Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r Tasglu Canol Trefi yn dwyn ynghyd arbenigedd a phrofiad ymarferol i ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi ledled Cymru.

Ynglŷn â'r tasglu

Grŵp cynghori Gorchwyl a Gorffen am gyfnod penodol o amser yw’r Tasglu Canol Trefi, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol canol trefi ledled Cymru.

Bydd yn dwyn ynghyd y dystiolaeth a'r ymchwil bresennol, gwybodaeth a phrofiad ymarferol ei aelodau, cyfranwyr arbenigol a mewnwelediad uniongyrchol gan fusnesau, cymunedau a defnyddwyr canol trefi.

Bydd y tasglu yn ystyried yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu canol trefi ac yn nodi argymhellion ymarferol ar gyfer Gweinidogion Cymru. Bydd ei raglen, ei fethodoleg a'i ddull ymgysylltu manwl yn cael eu llunio gyda'r cyd-Gadeiryddion a'r aelodau.

Cyd-gadeiryddion

  • Yr Athro Simon Gibson CBE
  • Tamsin Ramasut