Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi cadarnhau y bydd y Cynllun Taliadau Sylfaenol yn parhau heb newid yn 2020 i gynorthwyo ffermwyr o Gymru i newid i Raglen Rheoli Tir newydd wedi Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad ym mrecwast Hybu Cig Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod y penderfyniad i gadw y Cynllun Taliadau Sylfaenol am flwyddyn arall yn rhoi sicrwydd i'r diwydiant ac yn rhoi mwy o amser iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau yn y cymorth sydd ar gael i ffermydd yn y dyfodol wedi Brexit.

Ail-bwysleisiodd y Cabinet ei hymrwymiad i gefnogi ffermwyr drwy Raglen Rheoli Tir newydd, fydd yn rhoi cefnogaeth mewn ffordd ddoethach na'r Cynllun Taliad Sylfaenol presennol.

Ym mrecwast HCC, bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyhoeddi y bydd dros 85% o daliadau ffermwyr o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol 2018 yn cael eu talu ddydd Llun 3 Rhagfyr.  Bydd dros £181 miliwn yn cael ei dalu i mewn i gyfrifon banc mwy na 13,200  o fusnesau fferm yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys dros 1,000 o ffermwyr a wnaeth gais am fenthyciad Cynllun y Taliad Sylfaenol ond fydd nawr yn derbyn eu taliad ar y diwrnod cyntaf.

Bydd ffermwyr sydd heb gael eu hawliadau Cynllun Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018 wedi'u dilysu eto yn cael eu hannog i wneud cais cyn 30 Tachwedd am gynllun benthyca dewisol, a gyhoeddwyd mewn ymateb i'r tywydd poeth a sych dros yr haf.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Cawsom ymateb gwych i'n hymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' a rydym bellach yn ystyried yr holl ymatebion yn fanwl.

“Byddwn yn parhau i gefnogi ffermwyr wedi Brexit ond mewn ffordd ddoethach.  Nid yw cadw pethau fel y maent yn opsiwn ac mae gennym bellach y cyfle i gynllunio system newydd, well o gefnogi ffermydd.

"Nid yw Cynllun y Taliad Sylfaenol yn gysylltiedig â chanlyniadau, cynhyrchiant, ymdrech y ffermwr nac anghenion.  Mae'r cynlluniau arfaethedig yn yr Ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir', ein cynlluniau Cydnerthedd Economaidd a Nwyddau Cyhoeddus newydd yn gwneud hynny drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu.

"Dwi'n sylweddoli bod hwn yn newid mawr i'r sector yn ystod cyfnod ansicr.  Mae'r cyfnod pontio yn hynod bwysig a dyma pam yr wyf heddiw yn cyhoeddi'r Cynllun Taliad Sylfaenol fydd yn parhau heb newid am flwyddyn arall yn 2020 i roi sicrwydd ac i helpu ffermwyr newid yn ddidrafferth i'r Rhaglen Rheoli Tir newydd.

"Bydd yr estyniad hwn yn sicrhau bod gan ffermwyr ddigon o amser i baratoi ac addasu i'r dull newydd hwn.  Bydd yn sicrhau newid dros sawl blwyddyn, wedi'i reoli ac yn cyflawni ein hymrwymiad na fydd cynlluniau presennol yn cael eu dileu tan bod y cynlluniau newydd yn barod.  Byddwn hefyd yn ymgynghori ymhellach ar ein cynigion yn ystod y flwyddyn nesaf."

Gan siarad am y canlyniad ardderchog o ran Cynllun y Taliad Sylfaenol, ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod dros  85% o ffermwyr wedi cael eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar y diwrnod cyntaf.  Mae Taliadau Gwledig Cymru yn parhau i ddilysu yr hawliadau sy'n weddill mor gyflym â phosibl a byddant yn cysylltu â busnesau fferm yn uniongyrchol, os nad yw eu hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol wedi'u dilysu eto.

"Bydd hwn yn rhoi pob cyfle i ffermwyr, os ydynt yn dymuno hynny, wneud cais am y cynllun benthyca a gyhoeddais yn yr haf mewn ymateb i'r tywydd poeth a sych.  Bydd y benthyciad hwn yn help i ysgafnhau y pwysau ar yr hawlwyr sydd ddim yn derbyn eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol yn y cyfnod cynnar.

"Hoffem annog pob ffermwr y mae Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â hwy yr wythnos hon i gyflwyno Cais am Fenthyciad Cynllun y Taliad Sylfaenol cyn y dyddiad cau ar ddydd Gwener 30 Tachwedd.  Bydd pob cais cymwys ar gyfer benthyciad a ddaw i law yn cael ei brosesu a'i dalu erbyn 10fed Rhagfyr."