Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i brosiectau sydd wedi’u cymeradwyo

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais am newidiadau i brosiectau sydd wedi’u cymeradwyo (ailwerthusiadau) yw 31 Ionawr 2023. Ni fydd unrhyw geisiadau i newid prosiectau yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.

Gweler diweddariad Tachwedd 2022 am yr amgylchiadau a’r broses ar gyfer gwneud cais am newid.  

Prosiectau y disgwylir eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2023

Mae disgwyl i bob prosiect sydd â hawliad ariannol olaf yn y Flwyddyn Ariannol hon (Ebrill 2022 i Fawrth 2023) gyflwyno eu hawliad terfynol erbyn 5 Ebrill 2023.

Os oes angen i chi ofyn am estyniad i ddyddiad dod i ben eich prosiect, bydd angen i chi gyflwyno cais i newid prosiect erbyn 31 Ionawr 2023.

Nodyn atgoffa ynghylch hawlio

Mae blwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru 2022/23 yn para o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Mae eich cyllid grant RDP wedi ei gyllidebu ar gyfer y blynyddoedd ariannol a gymeradwywyd fel rhan o Broffil Cyflawni eich prosiect.

Rhaid hawlio'r holl wariant prosiect cymwys a ysgwyddwyd yn y Flwyddyn Ariannol 2022/23 erbyn 5 Ebrill 2023 fan bellaf.

Os oes gennych hawliad wedi'i broffilio ar gyfer Mawrth 2023, bydd RPW yn gwahodd eich hawliad yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth i roi amser i chi gyflwyno'r hawliad erbyn 5 Ebrill 2023. 

Os na fyddwch wedi hawlio holl wariant cymwys y prosiect, mae perygl y gallech golli’ch grant.

Os oes gennych fwy nag un hawliad ar gael (â statws Gwahoddwyd), rydym yn eich cynghori i hawlio’r un diweddaraf a gofyn i ni ganslo’r hawliad(au) hŷn.

Cofrestrau Gwariant ac Ailwerthusiadau

Os oes gennych wariant prosiect cymwys y gellid ei hawlio cyn diwedd y Flwyddyn Ariannol ond rydych yn aros am gymeradwyaeth ar gyfer y gofrestr wariant neu ailwerthusiad prosiect, dilynwch y cyfarwyddiadau isod ynghylch croniadau os na fydd cymeradwyaeth wedi’i rhoi erbyn wythnos gyntaf mis Mawrth.

Gall peidio â chyflwyno croniadau beryglu’ch cyllid grant.

Nodyn Atgoffa ynghylch Croniadau

Bydd angen croniadau:

  • Os na fyddwch wedi gwario holl wariant Blwyddyn Ariannol 2022/23 y prosiect, er enghraifft mae gennych anfonebau sydd heb eu talu ar 31 Mawrth 2023 neu
  • Os nad ydych wedi gallu hawlio am eich bod yn aros am y canlynol:
    • y newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt mewn ailwerthusiad a bod hynny’n effeithio ar eich gallu i hawlio,
    • i ni gymeradwyo cofrestr gwariant a/neu gofnod eich tendr cystadleuol,
    • taliad o hawliad blaenorol

Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi gronni'r gwariant 22/23 sydd heb ei hawlio drwy gyflwyno'r dystiolaeth ohono drwy eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn 5 Ebrill 2023 fan bellaf.

Os na fyddwch yn darparu tystiolaeth ategol, efallai na fyddwn yn gallu cronni'r gwariant hwn ac mae’n bosibl y bydd yr arian grant mewn perygl.

Ni fydd RPW yn gwneud taliad i chi yn seiliedig ar y croniad gan ein bod ond yn gwneud taliadau ar gyfer hawliadau a gyflwynir drwy'r swyddogaeth hawlio ar RPW Ar-lein.

Byddwn yn disgwyl ichi hawlio'r gwariant hwn sydd wedi cronni ar RPW Ar-lein erbyn 30 Ebrill 2023 fan bellaf.

Gallwch ei hawlio ar RPW Ar-lein fel rhan o'ch hawliad nesaf o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fyddwch wedi’i wario ac y bydd gennych dystiolaeth ar gyfer ei hawlio fel anfonebau a datganiadau banc
  • pan fydd y tendr cystadleuol wedi'i gymeradwyo, neu’r ailwerthusiad wedi'i gwblhau; pa un bynnag sy'n berthnasol

Cau'r rhaglen

Bydd rhaglen RDP 2014-2020 yn cau ar 31 Rhagfyr 2023 ac rydych nawr yn agosáu at y misoedd olaf ar gyfer eich prosiect. Rhaid i chi gyflawni amcanion eich prosiect y cytunwyd arnynt a chyflwyno eich hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau ar 7 Gorffennaf 2023.

Ymholiadau am y prosiect

Os oes gennych ymholiadau, neu dystiolaeth ddogfennol i’w chyflwyno, anfonwch nhw i:

  • Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu
  • eich cyfrif RPW Ar-lein

Os nad ydych yn gallu agor eich cyfrif RPW Ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar unwaith.

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Mae cysylltwyr Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW yn dal i weithio gartref. Gallai hynny effeithio ar gyflymder ein hymateb i rai ymholiadau.

 

Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn gweithio fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau agor

Llun – Gwener

9:00am - 4:00pm

Os medrwch, anfonwch eich ymholiadau neu geisiadau ‘pob dydd’ drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.