Targedau ansawdd aer ar gyfer deunydd gronynnol mân: asesiad effaith integredig adrannau 1 ac 8
Asesiad Effaith Integredig Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Teitl y cynnig
Rheoliadau Targedau Ansawdd Aer (Deunydd Gronynnol Mân) (Cymru) 2026
Swyddog(ion) a gwblhaodd yr Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw'r tîm)
John Griffiths, Uwch-reolwr Polisi Targedau Ansawdd Aer – Y Gangen Ansawdd Aer, Tystiolaeth, Monitro ac Asesu
Adran
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Pennaeth Is-adran/SRO (enw)
Philip Bowen, Dirprwy Gyfarwyddwyr, Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Claire Bennett, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Gweinidog y Cabinet/Gweinidog sy'n gyfrifol
Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Dyddiad Dechrau
Mai 2024
Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut rydych wedi cymhwyso / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 at y camau gweithredu arfaethedig, drwy gydol y cylch polisi a chyflawni?
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y risg iechyd amgylcheddol fwyaf. Mae'n risg benodol i grwpiau sy'n agored i niwed megis yr henoed, plant bach ac unigolion â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes. At hynny, gall ansawdd aer gwael amharu ar fywyd gwyllt drwy newidiadau eang i ddosbarthiad rhywogaethau ac ansawdd cynefinoedd. Deunydd gronynnol mân (PM2.5) yw'r llygrydd aer sy'n achosi'r niwed mwyaf i iechyd poblogaeth Cymru.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 (‘y Ddeddf’) yn adeiladu ar ein hymrwymiad yn y Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach ac yn gwella deddfwriaeth bresennol a bydd yn sicrhau gwelliannau mewn ansawdd aer yng Nghymru. Cyflwynodd y Ddeddf fframwaith cenedlaethol ar gyfer pennu targedau ansawdd aer, sy'n cryfhau pwerau Gweinidogion Cymru ac yn eu galluogi i gyflwyno targedau hirdymor ar gyfer risgiau a nodwyd sy'n gysylltiedig â llygryddion. Mae'r fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru bennu targedau ar gyfer llygryddion, gan gynnwys pennu targed ar gyfer deunydd gronynnol mân (PM2.5) erbyn mis Chwefror 2027. Yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn a chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026, caiff y targedau ar gyfer PM2.5 eu pennu mewn rheoliadau a gaiff eu gwneud yn 2026-2027.
Y prif nod yw lleihau crynodiadau o PM2.5 mewn aer amgylchynol er mwyn gwella iechyd yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Mae'r testun isod yn esbonio sut mae pennu targedau ar gyfer PM2.5 yn cyflawni'r egwyddorion datblygu cynaliadwy sy'n rhan annatod o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan ganolbwyntio ar y pum ffordd o weithio.
Tueddiadau, heriau a chyfleoedd hirdymor
Yng Nghymru, mae'r baich marwolaethau hirdymor sydd i'w briodoli i amlygiad i lygredd aer yn ystod gyfatebol effaith amcangyfrifedig o rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau (ar oedrannau nodweddiadol) y flwyddyn (Iechyd Cyhoeddus Cymru). Nid yw ystod y baich yn adlewyrchu marwolaethau ‘gwirioneddol’ o ganlyniad i amlygiad i lygredd aer. Mae'n amcangyfrif o'r disgwyliad oes gostyngedig ‘cyfatebol’, pan gaiff ei symio, y mae pawb yn ei brofi oherwydd amlygiad i lygredd aer.
Atal
Mae pennu targedau i leihau PM2.5 yn gam ataliol a hirdymor, a fydd yn lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol drwy roi mesurau traws-sector posibl ar waith a dewisiadau polisi yn y dyfodol. Bydd yn cael effeithiau cadarnhaol uniongyrchol, yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol hirdymor wrth i gamau tuag at gyflawni'r targedau gael eu rhoi ar waith.
Diben pennu targedau newydd ar gyfer ansawdd aer yw lleihau'r niwed y mae amlygiad i ansawdd aer gwael yn ei achosi i iechyd pobl, natur a'r amgylchedd. Ochr yn ochr â sicrhau lefel ‘ofynnol’ o ansawdd aer ledled Cymru, rydym hefyd am i dargedau lywio gwelliant parhaus hirdymor er mwyn lleihau amlygiad cyfartalog y boblogaeth i lygredd ac, ar yr un pryd, sicrhau'r manteision mwyaf posibl a all ddeillio o hynny.
Integreiddio
Mae camau gweithredu presennol a chamau gweithredu yn y dyfodol i gyflawni'r targedau ar gyfer PM2.5 yn cael eu hintegreiddio, a byddant yn cael eu hintegreiddio, yn ein strategaethau a'n cynlluniau trawslywodraethol, gan gynnwys y Rhaglen Lywodraethu, Cynllun Cymru Sero Net a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae camau a gymerir i wella ansawdd aer hefyd yn cyd-fynd â meysydd allweddol o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a blaenoriaethau ym Mholisi Adnoddau Naturiol a Pholisi Cynllunio Cymru sy'n rhai statudol.
Cydweithio
Gall atebion i wella'r amgylchedd aer fod yn gymhleth, gan ofyn am gamau gweithredu cydweithredol ym mhob rhan o gymdeithas, gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, busnesau a'r cyhoedd.
Mae partneriaid sydd â diddordeb a rennir yn y cynnig hwn yn cynnwys adrannau perthnasol yn Llywodraeth Cymru; Llywodraeth y DU; Awdurdodau Lleol yng Nghymru; Sefydliadau Anllywodraethol; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cyfoeth Naturiol Cymru; Byrddau Iechyd y GIG; Trafnidiaeth Cymru; gan gynnwys y sector gwirfoddol a'r sector preifat. Nod cydweithio yw sicrhau bod camau yn cael eu cymryd a bod amcanion llesiant yn cael eu cyflawni.
Cyfranogiad
Rydym wedi cynnwys rhanddeiliaid mewnol ac allanol ym mhob rhan o'r Llywodraeth a phob sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, sefydliadau anllywodraethol ac arbenigwyr annibynnol ym maes ansawdd aer, yn y broses o ddatblygu'r cynigion. Byddwn yn parhau i gynnwys y rhanddeiliaid hyn drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r broses weithredu er mwyn manteisio ar eu cyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen mewn lleoedd gwahanol gan grwpiau gwahanol o bobl.
Effaith
Beth yw'r prif ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cynnig?
Dylech gyfeirio at dystiolaeth, cydnabod bylchau sylweddol yn ein gwybodaeth a disgrifio unrhyw gynlluniau i'w llenwi.
O blaid
Bydd lleihau PM2.5 er mwyn cyflawni'r targedau uchelgeisiol hyn yn dod â manteision sylweddol o ran iechyd ac anghydraddoldebau iechyd cysylltiedig. Mae gwaith dadansoddi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai targedau ansawdd aer o fudd i ddinasyddion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru yn arbennig, sydd â'r gyfran fwyaf o blant a thrigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn ogystal â phobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Bydd y targedau yn lleihau effaith llygredd aer ar ecosystemau ac yn cyfrannu at gyflawni amcanion newid hinsawdd.
Yn erbyn
Bydd lefel yr uchelgais o ran y targedau a ddewisir yn dylanwadu ar y costau cysylltiedig a faint o addasiadau y bydd angen i sefydliadau ac unigolion eu gwneud.
Costau i aelwydydd unigol
Ystyrir y bydd costau i aelwydydd unigol (e.e. costau anuniongyrchol a drosglwyddir gan gwmnïau drwy brisiau uwch, cost cyfarpar ynni-effeithlon a Cherbydau Trydan ac ati).
Fodd bynnag, mae ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i liniaru costau uwch i aelwydydd unigol:
- Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer cyfarpar ynni-effeithlon drwy Gynllun Cartrefi Clyd Nyth sy'n cynnig gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi am ddim;
- Menter Cartrefi Gwyrdd Cymru sy'n rhoi benthyciadau di-log ar gyfer gwelliannau i gartrefi fel pympiau gwres a phaneli solar, mae'r rhain yn amrywio o £1,000 i £25,000.
Mewn perthynas â thrafnidiaeth, mae cymorth ariannol ar gael gan y llywodraeth hefyd: mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, yn cynnig gwahanol grantiau ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gan gynnwys grantiau i aelwydydd â lleoedd parcio ar y stryd neu'r rhai sy'n rhentwyr/perchenogion fflatiau, yn ogystal â chymorth i fusnesau (busnesau bach a chanolig a sefydliadau mwy o faint) drwy'r Cynllun Gwefru yn y Gweithle a Grantiau Seilwaith Cerbydau Trydan. Nod y cynlluniau yw talu canran o'r costau sy'n gysylltiedig â phwyntiau gwefru a seilwaith cysylltiedig, hyd at uchafsymiau penodol fesul eiddo neu safle.
At hynny, mae pob person oedrannus ac anabl yn cael teithio ar fysiau am ddim ledled Cymru.
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi helpu i'w ddatblygu?
Ymgynghorwyd ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Ddeddf rhwng 13 Ionawr a 7 Ebrill 2021 yn y Papur Gwyn ar Fil Aer Glân (Cymru), a oedd yn cynnwys y fframwaith arfaethedig ar gyfer pennu targedau a dyletswyddau penodol i bennu targed ar gyfer PM2.5.
Cawsom 119 o gyfraniadau at yr ymgynghoriad, gan gynnwys barn a roddwyd yn nigwyddiad y Papur Gwyn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021, a gynhaliwyd yn rhithwir oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19. Dengys y Crynodeb o'r Ymatebion fod amrywiaeth o safbwyntiau wedi'u mynegi a bod yr ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion ar gyfer deddfwriaeth, ar y cyfan.
Parhaodd trafodaethau â rhanddeiliaid yn ystod 2022 ac ar ôl hynny, fel rhan o broses ymgysylltu a oedd wedi'i thargedu'n fwy. Roedd hyn yn cynnwys, er enghraifft, y Grŵp Ymgynghori ar Hawliau Plant, Awyr Iach Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Aer Glân, ac ymgynghoriad Senedd Cymru ei hun ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).
Y bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol arnynt yw grwpiau sy'n agored i niwed (gan gynnwys plant, oedolion hŷn a phobl â chyflyrau ar y galon neu'r ysgyfaint sy'n bodoli eisoes). Yn ogystal ag ymgynghori â'r cyhoedd, rydym yn ymgynghori ag Iechyd Cyhoeddus Cymru: Awyr Iach Cymru; Byrddau Iechyd; Ymddiriedolaethau'r GIG; ac amrywiaeth o gyrff eraill sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
Er mwyn diogelu a hyrwyddo buddiannau pobl â nodweddion gwarchodedig, rydym yn ymgynghori â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan gynnwys amrywiaeth o sefydliadau yn y trydydd sector.
Er mwyn diogelu a hyrwyddo buddiannau plant a phobl ifanc, rydym yn ymgynghori â'r Senedd Ieuenctid a Chomisiynydd Plant Cymru.
8.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Effeithiau cadarnhaol
Nod cyffredinol pennu targedau ar gyfer PM2.5 yw cyfrannu at welliannau mewn ansawdd aer yng Nghymru, gan leihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, yr economi, bioamrywiaeth a'r amgylchedd naturiol (Science Direct).
Fel y nodir isod, mae'r cynigion i bennu targedau ar gyfer PM2.5 wedi ystyried y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol:
Nodau llesiant
Cymru gydnerth
Mae gwelliannau yn yr amgylchedd aer yn cael effaith uniongyrchol, sylweddol a chadarnhaol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ar yr amgylchedd a swyddogaethau ecosystemau yng Nghymru.
Cymru lewyrchus
Byddai gweithlu iach ac amgylchedd aer glân yn cyfrannu at ffyniant drwy weithlu cynhyrchiol cynyddol. Mae gwelliannau mewn iechyd yn lleihau costau meddygol a chostau gofal iechyd. Aseswyd bod gan bob un o'r opsiynau a ystyriwyd i leihau crynodiadau o PM2.5 gymhareb cost a budd gadarnhaol sy'n amrywio o 3.6 i 4.3, sy'n golygu ein bod yn amcangyfrif bod manteision y targedau a'r camau a gymerir i'w cyflawni yn fwy na'r costau yr eid iddynt gan randdeiliaid cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Bydd lleihau crynodiadau cymedrig blynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol yng Nghymru yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty a'r pwysau ar wasanaethau gofal iechyd.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Rydym yn ymrwymedig i sicrhau ansawdd aer sy'n helpu pobl Cymru ac ymwelwyr i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden ledled Cymru. Byddai diogelu ecosystemau naturiol a bioamrywiaeth yn cynyddu cyfalaf diwylliannol Cymru, hamdden awyr agored ac ati. Byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal gweithgareddau cyfathrebu sy'n ymwneud â thargedau PM2.5.
Cymru iachach
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel y risg amgylcheddol fwyaf i iechyd. Mae llygryddion megis deunydd gronynnol mân (PM2.5) yn achosi rhai problemau iechyd a gallant waethygu rhai eraill. Gall anadlu'r llygryddion hyn i mewn dros sawl blwyddyn gynyddu risgiau i iechyd sy'n gysylltiedig â chlefydau'r galon a'r ysgyfaint a chanser yr ysgyfaint. Mae tystiolaeth y gallant effeithio ar organau eraill yn y corff hefyd, gan gyfrannu, o bosibl, at achosion o ddementia, pwysau geni isel a diabetes. Gall symptomau sy'n deillio o amlygiad tymor byrrach gynnwys llid y llygaid, y trwyn a'r gwddf. Bydd camau a gymerir i roi'r targedau hyn ar waith yn gwella ansawdd aer a fydd, yn ei dro, yn gwella iechyd y cyhoedd. Fel y nodir yn adroddiad Ricardo, ‘Evidence to support the development of PM2.5 target proposals in Wales’, disgwylir i ostyngiadau mewn crynodiadau leihau nifer y diwrnodau cynhyrchiant a gollir oherwydd anhwylderau sy'n gysylltiedig â llygredd aer (mae arbedion yn amrywio o £50 miliwn i £110 miliwn).
Cymru fwy cyfartal
Bydd lleihau llygredd aer yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol o ran gwella iechyd a llesiant i bawb, gyda'r effaith fwyaf yn debygol o gael ei theimlo gan y rhai y mae llygredd aer yn effeithio mwy arnynt yn anghymesur am resymau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol a rhesymau iechyd.
Cymru o gymunedau cydlynus
Bydd camau gweithredu i wella ansawdd aer yn cael mwy o effaith pan gânt eu hintegreiddio â chamau eraill i wella ansawdd bywyd, iechyd a llesiant, yr amgylchedd a chyfleoedd ar gyfer ffyniant. Gall lleihau crynodiadau o PM2.5 gyfrannu at sicrhau y gall pobl o bob cefndir fanteisio'n llawn ar gyfleoedd mewn bywyd.
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Mae llygredd aer yn broblem amgylcheddol fyd-eang fawr sy'n effeithio ar bawb, nid yw'n parchu ffiniau cenedlaethol na rhyngwladol. Dengys y cynigion ar gyfer targedau fod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau cadarnhaol cadarn i fynd i'r afael ag ansawdd aer yng Nghymru er mwyn cyflawni rhwymedigaethau moesegol a chyfreithiol cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r camau gweithredu hyn yn atgyfnerthu safle Cymru yn y gymuned ryngwladol fel gwlad sy'n ymrwymedig i sicrhau cynaliadwyedd a gweithredu dros yr amgylchedd. Mae llawer o'r mesurau a gymerir i wella crynodiadau o PM2.5 yn debygol o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd.
Effeithiau negyddol
Mae'n annhebygol y gellid cyflawni targedau ansawdd aer cenedlaethol uchelgeisiol a bennir ar gyfer PM2.5 heb gamau gweithredu ychwanegol y tu hwnt i'r polisïau, mesurau a throsiant technoleg presennol a gynlluniwyd ac yr ymrwymwyd iddynt hyd yma. Disgwylir i gamau y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, busnesau ac unigolion eu cymryd gynnwys newidiadau i ymddygiad a thechnoleg, gyda goblygiadau o ran ffordd o fyw a chost economaidd. Mae'n hanfodol cydbwyso'r manteision o ran iechyd â'r camau gweithredu angenrheidiol a'u goblygiadau economaidd. Yn ein barn ni, mae'r targedau arfaethedig yn taro'r cydbwysedd gorau rhwng sicrhau'r canlyniadau iechyd gorau posibl a lleihau effeithiau ar fywydau pobl bob dydd. Amcangyfrifir bod manteision y targedau a'r camau a gymerir i'w cyflawni yn fwy na'r costau yr eid iddynt gan randdeiliaid cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.
8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,
yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth, hawliau plant, cydraddoldebau, y Gymraeg neu un arall o'r meysydd a gwmpesir gan eich asesiadau effaith?
Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i atgyfnerthu ei chyfraniad at nod penodol neu gyfrannu at nodau ychwanegol?
Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i osgoi, lleihau neu liniaru effaith negyddol?
Os na fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd i osgoi, lleihau neu liniaru effaith negyddol, esboniwch pam.
Nodir y ffyrdd y bydd y rheoliadau ynglŷn â'r targedau ar gyfer PM2.5 yn cyfrannu at saith nod llesiant Llywodraeth Cymru uchod. Bydd y rheoliadau hefyd yn sicrhau ein bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at amcanion llesiant Llywodraeth Cymru.
Yn benodol, mae'r Targed ar gyfer Crynodiadau Cymedrig Blynyddol yn pennu terfyn uchaf ar gyfer crynodiadau sydd i'w gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2035. Mae hyn yn sicrhau tegwch drwy ganolbwyntio ar leihau crynodiadau lle maent ar eu huchaf a darparu safon ofynnol ar gyfer ansawdd aer ledled y wlad. Mae'r Targed ar gyfer Lleihau Amlygiad y Boblogaeth yn pennu lleihad yn amlygiad cyfartalog y boblogaeth y bwriedir iddo sicrhau gwelliant parhaus mewn ardaloedd lle mae'r boblogaeth yn cael ei hamlygu i lygredd aer ledled y wlad. Mae'r rheoliadau drafft newydd yn gam allweddol tuag at gyflawni ein nod o wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn perthynas â PM2.5 gan nad oes unrhyw drothwy y mae amlygiad i PM2.5 yn ddiogel oddi tano.
Am y rhesymau hyn, mae angen ystyried y rheoliadau drafft newydd mewn cyd-destun eang ac nid ar eu pen eu hunain. Maent:
- yn rhan hanfodol o becyn o fesurau a nodir yn ein Cynllun Aer Glân i leihau llygredd a gludir yn yr aer a gwella'r amgylchedd aer yng Nghymru; ac maent
- yn ategu deddfwriaeth bresennol ac yn adeiladu arni.
Mae'r rheoliadau ynglŷn â thargedau yn darparu fframwaith ar gyfer gweithredu a fydd yn lleihau llygredd a gludir yn yr aer. Ar ôl i'r rheoliadau drafft gael eu gwneud a'u rhoi ar waith, bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau ar waith i fonitro'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni targedau.
Dadansoddiadau a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr technegol
Yn ystod 2022-2024, gwnaeth ymgynghorwyr technegol waith modelu a oedd yn cynnwys setiau o fesurau/gwahanol gyfuniadau o fesurau ag asesiadau o ostyngiadau posibl mewn crynodiadau o lygryddion gan gynnwys PM2.5. Dangosodd y gwaith modelu sut mae llygryddion yn ymwasgaru yn yr atmosffer, lefelau rhagamcanol o lygredd yn y dyfodol a sut y gallai cyfuniadau o fesurau, o bosibl, leihau crynodiadau o lygryddion yn yr atmosffer.
Canfu'r gwaith modelu a'r dadansoddiadau technegol o lefelau targedau a dyddiadau dichonadwy ar gyfer senarios ansawdd aer gwahanol ar gyfer PM2.5, er bod lefel y gweithredu (canolig, uchel, ar hap) yn effeithio ar lefelau crynodiadau ledled Cymru, fod dosbarthiad y manteision yn dal i fod fwy neu lai yr un peth ar ôl lefel y gweithredu ym mhob senario ansawdd aer ag ydoedd cyn hynny. Ystyriodd dadansoddiadau technegol amddifadedd incwm, cyfran y plant, cyfran y trigolion oedrannus, cyfran y trigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer pob llwybr a aseswyd. Dangosodd hyn fod dosbarthiad y manteision yn debyg rhwng gwahanol grwpiau demograffig, waeth pa lwybr o fesurau a roddwyd ar waith.
Fodd bynnag, dangosodd dadansoddiadau technegol y ceir y lleihad mwyaf mewn PM2.5 yn yr ardaloedd mwyaf poblog yng Nghymru, yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru ac mewn ardaloedd â'r gyfran fwyaf o blant. Dangosodd dadansoddiadau technegol hefyd, ar gyfer pob senario, fod y lleihad mewn llygryddion PM2.5 yn tueddu i gynyddu wrth i gyfran y boblogaeth Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol gynyddu.
Mae'r dadansoddiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd cymryd camau i leihau crynodiadau o PM2.5 mewn aer amgylchynol ledled Cymru.
Mae’r adran ar ‘Effaith y cynigion targed’ o'r ddogfen ymgynghori yn esbonio'r manteision o ran iechyd a fydd yn deillio o'r cynigion tra bod yr adran ar ‘Asesiad economaidd o’r cynygion’ yn esbonio'r manteision o ran cynhyrchiant economaidd. Mae'r manteision hyn yn cwmpasu pob rhan o gymdeithas, gan gynnwys pob sector o'r economi. Mae iechyd gwell yn arwain at allbwn uwch fesul gweithiwr ac yn lleihau'r pwysau ar GIG Cymru. Mae hyn yn golygu bod mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus er budd cymdeithas. Mae hyn hefyd yn golygu bod unigolion yn byw bywydau hapusach a mwy bodlon.
8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Pa gynlluniau sydd ar waith i gynnal adolygiad a gwerthusiad ôl-weithredu?
Monitro a Gwerthuso
Bydd yn rhaid i'r targedau a bennir o dan y Ddeddf gael eu hadolygu o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y pennir y targedau. Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru hefyd i wneud trefniadau i gael data ar ansawdd aer yng Nghymru er mwyn monitro'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni'r targedau. Rhaid i'r data hyn gael eu cyhoeddi hefyd. Rhaid i Weinidogion Cymru adrodd ar dargedau, gan gyhoeddi adroddiad sy'n cadarnhau a yw targed wedi'i gyflawni a'i osod gerbron y Senedd. At hynny, pan fydd y dyddiad ar gyfer cyflawni'r targed wedi mynd heibio ac y bydd y safon benodedig ar gyfer y targed wedi'i chyrraedd, bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnal y safon benodedig a rhoi trefniadau adrodd ar waith. Mae'r darpariaethau hyn yn ymgorffori atebolrwydd a thryloywder yn y fframwaith ar gyfer pennu targedau.
Caiff llwyddiant o ran cyflawni'r targed ei ddangos drwy fesuriadau PM2.5 a geir o orsafoedd “monitro cynrychioliadol” ledled Cymru a chaiff ei nodi yn yr offeryn statudol. Caiff manylion y nifer ofynnol o fonitorau, y lleoliad, y mathau o leoliad, manylebau offer ac amcanion casglu data eu nodi. Caiff cynnydd tuag at gyflawni'r targedau ei asesu bob blwyddyn gan ddefnyddio metrigau rhagddiffiniedig a thueddiadau data. Caiff gorsafoedd monitro eraill eu hychwanegu at safleoedd presennol y rhwydwaith monitro yng Nghymru, er mwyn cynyddu'r cwmpas daearyddol/gofodol a sicrhau cyfanrwydd prosesau adrodd.
