Neidio i'r prif gynnwy

Mae Tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr yr effeithiwyd arnynt gan doriadau arfaethedig Tesco wedi cyfarfod am y tro cyntaf heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd Tesco y mis diwethaf eu bod yn bwriadu cau eu Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid yn Llanishen, Caerdydd gyda’r posibilrwydd o golli 1100 o swyddi. 

Mewn ymateb gwnaeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi addewid i sefydlu Tasglu i sicrhau bod gweithwyr y bydd y newyddion hwn yn effeithio arnynt yn derbyn y gefnogaeth orau.    

Heddiw bu Ysgrifennydd yr Economi yn cadeirio cyfarfod cyntaf un y Tasglu yng nghwmni Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, cynrychiolwyr Gyrfa Cymru, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Iechyd y Cyhoedd Cymru, yr Undebau Llafur a swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y gefnogaeth ymarferol y gellid ei roi i weithiwyr i liniaru effaith y penderfyniad hwn.  

Meddai Ken Skates:

“Mae’r newyddion bod Tesco yn bwriadu cau eu canolfan cyswllt cwsmeriaid yn Llanishen wedi bod yn ergyd fawr a’n blaenoriaeth nawr yw cefnogi’r gweithwyr hyn yr effeithiwyd arnynt gan hyn.  

“Rwy’n hyderus bod sefydlu Tasglu – sef dull sydd wedi gweithio droeon o’r blaen, ac a oedd yn hynod llwyddiannus wrth helpu gweithwyr yr effeithiwyd arnynt pan oedd Marco yn Sir Benfro yn cau – yn galluogi inni ddod â’n hadnoddau at ei gilydd a chynnig cymorth o safon uchel i’r 1100 o weithwyr Tesco sy’n mynd i golli eu swyddi.  

Dwi’n falch o groesawu amrywiol bartneriaid i gyfarfod heddiw.  Gyda’n gilydd byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu gweithwyr ddod o hyd i waith newydd, i ail-hyffordd a dysgu sgiliau newydd ac i dderbyn y cymorth iechyd a lles y maent eu hangen.  Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â chyflogwyr lleol ac edrych sut y gallwn eu helpu gyda recriwtio.   

“Peidiwch anghofio bod y rhain  yn weithwyr dawnus iawn sydd wedi ennill sawl gwobr.  Mae’r Tasglu hwn wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau bod penderfyniad Tesco yn cael cyn lleied o effaith â phosib ar fywydau y gweithwyr yr effeithiwyd arnynt.”

Yn y cyfarfod, cytunodd y Tasglu i sefydlu pedwar llif gwaith i helpu i ddarparu cymorth effeithiol wedi’i dargedu.   

Bydd y llif gwaith Hyfforddiant a Sgiliau yn edrych ar anghenion sgiliau y staff sy’n colli eu swyddi a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr USDAW, Gyrfa Cymru a Gofal Byd Gwaith. 

Bydd y llif gwaith Cymorth Busnes yn edrych ar anghenion sgiliau a recriwtio cyflogwyr gan ystyried y cymorth y gellir ei roi i’w hannog i gyflogi gweithwyr Tesco sydd wedi colli swyddi.  Bydd y llif gwaith hwn yn cynnwys cynrychiolwyr Busnes Cymru, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru.  

Bydd y llif gwaith iechyd yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth am y cymorth personol sydd ar gael i weithwyr a’u teuluoedd ac yn sicrhau bod cymorth o’r fath ar gael.  Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr Iechyd y Cyhoedd Cymru ac USDAW.  

Yn olaf, bydd y llif gwaith ymchwil yn edrych ar y prif risgiau a’r tueddiadau yn y sector canolfannau galwadau gan gynnwys effaith datblygiadau technolegol.  Caiff ei gyd-gysylltu gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru.