Neidio i'r prif gynnwy

Nod Tasglu Hawliau Pobl Anabl yw cael gwared ar anghydraddoldebau y mae pobl anabl yn eu profi mewn cymdeithas, yn dilyn pandemig COVID-19.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl adroddiad ‘Drws Ar Glo: Datgloi Bywydau a Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at anghydraddoldebau y mae pobl anabl mewn cymdeithas yn eu hwynebu, yn enwedig yr hyn a welwyd yn ystod pandemig y coronafeirws.

Un elfen o ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad oedd sefydlu Tasglu Hawliau Pobl Anabl.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n cael sylw yn yr adroddiad, bydd y Tasglu yn gweithio ochr yn ochr â’r canlynol:

  • pobl sydd â phrofiad o’r materion hyn ac sydd ag arbenigedd ynddynt
  • sefydliadau pobl anabl
  • arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru
  • cyrff/sefydliadau eraill sydd â diddordeb

Bydd ein gwaith yn seiliedig ar gyd-ddealltwriaeth o’r Model Cymdeithasol o Anabledd, hawliau dynol a chydgyflawni.

Meysydd blaenoriaeth

Meysydd blaenoriaeth ein rhaglen waith yw: 

  1. gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru)
  2. mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  3. byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
  4. byw’n annibynnol: iechyd a lles
  5. teithio
  6. cyflogaeth ac incwm
  7. tai fforddiadwy a hygyrch
  8. plant a phobl ifanc
  9. mynediad at gyfiawnder
  10. llesiant (fel gweithdy)

Bydd y Tasglu yn ystyried y prif argymhellion sy’n ofynnol i sicrhau gwelliannau i blant ac oedolion anabl yng Nghymru, y bydd Llywodraeth Cymru, gwasanaethau cyhoeddus ehangach a phobl anabl yn gweithio gyda’i gilydd i’w cyflawni.