Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cyhoeddi heddiw dargedau dileu TB cenedlaethol a thargedau interim ar gyfer pob rhanbarth TB. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd targedau ar gyfer cyfnodau o 6 mlynedd yn cael eu pennu ar gyfer pob Ardal TB. Y nod yw gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o TB a hefyd trosglwyddo Unedau Gofodol o ardaloedd lle y ceir nifer uwch o achosion i ardaloedd lle y ceir nifer is o achosion.  

Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, y bydd yr Ardal TB Isel yn tyfu dros amser i feddiannu'r Ardaloedd Canolradd, a bydd ein Hardaloedd TB Uchel yn crebachu wrth i'w Hunedau Gofodol gael eu symud i'r Ardaloedd Canolradd. Ar ddiwedd pob cyfnod 6 mlynedd, caiff y cynnydd ei asesu a cherrig milltir eu gosod ar gyfer y cyfnod nesaf. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths: 

"Rydym wedi cymryd camau breision yn y blynyddoedd diwethaf i ddileu TB yng Nghymru. Gwelwyd gostyngiad arwyddocaol yn nifer yr achosion ledled y wlad ac rwy'n benderfynol o weld y gwelliant hwnnw'n para. 

"Mae'r cerrig milltir rhanbarthol o 6 mlynedd rwy'n eu cyhoeddi yn allweddol i hyn. Os llwyddwn ni i'w taro, bydd Cymru heb TB yn Swyddogol rhwng 2036 a 2041. 

Mae'r cerrig milltir hyn yn pwysleisio difrifoldeb y dasg a bod angen sicrhau gwelliannau ym mhob cyfnod. Maen nhw hefyd yn dangos bod angen gweithredu nawr, yn canolbwyntio meddyliau ac yn sbarduno'r cynnydd sydd ei angen i gyflawni ein nodau cyffredin.

“Rydym wedi mireinio ein Rhaglen i Ddileu TB a bydd gweithio'n rhanbarthol i ddileu TB yn ein helpu i gyrraedd ein targedau. Mae angen i ni bellach ganolbwyntio ar amddiffyn yr Ardaloedd TB isel rhag i'r clefyd ledaenu iddyn nhw o ardaloedd eraill a lleihau nifer yr achosion o'r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel. Byddwn yn parhau i ddatblygu'n rhaglen wrth inni gyrchu at y nod o Gymru heb TB. 

"Nid ar chwarae bach y gwnawn hyn. Mae'r targedau'n fwriadol uchelgeisiol i'n hymestyn. I'w taro, bydd angen i bawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith gydweithio ac ymroi i'r dasg. Rwy'n herio pob un ohonom - o fewn y Llywodraeth, APHA, y diwydiant a milfeddygon - i wneud popeth posibl er mwyn sicrhau ein bod yn dileu'r clefyd ofnadwy hwn cyn gynted ag y bo modd.”