Neidio i'r prif gynnwys

Heddiw mae'r rhagdaliadau wedi cyrraedd cyfrifon miloedd o ffermydd yng Nghymru, gan roi hwb ariannol i fusnesau ar adeg anodd i'r diwydiant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae 90% o’r ffermydd sy'n hawlio taliad Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a 94% o ffermydd sy'n hawlio taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) bellach wedi cael eu taliad cyntaf (y rhagdaliad). 
  • Cafodd canran yr SFS a'r BPS sy'n cael ei dalu fel rhagdaliad ei gynyddu eleni i 80% i helpu ffermwyr â'r problemau llif arian sydd wedi’u hachosi gan dywydd sych yr haf  
  • Adeiladu ar y cymorth sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer y diwydiant 

Mae 90% o ffermydd sy'n hawlio taliad Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a 94% o ffermydd sy'n hawlio taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol bellach wedi cael eu rhagdaliad. Bydd y rhagdaliadau sy'n weddill yn cael eu talu wrth i ni eu dilysu a'u cadarnhau, a byddwn yn dechrau talu'r ail daliad (y taliad balans) o ganol mis Rhagfyr ymlaen.

Eleni gwnaethon ni gynyddu canran rhagdaliad y ddau gynllun o 70% i 80%, er mwyn i ffermwyr allu cael cyfran mwy o'u taliad yn gynt. Cafodd y newid ei wneud i helpu busnesau ffermio i ddygymod â'r pwysau yn sgil y problemau digynsail sydd wedi wynebu ffermwyr eleni. 

Bydd gweddill y rhagdaliadau a'r ail daliadau yn cael eu talu unwaith y byddwn wedi archwilio a chadarnhau pob hawliad. Bydd angen i'r rhai sydd wedi hawlio Haen Gyffredinol yr SFS ddiweddaru eu Dangosfwrdd Cyffredinol SFS ar RPW Ar-lein er mwyn cael eu hail daliad. Disgwylir i bob un ond yr hawliadau mwyaf cymhleth gael eu talu cyn diwedd mis Mawrth 2027.  

Mae'r taliadau hyn yn adeiladu ar y cymorth i'r diwydiant gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys estyn y cyfnod agored ar gyfer gwasgaru slyri, llacio'r rheolau ar ofynion rhai cynlluniau o ran rheoli cnydau a chynefinoedd, a chyflwyno grantiau ar gyfer addasu i'r hinsawdd, megis tyllau turio ac offer casglu dŵr. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:  

Mae’r taliadau eisoes wedi cael eu talu i’r mwyafrif llethol – 90% o ffermwyr sy’n hawlio’r SFS - ac o ystyried mai hon yw blwyddyn gyntaf cynllun newydd sbon mae hynny yn fy marn i yn dipyn o gamp. Byddwn yn dal i dalu’r rhagdaliadau dros yr wythnosau nesaf.

Rwy'n annog ffermwyr i edrych a yw eu cyfrifon RPW Ar-lein yn gywir rhag ofn bod cwestiynau sydd angen eu hateb a allai arafu eu taliad.  

Rydym wedi cynyddu'r rhagdaliadau o 70% i 80% ar gyfer eleni, er mwyn i ffermwyr allu cael cyfran mwy o'r hyn sydd i ddod iddynt yn gynt, pan fydd ei angen fwyaf arnyn nhw. 

Bydd y llywodraeth hon yn dal i gefnogi ffermwyr trwy roi'r sicrwydd, yr hyblygrwydd a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.