Neidio i'r prif gynnwy

Bydd tîm trawiadol o 7 cystadleuydd talentog o Gymru sydd wedi'u hyfforddi i lefel uchel yn rhan o Dîm y DU yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf Ewrop yr hydref hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Tîm y DU yn cynnwys 19 o gystadleuwyr o bob cwr o'r DU, gyda Thîm Cymru yn ffurfio tua 37% o'r tîm. Bydd Tîm y DU yn cystadlu mewn 17 o sgiliau yn EuroSkills.

Mae prentisiaid a dysgwyr ifanc gorau Cymru yn mynd i Ddenmarc ym mis Medi i brofi eu hunain yn erbyn eu cyfoedion yn EuroSkills Herning 2025.

Wedi'i ddewis a'i hyfforddi mewn rhagoriaeth sgiliau gan WorldSkills UK - mewn partneriaeth â'r cwmni dysgu gydol oes Pearson - bydd y tîm yn cystadlu mewn cyfres o sgiliau a disgyblaethau sy'n hanfodol ar gyfer twf economaidd.

Mae aelodau'r tîm eisoes wedi bod trwy fisoedd o brosesau cystadlu a dethol ac maent bellach yn wynebu misoedd tyngedfennol olaf eu rhaglen hyfforddi ddwys ar gyfer y gystadleuaeth eleni.

Bydd yn cynnwys technolegau adeiladu, digidol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg yn y diwydiannau sero net a gwyrdd.

Mae WorldSkills UK yn defnyddio ei gyfranogiad yn y gystadleuaeth i hyrwyddo rhagoriaeth sgiliau ac ymgorffori safonau hyfforddi o'r radd flaenaf.

Mae EuroSkills Herning 2025 hefyd yn cael ei ystyried yn llinyn mesur hanfodol i fesur parodrwydd y DU i gystadlu ar y llwyfan byd-eang yng nghystadleuaeth WorldSkills. Yn cael ei hadnabod fel y 'Gemau Olympaidd Sgiliau', bydd y gystadleuaeth WorldSkills nesaf yn cael ei cynnal yn Shanghai ym mis Medi 2026.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sergeant:

Dylai'r dynion a'r menywod ifanc sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru a'r DU fod yn falch iawn o'u llwyddiannau. Mae eu hymroddiad wedi dod â nhw i'r pwynt hwn, ond mae'n fwy na hynny. Maen nhw'n hyfforddi i safonau mor uchel i allu cystadlu, ac mae'r safonau hynny'n dod yn ôl i'r gweithle, gan godi'r genhedlaeth nesaf o dalent.

"Mae'r gweithwyr proffesiynol ifanc hyn yn cefnogi twf diwydiant, yr economi a chynhyrchiant ac rwy'n dymuno pob lwc i bob un ohonyn nhw."

Dywedodd Adam Youens, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Cambria a Rheolwr Hyfforddiant CNC WorldSkills UK:

Mae gweithio gyda'r unigolion ifanc talentog hyn wedi bod yn brofiad anhygoel o werth chweil. Mae eu hymroddiad, eu hangerdd a'u gwytnwch yn wirioneddol ysbrydoledig. Wrth iddyn nhw baratoi i arddangos eu sgiliau ar lwyfan Ewrop yn EuroSkills, does gen i ddim amheuaeth y byddwn ni i gyd yn falch iawn ohonynt. Mae'r cyfle hwn nid yn unig yn tynnu sylw at eu galluoedd eithriadol ond hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus.

"Ar ben hynny, mae'r daith hon wedi bod o fudd sylweddol i'n colegau drwy wella ein harbenigedd ein hunain. Mae'r hyfforddiant a'r paratoi trwyadl wedi meithrin diwylliant o ragoriaeth ac arloesedd ymhlith ein staff a'n myfyrwyr fel ei gilydd. Rwy'n hyderus y bydd eu cyfranogiad yn agor drysau i gyfleoedd newydd ac yn gosod meincnod ar gyfer cystadleuwyr yn y dyfodol."