Rhaglen gyfnewid ryngwladol ar gyfer dysgu a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac a ddarperir gan International Learning Exchange Programme Ltd, is-gwmni i Brifysgol Caerdydd, fel Gweithredwr y Rhaglen.
Manylion
Mae Taith yn ariannu staff addysg a dysgwyr i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau, ac yn dod â dysgwyr ac addysgwyr o bob cwr o'r byd i Gymru. Ers ei lansio yn 2022, mae'r rhaglen wedi creu cyfleoedd i deithio a dysgu ar draws pob rhan o Gymru a phob sector addysg, gan gynnwys addysg oedolion, addysg bellach a galwedigaethol, addysg uwch, ysgolion a gwaith ieuenctid.
Mae Taith hefyd wedi denu myfyrwyr ac addysgwyr o bob cwr o'r byd i Gymru, i helpu i gyfoethogi ein lleoliadau addysg a dod â llawer mwy o amrywiaeth a diwylliant i'n hystafelloedd dosbarth a'n campysau.
Cysylltwch â ni
I ddarganfod mwy am raglen Taith a'i heffaith, ewch i wefan Taith.
