Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Taliadau cymorth i ofalwyr di-dâl).

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Os oeddech yn cael Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022, neu os ydych wedi gwneud cais am Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022, neu cyn hynny, ac nid yw’r penderfyniad yn ei gylch wedi cael ei wneud eto, gallai fod hawl gennych i gael taliad o £500. Gwneir y taliadau hyn gan gydnabod bod gofalwyr di-dâl wedi bod o dan fwy o bwysau ariannol o ganlyniad i’r pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol y bu’n rhaid iddynt eu talu.

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer cael y taliad hwn, bydd angen i ni, drwy eich awdurdod lleol, gasglu eich data personol er mwyn gwirio i weld a ydych yn gymwys i gael y taliad, ac os felly, i roi’r taliad ichi.  

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a gesglir, a byddwn yn prosesu’r data hynny yn unol â’n tasg gyhoeddus a’r awdurdod swyddogol sydd wedi ei roi inni. 

Bydd eich awdurdod lleol yn casglu ac yn gwirio’ch gwybodaeth yn erbyn data sy’n cael eu cadw gan yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn sicrhau bod eich dyddiad  hawlio Lwfans Gofalwr yn gymwys, neu fod gennych gais am Lwfans Gofalwr sy'n mynd drwy broses a allai arwain at ddyfarniad sydd wedi ei ôl-ddyddio at y dyddiad cymwys.

Er mai Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data, ni fyddwn fel arfer yn cael unrhyw wybodaeth sy’n ei gwneud yn bosibl eich adnabod, oni bai eich bod am wneud y canlynol: 

  • gwneud cwyn 
  • arfer eich hawliau diogelu data o dan GDPR y DU, neu 
  • os bydd awdurdod lleol wedi nodi amheuaeth o dwyll, bydd eich awdurdod lleol yn rhoi copi o'ch gwybodaeth i ni i'n galluogi i ymateb i hynny. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu i’r data ar gyfer taliadau cymorth i ofalwyr di-dâl, a gedwir gan awdurdodau lleol, gael eu cynnwys yn ymarfer nesaf y Fenter Twyll Genedlaethol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn data dienw (sef data nad yw’n cynnwys unrhyw ddata adnabod) gan yr awdurdodau lleol at ddibenion monitro a goruchwylio; helpu gyda gwaith ymchwil; llunio polisïau gwell; a gwerthuso perfformiad y cynllun taliadau cymorth i ofalwyr di-dâl.

Ni fyddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bydd eu hangen at ddibenion y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl, ac at ddibenion archwilio a thalu. Byddwn yn cadw unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â thrafodion ariannol am gyfnod o chwe blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i’r canlynol:

  • cael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru ac i gael mynediad at y data hynny
  • mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data
  • (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu i’r data gael eu prosesu, neu i gyfyngu ar y prosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) mynnu bod eich data’n cael eu dileu
  • (o dan rai amgylchiadau) cludadwyedd data
  • cyflwyno cwyn i swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, neu os ydych am wneud cwyn yn ymwneud â phrosesu eich data, dylech e-bostio:   OlderPeopleandCarers@llyw.cymru 

Neu, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.
Gwefan: ico.org.uk

Newidiadau i’n polisi

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn sicrhau bod fersiynau newydd ar gael ar ein tudalen hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.