Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl ar gyfer y Tasglu Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu.

Pwrpas

I gyflenwi’r allbynnau a nodwyd yn adroddiad Mawrth 2019 i’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i nodi maint y materion sy’n bodoli, a gweithredu mesurau er mwyn osgoi materion rhag cael eu hail-adrodd yn y dyfodol.


Amcanion

  • I ddatblygu ymhellach a gorffen y drafft ‘canllaw arferion da’ i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd ystadau tai newydd.
  • I ledaeni ac annog awdurdodau lleol, datblygwyr tai a rhanddeiliaid eraill (gan cynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol) i fabwysiadu’r ‘canllawiau arferion da’.
  • I fonitro a gwerthuso defnydd ac effeithiolrwydd y ‘canllawiau arferion da’.
  • I ddatblygu cyfres o ‘safonau cyffredin’ ar gyfer ffyrdd ystadau tai newydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a datblygwyr tai.
  • I gyflwyno a lledaenu cyfres o ‘safonau cyffredin’ yn yr un modd.
  • I weithio gyda GIS / darparwyr mapio ochr wrth ochr â’r awdurdodau lleol i ddatblygu cronfa ddata cynhwysfawr i‘r ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ledled Cymru.
  • I bennu maint a chost adfer materion ‘etifeddiaeth’ yn seiliedig ar ddatblygiad cronfa ddata.
  • I benderfynu’r opsiynau ar gyfer nodi adnoddau er mwyn galluogi cychwyn ar adfer materion blaenoriaeth etifeddiaeth.

Aelodaeth ac Ysgrifenyddiaeth

Bydd y Tasglu yn cynnal hyblygrwydd er mwy galluogi i aelodaeth amrywio o gyfarfod i gyfarfod yn ddibynnol ar y mater / neu faterion o dan sylw. Serch hynny, fel lleiafswm, bydd aelodaeth yn cynnwys:

  • swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Home Builders Federation
  • Federation of Master Builders
  • cynrychiolwyr awdurdod lleol o Adrannau Priffyrdd a Chynllunio    

Bydd swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.