Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cau ar gyfer newidiadau i brosiectau cymeradwy

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais am newidiadau i brosiectau cymeradwy (ailwerthusiadau) yw 31 Ionawr 2023.  Ni fydd unrhyw geisiadau i newid prosiect yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.

Gweler diweddariad mis Tachwedd 2022 am yr amgylchiadau a’r broses ar gyfer gwneud cais am newid.

Prosiectau y disgwylir eu cwblhau erbyn 31 March 2023

Mae Blwyddyn Ariannol Llywodraeth Cymru 2022/23 yn rhedeg o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Mae eich cyllid grant RDP wedi ei gyllidebu ar gyfer y blynyddoedd ariannol a gymeradwywyd fel rhan o Broffil Cyflawni eich prosiect.

Os bydd hawliad olaf y prosiect yn cael ei gyflwyno yn y Flwyddyn Ariannol hon, gofalwch fod holl wariant y prosiect wedi’i hawlio erbyn 5 Ebrill 2023.

Os oes angen i chi ofyn am estyniad i ddyddiad terfynol eich prosiect, bydd angen i chi gyflwyno cais newid prosiect erbyn 31 Ionawr 2023.

Eich Atgoffa i Hawlio (WEFO Ar-lein)

Mae Blwyddyn Ariannol Llywodraeth Cymru 2022/23 yn rhedeg o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

Rhaid hawlio holl wariant cymwys y prosiect a wariwyd ym Mlwyddyn Ariannol 2022/23 ddim hwyrach na 5 Ebrill 2023.

Os oes gennych hawliad ar eich Proffil ar gyfer mis Mawrth 2023, bydd RPW yn cysylltu â chi yn wythnos gyntaf mis Mawrth fel bod gennych ddigon o amser i hawlio erbyn 5 Ebrill 2023

Os na fyddwch wedi hawlio holl wariant cymwys y prosiect, mae perygl y gallech golli’ch grant.

Os oes gennych fwy nag un hawliad ar gael (â statws Gwahoddwyd), rydym yn eich cynghori i hawlio’r un diweddaraf a gofyn i ni ganslo’r hawliad(au) hŷn.

Cofrestrau Gwariant ac Ailwerthusiadau

Os oes gennych wariant cymwys ar eich prosiect y gallech ei hawlio cyn diwedd y Flwyddyn Ariannol, ond nad yw’r gofrestr gwariant neu’r ailwerthusiad o’ch prosiect wedi’i gymeradwyo eto, dilynwch y canllawiau isod ynghylch croniadau os na fydd y gymeradwyaeth wedi’i rhoi erbyn wythnos gyntaf mis Mawrth ac nad ydych yn gallu cyflwyno hawliad erbyn y dyddiad cau, sef 5 Ebrill 2023.

Gallai peidio â chyflwyno croniadau beryglu’ch grant.

Canllawiau ynghylch Croniadau

Bydd angen croniadau:

  • Os na fyddwch wedi gwario holl wariant Blwyddyn Ariannol 2022/23 y prosiect, er enghraifft mae gennych anfonebau sydd heb eu talu ar 31 Mawrth 2023 neu
  • Os nad ydych wedi gallu hawlio am eich bod yn aros am
    • y newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt i’ch prosiect a bod hynny’n effeithio ar eich gallu i hawlio,
    • i ni gymeradwyo cofrestr gwariant a/neu gofnod eich tendr cystadleuol,
    • taliad o hawliad blaenorol

Yn yr achosion hyn, bydd angen ichi nodi gwariant 22/23 sydd heb ei hawlio trwy gyflwyno tystiolaeth ohono ar eich cyfrif WEFO Ar-lein ddim hwyrach na 5 Ebrill 2023 .

Sut i gyflwyno manylion y croniadau hyn ar WEFO Ar-lein:

  • casglu’r holl dystiolaeth o’r gwariant sydd heb ei hawlio, er enghraifft copïau wedi’u sganio o anfonebau neu daflenni amser
  • nodi gwerth yr eitemau gwariant yn y Ffurflen Crynodeb o Groniadau
  • mewngofnodi i’ch cyfrif WEFO Ar-lein
  • i weld sut i lanlwytho dogfen i WEFO Ar-lein, ewch i Sut i Ddefnyddio WEFO Ar-lein
  • o ran enw’r achos (prosiect) cliciwch Crynodeb o’r Hawliad ac agor yr hawliad mwyaf diweddar (unrhyw statws)
  • o’r gwymplen yno, cliciwch ar Dogfennau’r Hawliadau. Yna lanlwythwch Ffurflen Crynodeb o’r Croniadau a’r dystiolaeth.
  • heb dystiolaeth, ni fyddwn yn gallu cronni’r gwariant a gallech golli’r grant.
  • dylech enwi’ch dogfen ID yr Achos Croniad RDP – Mawrth 2023, er enghraifft 98251 Croniad RDP – Mawrth 2023.

Ni fydd RPW yn eich talu ar sail ffigurau’r croniadau hyn.  I gael taliad, rhaid cyflwyno hawliad trwy’r broses hawlio arferol ar WEFO Ar-lein.

Byddwn yn disgwyl ichi hawlio’r gwariant hwn sydd wedi cronni ar WEFO Ar-lein ddim hwyrach na 30 Ebrill 2023.

Gallwch ei hawlio ar WEFO Ar-lein fel rhan o’ch hawliad nesaf o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fyddwch wedi’i wario ac y bydd gennych dystiolaeth ar gyfer ei hawlio, fel anfonebau neu ddatganiadau banc
  • pan fydd yr hawliad blaenorol wedi’i awdurdodi neu ei dalu, y tendr cystadleuol wedi’i gymeradwyo neu’r ailwerthusiad wedi’i gwblhau; pa un bynnag sy’n berthnasol

Cau’r Rhaglen

Yn ein diweddariad ar Fehefin 2022 fe wnaethom egluro y bydd y rhaglen RDP 2014-2020 yn cau ar 31 Rhagfyr 2023.

Rydych bellach yn agosáu at fisoedd olaf eich prosiect. Rhaid ichi gyflawni’r amcanion prosiect y cytunwyd arnynt a chyflwyno eich hawliad terfynol erbyn y dyddiad cau, sef 7 Gorffennaf 2023.