Neidio i'r prif gynnwy

Mae Talgarth Bakery o Faesteg ar fin symud rhan o'i weithgareddau cynhyrchu i uned newydd ei hadnewyddu, diolch i help Cyllid Busnes Ad-daladwy Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y benthyciad o £195,000 yn galluogi'r cwmni pobi i gynhyrchu mwy a buddsoddi cyfanswm o £700,000 mewn cyfleusterau cynhyrchu newydd ym Mharc Diwydiannol Heol Tŷ Gwyn gan greu deg swydd barhaol newydd a diogelu 20 o swyddi.  Daw hynny â'r cyfanswm a gyflogir gan y cwmni yn yr ardal i 90 o bobl. 

Bydd yr unedau newydd yn creu lle i'r busnes allu symud ei ffatri deisennau o safle Spelter a chynyddu'i gynhyrchiant, ehangu a chanolbwyntio ar Burts Cakes and Biscuts sydd newydd ei brynu ganddo ac sydd eisoes yn ennill ei blwyf ac yn tyfu. 

Mae'r cwmni newydd ennill contractau mawr gyda Morrisons a Booker.  Mae'n rhaid i'r cwmni ehangu felly i ddygymod â'r lefel uchel iawn o fusnes newydd ac i gynyddu ei gynhyrchiant a'i drosiant ryw 40% erbyn 2018. 

Cafodd Talgarth Bakery ei sefydlu ym 1904 a'i brynu gan ei berchennog presennol, Howard Hughes, ym 1986. Mae'r cwmni wedi bod yn tyfu'n gyson ers hynny ac y mae bellach yn cynhyrchu rhyw 500 o gynnyrch gwahanol bob wythnos gan eu cludo yn ei faniau ei hun i fwy na 200 o gwsmeriaid adwerthu a chyfanwerthu lleol anarferol o ffyddlon i'r brand. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae Talgarth yn gyflogwr pwysig yng Nghymoedd y De ac mae'n gwmni sydd â hanes hir o dyfu ac o wneud elw. Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y cwmni'n taro ei dargedau ehangu'n llwyddiannus."

Dywedodd Howard Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Talgarth Bakery: 

"Rwyf am ddiolch i Lywodraeth Cymru am barhau i gefnogi'n busnes, nid yn unig i'n helpu i ehangu ond hefyd i ddiogelu swyddi ein gweithlu ffyddlon."