg oedd y sefydliad cymunedol mwyaf cyffredin, ac yna cartrefi gofal.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Mae “sefydliad addysgol” yn cynnwys neuaddau preswyl i fyfyrwyr ac ysgolion preswyl, ac roeddent yn cyfrif am 43.6% o breswylwyr sefydliadau cymunedol (24,000) mewn sefydliad addysgol. Roedd hyn yn gynnydd o fwy na 4,000 ers 2011 (i fyny o 20,000, 38.2%). Mae’n debygol bod hyn yn adlewyrchu’r twf yn nifer y myfyrwyr prifysgol yng Nghymru dros y degawd diwethaf a gallai adlewyrchu hefyd y newid yn y llety a ddewisir gan fyfyrwyr.

Roedd 35.1% arall o breswylwyr sefydliadau cymunedol (20,000) mewn cartrefi gofal, i lawr o 40.7% (21,000) yn 2011. O’r rhain:

  • roedd 19.2% (11,000) mewn cartrefi gofal heb ofal nyrsio (i lawr o 12,000 yn 2011)
  • roedd 15.9% (9,000) mewn cartrefi gofal gyda gofal nyrsio (9,000 hefyd yn 2011)

Roedd llawer llai o bobl yn byw mewn mathau eraill o sefydliadau cymunedol (wedi’u talgrynnu i’r cant agosaf):

  • roedd 4,000 (7.5% o holl breswylwyr sefydliadau cymunedol) yn y carchar neu mewn canolfan brawf
  • roedd 1,300 (2.3%) yn teithio neu mewn sefydliad llety dros dro arall
  • roedd 1,000 (1.8%) mewn hostel neu loches dros dro ar gyfer y digartref
  • roedd 1,000 (1.7%) mewn sefydliad amddiffyn
  • roedd 1,000 (1.6%) mewn ysbyty (gan gynnwys unedau diogel)
  • roedd 600 (1.1%) mewn sefydliadau meddygol a gofal eraill
  • roedd 500 (0.9%) mewn cartrefi plant (gan gynnwys unedau diogel)
  • roedd 100 (0.2%) mewn sefydliadau crefyddol
  • roedd 1,200 (2.2%) mewn sefydliadau oedd heb eu henwi

Roedd 1,000 (1.9%) arall mewn llety staff neu weithwyr yn y sefydliad cymunedol neu wedi rhestru math arall o sefydliad cymunedol.

Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) rhoddwyd cynlluniau ar waith i amddiffyn y rhai sy’n cysgu allan yng Nghymru. Roedd mwy o fathau o lety yn darparu llety i bobl oedd yn ddigartref yng Nghymru ac roedd symudiad o bobl ddigartref i wahanol fathau o lety. Gall y ffigurau ar gyfer y rhai mewn llochesi fod yn llai na'r disgwyl, oherwydd eu bod wedi symud i lety arall.

Gall ffigurau a gofnodwyd ar gyfer sefydliadau cymunedol fel neuaddau myfyrwyr a gwestai gynnwys pobl sy'n ddigartref. Nid yw pobl sy'n ddigartref sy'n cael llety mewn sefydliadau cymunedol eraill yn cael eu nodi yn y data fel pobl ddigartref.

Dylid dadansoddi'r data hwn â gofal ar gyfer cynllunio neu lunio polisi. Ystadegau digartrefedd yng Nghymru yw'r ffynhonnell ddata fwyaf priodol i gyfrif nifer y dyletswyddau digartrefedd a dderbynnir gan awdurdodau lleol.

Mae newidiadau bach wedi’u gwneud i ddiffiniadau tai ers Cyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig), sy’n golygu bod rhai unedau tai gwarchod wedi’u diffinio fel sefydliadau cymunedol yn 2011 ond fel cartrefi yn 2021. Dylai defnyddwyr gadw hyn mewn cof wrth gymharu data cyfrifiad 2011 â chyfrifiad 2021 am y pwnc hwn. Disgrifir hyn yn Newidynnau Tai Cyfrifiad 2021.

Sut roedd poblogaethau sefydliadau cymunedol yn amrywio ar draws Cymru a Lloegr

Roedd cyfran y bobl sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol yn debyg rhwng Cymru a Lloegr.  Yn Lloegr, roedd 1.7% o’r boblogaeth (986,000) yn byw mewn sefydliadau cymunedol o’u cymharu ag 1.8% yng Nghymru (56,000).

Sefydliadau addysgol a chartrefi gofal oedd y mathau mwyaf cyffredin o sefydliadau cymunedol yng Nghymru ac yn Lloegr.  Roedd 0.8% o’r boblogaeth breswyl arferol yn byw mewn sefydliadau addysgol yng Nghymru (24,000) ac yn Lloegr (452,000). 0.6% oedd y ganran oedd yn byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru (20,000) ac yn Lloegr (324,000).

Yng Nghymru, yr awdurdodau lleol â’r ganran uchaf o bobl mewn cartrefi gofal oedd Sir Ddinbych a Chonwy (1.2% yn y ddau).

Ar lefel awdurdod lleol, roedd yr ardaloedd â’r ganran uchaf o’u poblogaeth mewn sefydliadau addysgol yng Nghymru yn ddinasoedd a threfi prifysgol i gyd, gyda Cheredigion (4.3%) a Chaerdydd (3.5%) ar ben y rhestr.

Roedd y data’n dangos hefyd y bu cynnydd yn nifer y bobl mewn carchardai (4,000, 7.2% yn 2021, o 3,000, 4.8% yn 2011). Agor carchar newydd (HMP Berwyn) yn Wrecsam yn 2017 oedd yn gyfrifol am hyn.

Pobl ag ail gyfeiriadau

Yn ogystal â chofnodi eu prif gyfeiriad, roedd Cyfrifiad 2021 yn gofyn hefyd i ymatebwyr gofnodi a oeddynt yn aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 o ddiwrnodau mewn blwyddyn. Os oeddynt, gofynnwyd iddynt wedyn beth oedd pwrpas yr ail gyfeiriad ac a oedd y cyfeiriad hwnnw yn y DU neu’r tu allan iddi. 

Bydd gwybodaeth am ail gyfeiriadau yng Nghymru ar gael fel rhan o allbynnau pellach y cyfrifiad.

Gyda’r data hyn, mae’n bwysig ystyried effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19), er enghraifft, mae’n bosibl bod myfyrwyr wedi bod yn fwy tebygol o aros yng nghyfeiriad eu rhieni neu eu gwarcheidwaid am y flwyddyn academaidd gyfan heb ddefnyddio ail gyfeiriad yn ystod y tymor.

Roedd canran y bobl ddefnyddiodd ail gyfeiriad ychydig yn is yng Nghymru (5.2%) nag yn Lloegr (5.4%).

Yng Nghymru, defnyddiodd canran uwch o’r preswylwyr arferol sy’n byw yng Nghaerdydd (10.5%) a Cheredigion (10.2%) ail gyfeiriad, ond Blaenau Gwent (2.7%) a Merthyr Tudful (3.0%) oedd â’r canrannau isaf.

Y mathau mwyaf cyffredin o ail gyfeiriadau oedd cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall (a ddefnyddiwyd gan 58,000 o bobl, 36.0% o’r rheini a ddefnyddiodd ail gyfeiriad) a chyfeiriadau cartref myfyrwyr (37,000, 23.2%).

Pobl ag ail gyfeiriadau yn y DU a’r tu allan iddi

Yn gyffredinol, roedd 141,000 o bobl yng Nghymru (4.5% o’r boblogaeth breswyl arferol) yn defnyddio ail gyfeiriad yn y DU, i fyny o 125,000 (4.1%) yn 2011. Roedd gan Gymru gyfran uwch na Lloegr o bobl a oedd yn defnyddio ail gyfeiriad yn y DU (4.5% o’u cymharu â 4.1%).

Yn 2021, roedd 21,000 (0.7%) yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r DU, gostyngiad o’i gymharu â 2011 (29,000, 1.0%). Roedd gan Loegr gyfran uwch o bobl yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r DU (1.3% o’u cymharu â 0.7%).

Yr awdurdodau lleol oedd â’r ganran uchaf o bobl oedd yn defnyddio ail gyfeiriad yn y DU oedd Ceredigion (9.1%), Caerdydd (9.0%), Gwynedd ac Abertawe (y ddau â 6.6%). Mae gan bob un o’r ardaloedd hyn brifysgolion, felly mae’r ganran uchel o bobl sydd ag ail gyfeiriad yn debygol o adlewyrchu myfyrwyr sydd â chyfeiriad amser tymor a chyfeiriad y tu allan i’r tymor.

Yr awdurdodau lleol sydd â’r ganran uchaf o breswylwyr oedd yn defnyddio ail gyfeiriad y tu allan i’r DU oedd Caerdydd (1.5%) a Cheredigion (1.1%).

Mathau o ail gyfeiriad

Gofynnwyd i’r bobl a ddywedodd eu bod yn defnyddio ail gyfeiriad “Pa fath o gyfeiriad yw’r cyfeiriad hwnnw?” a rhoddwyd rhestr o wyth o opsiynau i ddewis o’u plith.

Ffigwr 6: Math o ail gyfeiriad, Cymru, 2021

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae Ffigur 6 yn dangos mai’r math mwyaf cyffredin o ail gyfeiriad yn 2021 oedd “Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall”.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Cyfrifiad 2021

Byddai “Cyfeiriad rhiant neu warcheidwad arall” wedi cael ei ddewis ar gyfer plant oedd â rhieni wedi gwahanu neu’n byw ar wahân. Dewiswyd hyn gan 58,000 o bobl yn 2021 (1.9% o’r boblogaeth breswyl arferol), cynnydd sylweddol ers 2011 (o 39,000, 1.3%).

Y grŵp mwyaf nesaf oedd “Cyfeiriad cartref myfyriwr”, gyda 37,000 (1.2%).  Mae’r nifer yn y grŵp hwn wedi gostwng ers 2011, pan roedd yn 45,000 (1.5%).  Mae hyn fwy na thebyg yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19), gan y byddai llai o fyfyrwyr na’r disgwyl fel arall wedi aros mewn cyfeiriad amser tymor.

Y gostyngiad mwyaf o ran nifer y bobl rhwng 2011 a 2021 oedd y rheini a ddywedodd eu bod yn defnyddio “Cyfeiriad arall”.  Rhan o’r rheswm am y gostyngiad hwn yw’r categori newydd yn 2021: “Cyfeiriad partner”.  Yn 2021, dywedodd 13,000 (0.4%) eu bod yn defnyddio’r math hwn o ail gyfeiriad.

Y ddau grŵp nesaf a welodd ostyngiad yn ôl nifer y bobl oedd “Cyfeiriad arall wrth weithio i ffwrdd o’r cartref” (11,000 (0.4%) yn 2021 o 16,000 o bobl (0.5%) yn 2011) a “Chyfeiriad un o ganolfannau’r lluoedd arfog” (2,000 (0.1%) yn 2021 o 5,000 (0.2%) yn 2011).

Roedd y gyfran a ddywedodd bod ganddynt “Gyfeiriad tŷ gwyliau” fel ail gyfeiriad yn fwy sefydlog. Gwelwyd cynnydd o 300 yn nifer y bobl ar draws Gymru a ddywedodd eu bod yn defnyddio cartref tŷ gwyliau i 18,000 yn 2021, ond roedd y ganran yr un peth (0.6%) ar gyfer 2011 a 2021. Roedd y ganran o’r boblogaeth a oedd yn defnyddio cartref tŷ gwyliau yn uwch yn Lloegr (0.8%) nag yng Nghymru (0.6%).

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Darllenwch fwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer Tai (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Darperir rhagor o wybodaeth am brosesau sicrhau ansawdd yn y fethodoleg ar gyfer sicrhau amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Swyddfa Ystadegau Gwladol).

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.

Bydd datganiadau pellach o ddata Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi yn yr ychydig fisoedd nesaf, gan gynnwys gwybodaeth am bynciau fel cyfeiriadaeth rywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, addysg ac iechyd a lles. I gael rhagor o wybodaeth am y data a'r dadansoddiadau fydd ar gael, gweler cynlluniau datganiadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Geirfa

I gael geirfa lawn, gweler Geiriadur Cyfrifiad 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Eu diben yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Rhiannon Jones
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 01/2023