Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau sydd â chontractau â dyddiad dod i ben o 30 Mehefin 2023

Disgwylir bod pob prosiect sydd â chontract â dyddiad dod i ben o 30 Mehefin 2023 wedi ysgwyddo holl wariant cymwys y prosiect erbyn y dyddiad hwn yn ogystal â chyflwyno eu hawliad terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023 fan bellaf.

Os oes gennych eitemau neu weithgareddau buddsoddi o ran y prosiectau sydd wedi’u proffilio cyn neu ar gyfer mis Mehefin 2023, rhaid i chi gyflwyno eich hawliad(au) terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023 drwy’r cais am hawliad sydd ar gael ar eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Y Gofrestr Wariant a chofnodion Tendro Cystadleuol

Cofiwch gyflwyno’r wybodaeth sy’n ymwneud â thendro cystadleuol i RPW i’w chymeradwyo cyn cyflwyno’ch cais.

Ar gyfer eitemau prosiectau dros £500 ac o dan £5,000:

  • cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer cymeradwyo gwariant

Ar gyfer eitemau prosiectau dros £5,000:

  • cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer cymeradwyo gwariant
  • cyflwynwch dystiolaeth ategol h.y. copïau o 3 dyfynbris a gafwyd

Gellir dod o hyd i’r Cofnodion Tendro Cystadleuol gan ddilyn y ddolen hon: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020: templedi cofnod tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus.

Archwilio prosiectau yn fewnol

Mae’n ofynnol i RPW gynnal archwiliad mewnol ar bob prosiect cyn y gellir rhyddhau’r taliad terfynol.

Bydd yr archwiliad yn gwirio:

  • bod eitemau a hawlir yn eu lle
  • tystiolaeth o wariant y prosiect, lle bo’n briodol
  • bod allbynnau a dangosyddion ar gyfer eich prosiect wedi’u bodloni, a
  • bod amodau arbennig sydd o dan gontract wedi’u cwblhau

Bydd angen i brosiectau’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) ddarparu adroddiadau gwerthuso hefyd.

Er mwyn helpu i leihau’r amser sydd ei angen ar gyfer cynnal yr archwiliad yn ogystal ag osgoi oedi gyda’ch taliad terfynol, gofynnwn ichi ddechrau casglu’r wybodaeth o dan sylw cyn yr archwiliad.

Lle bo’n briodol, byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch cyn yr archwiliad ac yn rhoi rhagor o fanylion ichi am yr wybodaeth y bydd angen ichi ei chyflwyno.

Ymholiadau am brosiectau

Dylid cyfeirio a chyflwyno pob ymholiad a thystiolaeth ddogfennol:

  • i Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu
  • drwy eich cyfrif diogel RPW ar-lein

Os nad ydych yn gallu cael mynediad at eich cyfrif RPW ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn syth.

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid  yn gweithredu fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau agor

Dydd Llun i ddydd Gwener

9:00am tan 4:00pm

Lle bo’n bosibl, dylid cyflwyno ymholiadau neu geisiadau cyffredinol ynghylch prosiectau drwy’r cyfrif RPW ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.