Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Yr Athro Richard Parry-Jones CBE yn Cadeirio'r Tasglu i gefnogi gweithwyr Ford ac i helpu i sicrhau eu dyfodol yn dilyn penderfyniad y cwmni i gau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr o Hydref 2020, meddai Ken Skates heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Yr Athro Parry-Jones, cadeirydd Fforwm Modurol Cymru ac yn ffigwr amlwg sy'n cael ei edmygu'n fawr o fewn y sector modurol, yn ymuno â chynrychiolwyr Ford of Britain, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, BEIS, Undebau Llafur, awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill. 

Bydd y tasglu, fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddydd Llun 1af Gorffennaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn edrych ar dri maes penodol, sef:

  • Pobl: canolbwyntio ar y rhai hynny sy'n gweithio yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr ac o fewn cadwyni cyflenwi y ffatri i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod ymgynghori ac yn y dyfodol
  • Posibiliadau: canolbwyntio ar y posibiliadau hirdymor ar y safle trwy ddenu buddsoddiad newydd i ddiogelu ei ddyfodol a sgiliau'r gweithlu
  • Lle: canolbwyntio ar yr effaith ehangach ar y gymuned a sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r ardal a'r rhanbarth yn ehangach

Caiff y Tasglu ei noddi ar y cyd gan Weinidog yr Economi, Ken Skates ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Meddai Gweinidog yr Economi: "Mae'n rhaid i'r effaith y mae cyhoeddiad Ford wedi'i gael, ac a fydd yn parhau i'w gael, ar y bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod yn flaenllaw yn ein meddyliau a'n hymdrechion.

"Dwi'n falch felly bod rhywun o safon a chefndir yr Athro Richard Parry-Jones wedi cytuno i gadeirio'r tasglu hollbwysig hwn.

"Rydyn ni wedi gweld pa mor llwyddiannus y gall tasgluoedd o'r fath fod wrth helpu i baru sgiliau gyda chyfleoedd mewn mannau eraill yng Nghymru, ac mae'n hanfodol bod y Tasglu hwn yn benodol yn ystyried nid yn unig y doniau eang iawn sydd gan y gweithlu a phosibiliadau enfawr yr adeilad, ond hefyd yn cydweithio'n agos â'r gadwyn gyflenwi yn yr ardal i greu cynllun ar gyfer y gweithgarwch sydd ar y gweill, ac i gefnogi ymyraethau fydd yn helpu cwmnïau sy'n dibynnu ar Ford am eu busnes i oroesi a symud ymlaen yn hyderus yn dilyn yr ergyd galed hon.

"Yn y sgyrsiau rydyn ni wedi'u cael hyd yma gyda phawb dan sylw, mae awydd gwirioneddol a phenderfyniad i gefnogi'r gweithwyr hyn sydd wedi gwneud popeth y mae Ford wedi gofyn iddyn nhw ei wneud dros y bedair ddegawd ddiwethaf, pan oedd hynny'n bosibl. Mae'r Tasglu yn rhan o'n hymdrechion i wneud hynny.