Neidio i'r prif gynnwy

Y Cyd-destun

Ym mis Hydref 2024 gofynnodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, a Julie James AS, y Gweinidog Cyflawni, i Lee Waters AS gynnull Tasglu Tai Fforddiadwy ac i adrodd yn Ebrill 2025. Roedd y Cylch Gorchwyl yn canolbwyntio ar ddau edefyn yn ategu ei gilydd:

  • Edefyn 1 - Ffocws Uniongyrchol ar Heriau Tymor Byr i dynnu rhwystrau oddi ar safleoedd yn y rhaglen 20k sydd mewn perygl o oedi, ac i archwilio cyfleoedd i ddefnyddio safleoedd hyfyw sydd gan y sector cyhoeddus i’w defnyddio yn y cyfamser.
  • Edefyn 2 - Gwneud newidiadau i’r system er mwyn symleiddio’r broses o ddarparu mwy o gartrefi rhent cymdeithasol.

Daeth â grŵp bach o arbenigwyr at ei gilydd, sef grŵp a oedd â phrofiad ymarferol o wahanol agweddau ar y dirwedd cyflawni. Buont yn gweithio ochr yn ochr â’r prif weision sifil sy’n gyfrifol am gyflawni yn y maes hwn. Mae’r rhestr o aelodau yn yr atodiad.

Cyflwyniad

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 3,000 o blant yng Nghymru yn byw mewn llety gwely a brecwast a llety dros dro arall ac yn aros am gartref priodol i fyw ynddo - ynghyd â mwy nag 11,000 o oedolion. Mae arwyddion calonogol fod y nifer wedi dechrau gostwng yn ddiweddar, ond mae’n dal yn llawer rhy uchel. Mae cyfanswm o 140,000 o bobl ar restr aros am gartref y gallant ei fforddio. Mae hyn yn Argyfwng Tai.

Mae heriau’r blynyddoedd diwethaf – yn enwedig COVID-19, chwyddiant a’r cynnydd mewn costau byw – wedi cael effaith ar adeiladu tai hefyd. Mae hi wedi mynd yn fwy anodd adeiladu cartrefi ar adeg pan fo angen i ni weld hyn yn mynd yn haws. 

Mae’r rhan fwyaf o’r ‘cartrefi fforddiadwy’ yn cael eu darparu gan y prif adeiladwyr tai fel rhan o ddatblygiadau masnachol. Ond ni fydd y farchnad yn darparu ateb ar ei phen ei hun. Yn wir, ledled y DU mae’r cyflenwad o dai fforddiadwy – sef categori eang sy’n cynnwys cynlluniau fel rhan-berchenogaeth yn ogystal ag eiddo rhent cymdeithasol a ddarperir gan gynghorau a chymdeithasau tai ar renti sydd wedi’u capio gan y llywodraeth – wedi gostwng, yn bennaf oherwydd cyfraddau llog uchel a chostau adeiladu cynyddol. 

Nid problem unigryw i Gymru yw hon – nac i’r DU mewn gwirionedd. Mae’r ffigurau ar dai sydd wedi dechrau cael eu hadeiladu yn awgrymu y bydd y cyflenwad yn gostwng dros y blynyddoedd nesaf yng nghanol cyfnod o arafu mewn gwaith adeiladu tai a phwysau ariannol cynyddol ar gymdeithasau tai. Mae angen i ni ymateb.

Does dim ‘bwled hud’ i ddatrys popeth. Roedd y cylch gorchwyl a osodwyd ar gyfer y tasglu yn ein hannog i ddatgloi datblygiadau nad oeddent yn mynd yn ddigon cyflym drwy’r broses gymeradwyo, ac i nodi cyfres o gyfleoedd ar gyfer defnydd ‘Cyfamser’ o dir ar gyfer tai modiwlaidd er mwyn mynd i’r afael â’r angen dybryd am gartrefi i bobl sydd mewn llety dros dro. Ni ddaethom o hyd i dystiolaeth o atebion sydyn, ond mae modd gwneud amrywiaeth eang o newidiadau ymarferol i gyflymu’r broses o ddarparu tai fforddiadwy drwy lwybrau’r farchnad a llwybrau heblaw’r farchnad.

Nid oes amheuaeth nad yw toriadau cyni i Gynghorau, a chyrff cyhoeddus sy’n ymgyngoreion statudol ar geisiadau cynllunio, wedi cyfyngu ar gapasiti a gallu’r awdurdodau lleol i ymateb i’r gofynion. Mae’r system dan straen ymhob rhan ac mae diffyg capasiti, ac mae’r ffaith fod y system mor bytiog yn gwneud hyn yn waeth.

Bydd y newidiadau a gynigir gennym yn helpu i wella effeithlonrwydd a chynyddu’r capasiti i gyflawni. 
Yn ystod yr argyfwng Covid, dangosodd gwasanaethau cyhoeddus allu eithriadol i weithredu i ddiwallu anghenion pobl ac mae angen ffocws pendant tebyg arnom i ymateb i’n Hargyfwng Tai.

Mae’n amlwg, drwy waith y tasglu, fod unigolion yn gwneud gwahaniaeth. Mae angen arweinyddiaeth ar bob lefel, ac ni fydd modd blaenoriaethu a darparu tai fforddiadwy heb arweinwyr ymroddedig sy’n gallu dod â’r holl bartïon at ei gilydd a ffurfio consensws.

Yn ogystal â mynd i’r afael â heriau tymor byr a thymor canolig, mae angen mynd i’r afael â materion systemig hefyd.

Mae’r system gynllunio wedi cael ei diwygio’n sylweddol yng Nghymru ond mae angen newid rhagor ar y mater o gyflenwi tir. Ers diddymu Awdurdod Tir Cymru, a datgymhwyso TAN1, nid oes mecanwaith ar gyfer datblygu ffrwd o gyflenwad tir. Mae angen llawer mwy o gydlynu yn y sector cyhoeddus i ganfod tir, ac mae angen partneriaeth gyda’r sector preifat i ddatblygu tir y mae ganddynt ddiddordeb ynddo gyda’i gilydd.

Y newid mwyaf a argymhellir gennym yw y dylai tir y nodir ei fod yn addas ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol gael rhagdybiaeth tuag at ddatblygu. Mae gormod o rwystrau’n cael eu gosod rhag datblygu ac mae angen symud tuag at ‘Ganiatâd mewn Egwyddor’ ar ôl cytuno bod tir yn addas ar gyfer tai yng ngham y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd hyn yn gofyn am newid i ddeddfwriaeth sylfaenol ac ni fydd hyn yn digwydd yn gyflym. 

Yn y cyfamser, rydym wedi ceisio nodi argymhellion ymarferol sy’n gallu gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’n hymateb i’r argyfwng, ac sydd wedi cael eu profi gyda’r rhai a fydd yn gyfrifol am wneud iddynt weithio.

Lee Waters AS
Cadeirydd y Tasglu Tai Fforddiadwy
17 Ebrill 2025

Argymhellion

Arweinyddiaeth leol

I gydnabod yr argyfwng tai, mae angen gosod y ceisiadau presennol am dai fforddiadwy ar ben y pentwr. Mae angen arweinyddiaeth ac atebolrwydd clir ar draws yr awdurdod ar gyfer symud ceisiadau ymlaen drwy’r system yn gyflym. 

Dylid bwrw ymlaen â cheisiadau cynllunio sy’n cydymffurfio â pholisi os ydynt yn gyson â pholisi cenedlaethol. Mae angen i hyn gael ei gyfleu’n glir ar draws holl adrannau’r Cyngor i’r holl swyddogion perthnasol gan y Prif Weithredwyr, ac i ddeiliaid Portffolio’r Cabinet a’r holl aelodau etholedig gan arweinwyr grŵp.

1.    Mae angen i Awdurdodau Lleol flaenoriaethu ceisiadau am gartrefi fforddiadwy newydd i gydnabod yr argyfwng tai.

2.    Dylid dyrannu uwch swyddog i bob prosiect i ddarparu rheolaeth prosiect ar draws y Cyngor ac i gydlynu penderfyniadau ar draws yr awdurdod lleol. Dylent gael eu rhestru’n gyhoeddus fel un pwynt cyswllt a bod yn gyfrifol am gynnydd cynllun – a chael eu grymuso i wneud penderfyniadau pan fydd cyfaddawdau i’w gwneud mewn prosiect.

3.    Dylai’r uwch swyddog cyfrifol gyfathrebu’n glir â’r ymgeisydd, rhanddeiliaid allanol allweddol a phartneriaid cyflenwi. Dylent alw cyfarfodydd ‘tîm datblygu’ amlddisgyblaethol yn rheolaidd gyda’r holl benderfynwyr, a chanolbwyntio ar ddatrys materion sy’n peri oedi yn y cynnydd. Er enghraifft, bydd hyn yn cynnwys priffyrdd, tirwedd, SAB, dylunio trefol a thirwedd, ecoleg, swyddogion geo-dechnegol, sydd angen cymeradwyo cynlluniau safleoedd a dyluniadau allweddol, yn ogystal â chysylltiadau allweddol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Cadw a Pharciau Cenedlaethol yn ôl yr angen. Dylai pob awdurdod lleol gael un Prif Swyddog Dylunio Trefol sy’n cyfrannu at y broses. Dylai landlordiaid cymdeithasol ymgysylltu â Chomisiwn Dylunio Cymru yn gynnar yn y datblygiad

4.    Rhaid i ddatblygwyr ofyn am gyngor cynllunio ‘cyn gwneud cais’ gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar bob cynnig ‘mawr’. Dylai’r Awdurdod Cynllunio Lleol gynnig cyfarfod tîm amlddisgyblaethol a darparu cyngor clir ac amserol ar yr hyn a ddisgwylir gan ymgeiswyr, gan wahaniaethu rhwng newidiadau/ceisiadau hanfodol i wneud y cynllun yn dderbyniol a newidiadau/ceisiadau dymunol i wneud y cynllun yn well, ac amlygu materion hysbys neu debygol. Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol pan fo materion yn codi na ellid yn rhesymol fod wedi gwybod amdanynt yn ystod y cam ‘cyn gwneud cais’, dylid cadw at y cyngor a roddir. Dylid cyfathrebu’n glir, a dylai pob parti weithio ar sail ‘dim byd annisgwyl’.

Arweinyddiaeth y system

Mae cynghorau ledled Cymru wedi’u rhannu’n rhai sydd wedi parhau i fod yn berchen ar eu stoc tai cymdeithasol a rhai â’u stoc wedi cael ei throsglwyddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Clywodd y tasglu am enghreifftiau o flaenoriaethau gwahanol rhwng Cynghorau nad oes ganddynt reolaeth dros y cartrefi cymdeithasol sydd gan y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gweithredu yn eu hardal.

5.    Mae angen i Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai sicrhau bod ganddynt gysylltiadau cryf a’u bod yn gweithio gyda’i gilydd fel partneriaid i gyflawni mewn perthynas ag anghenion lleol – dylai hyn gynnwys cyfathrebu’n rheolaidd, cydweithio’n agosach a chynllunio ar y cyd.

Dywedodd datblygwyr wrth y tasglu fod gofyn iddynt gyflawni mewn perthynas â blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Mae pwysau’r cyflenwad tai cynyddol yn cystadlu ag amser ac adnoddau, gyda’r rheidrwydd i wella ansawdd tai cymdeithasol sy’n bodoli eisoes. Mae’r gofyniad i symud ymlaen i’r set nesaf o safonau ar gyfer tai cymdeithasol, sef Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, yn cynrychioli cost cyfle y dylid ei chydnabod. 

Tynnodd nifer o randdeiliaid sylw at y ffaith fod gweithio tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 ar gyfer tai presennol yn cyfyngu ar y buddsoddiad sydd ar gael ar gyfer datblygiadau newydd, ac roeddent yn amau a ddylai hyn fod yn flaenoriaeth mewn argyfwng tai. Mae hwn yn densiwn polisi y bydd Gweinidogion yn ei ystyried, a dylid cydnabod unrhyw gyfaddawd.

Mae pryder tebyg yn y sector ynghylch canlyniadau posibl y camau cyfreithiol sy’n mynd rhagddynt o ran y gofyniad i ddarparu Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol dilys, fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Nes bydd y camau cyfreithiol wedi’u datrys, bydd hyn yn parhau i greu ansicrwydd sylweddol i bob parti ac efallai ei fod yn arwain at fod yn fwy gofalus gyda buddsoddiadau ar gyfer y dyfodol.
 
Clywodd y panel dystiolaeth hefyd nad oes gan bob landlord cymdeithasol awydd i ddatblygu cyflenwad uchelgeisiol o gartrefi newydd.

6.    Mae angen i Lywodraeth Cymru gyfleu ei chyfeiriad yn effeithiol – gan gydnabod cyfaddawdau a blaenoriaethu’n glir. Fel rhan o hyn, dylai Llywodraeth Cymru gynnull uwchgynadleddau rhanbarthol, gan gynnwys yr holl bartneriaid cyflenwi cyhoeddus a phreifat, i arddangos y cyllid sydd ar gael, astudiaethau achos i rannu arferion da, a darparu gweithdai ar gyfer prosiectau posibl.

7.    Mae gwerth parhaus i ‘wirio a herio’. Dylai Aelodau Cabinet Cyfrifol y Cynghorau gyfarfod ddwywaith y flwyddyn â Gweinidogion Llywodraeth Cymru i godi a mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg yn ymwneud â chynnydd o ran darparu tai fforddiadwy.

8.    Mae angen i Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) chwarae mwy o ran yn herio pob landlord cymdeithasol cofrestredig ac awdurdod lleol sy’n dal stoc i gyflwyno cyfres uchelgeisiol o gynlluniau newydd.

Symleiddio’r broses

Clywodd y tasglu gwynion dro ar ôl tro am y system gynllunio a oedd yn llawer mwy cymhleth ar ôl edrych yn fanylach. Mae llawer o’r problemau a gaiff datblygwyr yn adlewyrchu’r ffaith fod y system wedi’i gorlwytho, bod anghysondeb, a diffyg arbenigedd a phrofiad arbenigol sy’n gallu arafu’r broses, yn ogystal â chreu cost ddiangen sy’n cymell pobl i beidio ag adeiladu. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r capasiti anghyson ar draws awdurdodau lleol, a lleihau’r anghysondebau – a’r angen am drafodaethau sy’n cymryd llawer o amser i ddatblygwyr sy’n gweithio ar draws ardaloedd awdurdodau lleol – dylai datblygwyr a Chynghorau wneud mwy o ddefnydd o gymalau a chytundebau safonol.

Dylai hyn gynnwys:

9.    Cytundebau safonol ar gyfer darparu seilwaith yn unol â’r safonau technegol presennol, y mae ymgeiswyr yn cytuno iddynt. Dylai hyn gynnwys cytundebau Priffyrdd Adran 278/S38 (yn unol â’r Llawlyfr ar gyfer Strydoedd); cytundebau mabwysiadu SAB (Corff Cymeradwyo SuDS) a sut mae amodau SAB yn cael eu cofnodi i sicrhau cysondeb ac i arbed amser.

10.    Mae datblygwyr wedi dweud wrth y tasglu fod angen bod yn dryloyw ynghylch sut mae symiau gohiriedig yn cael eu cyfrifo. Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol gyhoeddi Canllawiau Cynllunio Atodol sy’n nodi eu gofynion a’u rhesymeg.

11.    Mae methodoleg safonol ar gyfer arfarniadau hyfywedd yn bodoli drwy’r model RICS / Hutchinson Burrows. Fodd bynnag, mae elfennau dadleuol o ran sut mae hyn yn cael ei gymhwyso yn achos gwerth y tir meincnod a’r costau adeiladu. Mae angen mireinio’r modelau ymhellach i fod yn berthnasol i amgylchiadau Cymru, a dylai Llywodraeth Cymru gynnull gweithgor i gael cytundeb.

Mae cyhoeddi cytundebau Adran 106 i gyfrannu fel rhan o ddatblygiad yn cymryd gormod o amser a gall lesteirio cynnydd yn sylweddol. Mae dulliau anghyson hefyd yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol, er enghraifft clywodd y tasglu am rai awdurdodau lleol yn mynnu Adran 106 ar gyfer ceisiadau gan gymdeithasau tai a oedd eisoes 100% ar gyfer tai fforddiadwy. Byddai dull safonol o ymdrin â chymalau drafft Adran 106 yn annog cysondeb ac yn arbed amser ac adnoddau i bob parti dan sylw. Dylai’r defnydd o gytundebau Adran 106 mewn perthynas â chynlluniau fforddiadwy gan gymdeithasau tai neu gynghorau gael ei gyfyngu i faterion fel sicrhau cyfraniadau at addysg, darparu cyfleusterau hamdden a chwarae ac ati, yn hytrach na darparu’r tai fforddiadwy eu hunain.

12.    Dylid cytuno ar ddull gweithredu templed ar gyfer cytundebau Adran 106, gan gynnwys cymalau tai fforddiadwy. Templed safonol ar gyfer pob awdurdod cynllunio fydd hwn, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr preifat. Dylid gosod terfyn amser er mwyn dod i gytundeb.

Gall methiant gan ymgyngoreion statudol i ddarparu penderfyniadau o fewn cyfnod amserol lesteirio cynnydd hefyd. Dylai ymgyngoreion nodi’n gynnar os nad ydynt yn bwriadu ymateb i gais. Pan nad yw Ymgynghorai Statudol yn ymateb, dylid annog Cynghorau i benderfynu yn absenoldeb ymateb ymgynghorai.

13.    Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau ac nid oes angen iddo aros am ymgynghorai statudol os nad yw wedi ymateb o fewn yr amserlen statudol. Mae angen i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddefnyddio dull risg wedi’i reoli i benderfynu ar geisiadau, gan bwyso a mesur y risg o her gyfreithiol os nad yw eu penderfyniad wedi aros am gyngor gan ymgynghorai statudol. Dylai Awdurdodau Lleol gyflawni’r amodau cynllunio o fewn 8 wythnos.

Ni ellir cymeradwyo ceisiadau Cyrff Cymeradwyo SuDS (SAB), sy’n ofynnol dan y gyfraith yng Nghymru ar gyfer unrhyw gynllun adeiladu sy’n ychwanegu 100 metr sgwâr neu fwy, hyd nes y cytunir ar ddogfennau cyfreithiol a chynlluniau manwl ar gyfer cymeradwyaethau SAB cyn defnyddio grantiau Llywodraeth Cymru a dechrau’r gwaith. Clywodd y panel fod angen cyflwyno cynllun hyfyw â manylion technegol llawn cyn cynllunio. Mae angen i hyn newid.

Dylai awdurdodau cynllunio lleol annog datblygwyr i gyflwyno ceisiadau SAB i’w rhedeg ochr yn ochr â cheisiadau cynllunio, a dylent sicrhau bod y SAB a swyddogion cynllunio yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod modd cyhoeddi’r ddau ganiatâd ar yr un pryd heb oedi i’r naill na’r llall. Dylid defnyddio cyn lleied â phosibl o amodau ac ni ddylid eu defnyddio i gynnwys manylion sydd eisoes wedi’u cyflwyno gyda’r cais.

14.    Dylid delio â’r gwaith o ryddhau amodau SAB ochr yn ochr ag amodau technegol eraill ar yr adeg briodol yn y broses – nid ar y dechrau.

15.    Gan gydnabod bod y broses SAB yn dal yn gymharol newydd ac yn parhau i esblygu, dylai Llywodraeth Cymru a CLlLC ddarparu adolygiad o’r arferion gorau a datblygu rhestr o ddeg peth i’w cofio ar gyfer proses gwneud cais SAB.

Mae’r holl bartïon yn cytuno nad oes gan awdurdodau lleol y capasiti a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt ar draws pob maes. Mae’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RPTI) wrthi'n asesu ar ran Llywodraeth Cymru lle ceir bylchau mewn sgiliau. Caiff y dystiolaeth hon ei defnyddio i lywio atebion, a ddylai gynnwys yr angen i Gynghorau rannu adnoddau i lenwi’r bylchau mewn capasiti ac arbenigedd.

Mae’r enghraifft o fwynau a gwastraff, lle mae un awdurdod arweiniol yn cronni adnoddau er mwyn gwasanaethu eraill, yn gynsail i’w ddilyn, a dylai gweithio ar y cyd fod yn arferiad yn hytrach nag yn eithriad.

16.    Rhaid i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol nodi meysydd lle gellir lliniaru bylchau o ran sgiliau a chapasiti drwy gydweithio. Os oes cytundeb i gydlafurio, dylai cyllid gefnogi hyn. Mae angen adolygu’r trefniadau ar ôl cyfnod penodol er mwyn profi eu heffeithiolrwydd.

Dylai Swyddogion Cynllunio wneud mwy o ddefnydd o bwerau dirprwyedig ar ddatblygiadau llai o faint er mwyn gostwng nifer y ceisiadau y disgwylir iddynt fod yn destun gwrandawiad llawn gan bwyllgor Cynllunio Cynghorau. Bydd cynghorwyr bob amser yn cadw’r hawl i alw ceisiadau i mewn, ond y rhagdybiaeth ddiofyn yw y bydd cynlluniau nad ydynt yn cael eu hystyried yn ddatblygiadau mawr yn cael eu trin drwy ddefnyddio pwerau dirprwyedig.

17.    Dylid codi’r trothwy ar gyfer datblygiadau mawr yng Nghymru i 50 o anheddau, yr un fath â’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i ymyrryd, a dylai ddefnyddio’r rheini i greu cynllun dirprwyo cenedlaethol os bydd hyn yn aneffeithiol. Dylai’r gwaith ddechrau gyda CLlLC i ddatblygu un.
 
Mesurau tymor byr

Gofynnwyd i’r tasglu edrych ar gynlluniau fforddiadwy sy’n cael eu harwain gan dai, sydd eisoes yn mynd drwy’r system gynllunio a chydsynio ac sydd mewn perygl sylweddol o oedi. Rydym wedi profi gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan swyddogion gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i nodi rhesymau dros risg uchel o oedi wrth gyflawni cynlluniau sydd wedi’u trefnu i’w cyflawni yn ystod cyfnod y llywodraeth hon. Er na all un ymyriad gyflymu’r sefyllfa, nid yw hynny’n golygu na ellir cymryd camau i fynd i’r afael yn ystyrlon â’n prinder tai yn y tymor byr. 

Daeth y panel i’r casgliad mai’r ffordd orau o sicrhau cynnydd tymor byr yw drwy arweinyddiaeth gryfach a gwell cydlyniad i symud ceisiadau drwy’r broses yn gyflym, gan ganolbwyntio ar ddod ag eiddo gwag presennol yn ôl i ddefnydd, yn ogystal ag ariannu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai sydd ar werth ar y farchnad agored, ac ‘oddi ar gynllun’ gan ddatblygwyr. 

Un mater allweddol a nodwyd gennym oedd cywirdeb y data am y cynnydd yr oedd cynlluniau’n ei wneud. Rhaid i Awdurdodau Lleol ddarparu data clir ac amserol, yn enwedig ar gerrig milltir, cwblhau, rhifau unedau a risgiau. Rhaid iddynt weithio gyda chymdeithasau tai i wneud hyn, gan gydnabod bod y Porth Cartrefi a Lleoedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio i gasglu data am brosiectau yn system fyw.

18.    Rhaid i Landlordiaid Cymdeithasol sicrhau bod data ar raglenni datblygu yn cael eu cynnal yn rheolaidd ac yn gywir ar y porth, a dylai hyn fod yn amod ar gyfer talu. Bydd hyn yn sicrhau bod cyllid yn llifo’n effeithiol ac yn gyflym, a bydd yn nodi’r problemau a’r gefnogaeth sydd eu hangen yn gynharach yn y broses er mwyn gallu blaenoriaethu penderfyniadau.

Mae rhyw 22,000 o dai yn wag ers chwe mis a mwy yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n adolygu pa mor effeithiol yw’r cronfeydd a’r dulliau presennol o ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio. 

Cafwyd llwyddiant drwy dargedu ymyriadau a stiwardio adnoddau, gan gynnwys ar lefel ranbarthol, i ddod ag adeiladau gwag yn ôl i gael eu defnyddio’n fuddiol, gan gynnwys Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gwerthiant Gorfodol - sy’n broses gyflym.

Mae tîm eiddo gwag penodol mewn rhai Cynghorau, tra bo eraill heb ddigon o Swyddogion Tai Gwag hyfforddedig sydd â’r sgiliau a’r pwerau gorfodi angenrheidiol i ddod ag eiddo gwag i gael eu defnyddio unwaith eto.

Clywodd y tasglu fod cefnogaeth i newid y diffiniad o eiddo gwag ar gyfer y Grant Cartrefi Gwag i chwe mis – gan ddod â mwy o eiddo i mewn i’r cwmpas a galluogi gwaith i ddechrau’n gynt.

19.    Dylai Awdurdodau Lleol fod ag un swyddog cartrefi gwag penodol o leiaf.

20.    Dylai Llywodraeth Cymru lunio canllawiau clir ar y ffyrdd y gall Awdurdodau Lleol ddelio ag eiddo gwag, a dylai archwilio’r potensial ar gyfer defnyddio gwasanaethau achyddiaeth i gaffael eiddo gwag hysbys yn gynt.

Mae nifer o’r cartrefi cymdeithasol presennol yn wag ac yn cael eu hystyried yn ‘ddi-fudd’ oherwydd bod angen eu hatgyweirio neu eu huwchraddio’n sylweddol cyn y gellir ailddechrau eu defnyddio. Weithiau, mae cymdeithasau tai o’r farn fod cost gwaith yn gwneud y buddsoddiad yn anymarferol. Gall hyn gael ei waethygu gan y gofyniad i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023, a chan y gystadleuaeth am grefftwyr medrus i wneud y gwaith. Heb fuddsoddiad amgen, mae’r eiddo hyn fel arfer yn cael eu gwerthu ac yn gadael y stoc tai cymdeithasol sydd ar gael. 

Mae cyllid wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol i ailddefnyddio’r math hwn o eiddo di-fudd. Mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu a dylid parhau ag ef. Mae eiddo sydd heb ei feddiannu, sy’n galw am waith mawr ac a fydd yn cael ei werthu fel arall, wedi rhoi’r gorau i fod yn rhan bwrpasol o’n stoc tai cymdeithasol; mae ariannu’r gwaith atgyweirio arno yr un fath ag ychwanegu tai drwy gaffael a dylid trin hynny yn yr un modd.

21.    Dylai tai cymdeithasol yr ystyrir eu bod ‘yn ddi-fudd’ ac sy’n gofyn am fuddsoddiad sylweddol er mwyn gallu eu defnyddio eto gael eu hystyried yn yr un modd â chaffael, a dylid eu hariannu drwy’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol. Yn hytrach na bod mewn perygl o gael eu gwerthu fel rhai aneconomaidd neu gael eu gadael yn ddi-fudd yn y tymor hir, dylid dod â nhw’n ôl i’w defnyddio fel mater o flaenoriaeth a’u cyfrif fel rhan o darged Llywodraeth Cymru i gael 20,000 o gartrefi ychwanegol ar gyfer rhent cymdeithasol – bydd hyn yn sicrhau bod cyllid yn cael ei arwain gan ganlyniadau a bod y targed yn adlewyrchu’r polisi gorau.

Canlyniad anfwriadol arall i’r targed y clywsom amdano oedd yr her o liniaru gorlawnder. Mae ffocws rhai landlordiaid cymdeithasol ar adeiladu cartrefi newydd yn gost-effeithiol yn gwaethygu’r prinder o dai mwy o faint ar gyfer rhent cymdeithasol. Clywodd y panel dystiolaeth fod y mater hwn yn effeithio’n anghymesur ar bobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a chan fod prinder tai mwy o faint ar rent fforddiadwy mae teuluoedd mwy o faint yn aml yn wynebu amgylchiadau anghyfforddus mewn tai sy’n rhy fach i’w hanghenion. 

Gall addasiadau i’r atig fod yn ffordd bragmatig o liniaru gorlawnder ond nid ydynt yn cyfrannu at y targed o 20,000. Serch hynny, mae addasiadau i’r atig yn gymwys ar gyfer cyllid, ond nid yw hyn yn cael ei ddeall yn eang. Er ein bod yn cydnabod y bydd cost cyfle weithiau, mae’r panel yn teimlo y dylai’r ffocws fod ar ganlyniadau ac y dylid annog addasiadau i'r atig lle bo hynny’n briodol. Gan na fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer y rhain yn aml, bydd hyn yn darparu ychydig o orffwys yn gymharol gyflym.

22.    Dylai landlordiaid cymdeithasol nodi cyfleoedd i gynnwys addasiadau i'r atig yn eu rhaglenni.

Mae datblygwyr wedi dweud wrth y tasglu fod cyfleoedd i ychwanegu at y stoc o dai cymdeithasol drwy brynu tai preifat presennol, neu drwy adfywio eiddo gwag, yn cael eu cyfyngu gan y gallu i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. Gall fflatiau uwchben siopau yng nghanol trefi yn benodol fod yn heriol wrth wneud gwaith, a gall trefniadau i gael mynediad parhaus achosi problemau ymarferol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo bod hyblygrwydd eisoes yn bodoli o ran sut mae’r safonau’n cael eu rhoi ar waith, ac mae’n darparu cyllid i sicrhau bod eiddo’n cyrraedd y safon. Fodd bynnag, mae’n amlwg i ni fod y safbwyntiau hyn yn groes i’w gilydd ac yn anghydnaws â’i gilydd.

23.    Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio’n gynhyrchiol gyda’r sector i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r Safonau. Dylai swyddogion gwrdd â landlordiaid cymdeithasol a datblygwyr yn rheolaidd i ystyried cynigion fesul achos, gan gydnabod bod angen brys am ragor o gartrefi. Dylai’r canfyddiadau o’r adolygiadau fesul achos gael eu cyfleu i bob landlord cymdeithasol, a lle bo angen dylid eu troi’n safonau diwygiedig i fynd i’r afael â themâu sy’n codi dro ar ôl tro wrth drosi adeiladau sy’n bodoli eisoes. Byddai hyn wedyn yn rhoi sicrwydd i landlordiaid cymdeithasol ac yn atal Llywodraeth Cymru rhag arafu'r cynnydd drwy orfod adolygu nifer sylweddol o gynlluniau.

Os yw datblygwyr yn teimlo bod defnyddio’r safonau yn rhwystro cyfleoedd datblygu ystyrlon, dylid codi hyn yn y cyfarfodydd y cynigiwyd i'w cynnal ddwywaith y flwyddyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet.

Mesurau tymor canolig

Mae’n hanfodol inni ddarparu’r cartrefi y mae ar bobl eu hangen mewn mannau lle mae cysylltiadau da â thrafnidiaeth gyhoeddus, dulliau teithio llesol a gwasanaethau lleol. Rhaid peidio â cholli’r pwyslais ar greu lleoedd o ansawdd da a’r dull gweithredu strategol yn Cymru’r Dyfodol. 

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu sut y gellir cyflymu a chryfhau prosesau paratoi a monitro’r Cynllun Datblygu Strategol a’r Cynllun Datblygu Lleol er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o dir ar gyfer datblygiadau defnydd cymysg gyda mynediad perthnasol at amwynderau a gwasanaethau ochr yn ochr ag adfywio drwy dai yn y mannau lle mae eu hangen fwyaf. 

Ar ben hynny, mae potensial heb ei wireddu i ddefnyddio tir cyhoeddus sbâr ar gyfer tai. Canfu’r tasglu fod teimlad nad yw tir yn cael ei ddefnyddio ddigon ym mhob awdurdod lleol a bwrdd iechyd ond nad oes dim ohono’n cael ei gynnig yn rhagweithiol i gael ei ddatblygu. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cofnodi’r holl dir sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus drwy gronfa ddata ganolog e-PIMS (Gwasanaeth Mapio Gwybodaeth Eiddo Electronig). Fodd bynnag, mae hyn wedi arafu ac mae angen cyllid arno.

24.    Mae angen gwneud E-PIMS yn weithredol a’i gynnal i wasanaethu fel cronfa ddata fyw i helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.

Mae angen i Lywodraeth Cymru ddeall y cymhellion y mae angen eu cynnig, yn ogystal â helpu i ddarparu capasiti i gydlynu ei ddatblygiad; dylent gwrdd ag uwch arweinwyr i oresgyn rhwystrau.

25.    Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu cyflenwad o dir addas sydd ar gael gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Trafnidiaeth Cymru a cheidwaid tir cyhoeddus eraill fel y Weinyddiaeth Amddiffyn. Dylai’r Is-adran Tir fynd ati’n rhagweithiol i nodi tir y gellir ei ddatblygu. Mae angen cadw cofrestr o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio, a defnyddio’r gofrestr fel sail ar gyfer cynllunio strategol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Abertawe wedi caffael datblygiadau’n uniongyrchol i adeiladu cartrefi i’w rhentu ar dir sy’n eiddo i'r awdurdodau lleol. Dylai’r arfer da hwn gael ei gynyddu.

26.    Dylai tir sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus fod ar gael am ddisgownt os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer sylweddol o gartrefi cymdeithasol.

Mae potensial mawr ar sail tymor byr i ddarparu cartrefi modiwlaidd dros dro o ansawdd uchel er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro. Mae enghreifftiau o’r hyn a elwir yn ‘Ddefnydd Cyfamser’ yn Grangetown yng Nghaerdydd ac yn Llanilltud Fawr yn dangos sut y gellir mynd ati’n gyflym i ddefnyddio pwerau Hawliau Datblygu a Ganiateir i ddefnyddio capasiti tai newydd. 

Yn ogystal â nodi safleoedd ar gyfer nifer o unedau o dai ‘Cyfamser’ dros dro, dylai landlordiaid cymdeithasol chwilio am gyfleoedd ar gyfer safleoedd ‘mewnlenwi’ llai o faint ar ddatblygiadau tai presennol, neu’n agos atynt, lle gellir defnyddio tir sbâr i greu cartrefi. Nod ‘gwasgaru’ unedau tai fforddiadwy ledled cymuned fel hyn, yn hytrach na’u canoli mewn ystadau mawr ar wahân, yw creu cymdogaethau amrywiol sy’n gydlynol yn gymdeithasol.

Ni ddylid anwybyddu’r posibilrwydd o greu safleoedd bach neu safleoedd ‘mewnlenwi’ neu ‘wasgaru’ y gellir eu darparu’n gyflym ar safleoedd tai a chymunedau presennol, a gallai cyllid gymell datblygiadau sy’n cyflawni’n gyflym. Mae hyn yn berthnasol y tu hwnt i ddefnydd Cyfamser hefyd.

Mae ymarferion dysgu gwersi gan yr awdurdodau wedi nodi’r angen i gydlynu a chydweithio ar faterion fel caffael, y gyfraith a pharatoi safleoedd. Mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac adrannau Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn nodi safleoedd ymgeisiol ychwanegol. Byddai defnyddio tir sy’n cael ei danddefnyddio i helpu i liniaru anghenion tai dros dro yn helpu awdurdodau lleol i reoli pwysau ariannol sylweddol yn sgil talu costau llety gwely a brecwast yn ogystal â darparu cartref gweddus i fwy o bobl. Mae’r tasglu o’r farn mai’r rhesymau dros y diffyg cynnydd o ran dod â mwy o gynlluniau ‘Cyfamser’ ymlaen yw cyfuniad o gyfyngiadau capasiti, canfyddiad ymysg awdurdodau y gall y broses fod yn gymhleth ac anodd, a nerfusrwydd ynghylch ymateb cymunedau lleol.

27.    Dylai Llywodraeth Cymru a CLlLC gydweithio â phartneriaid i sefydlu tîm cyflawni ‘lle bo’r angen’, a fydd yn cefnogi’r sylfeini cyfreithiol a chaffael ar gyfer dod â safleoedd ymlaen ar gyfer tai dros dro o ansawdd uchel.

28.    Ar hyn o bryd, dim ond am flwyddyn y mae Hawliau Datblygu a Ganiateir yn caniatáu i ddatblygiadau fodoli heb ganiatâd cynllunio llawn. Mae’r panel yn credu y dylid ymestyn hyn i saith mlynedd o ystyried cymhlethdod y gwaith o ddatblygu safleoedd.

Cafodd premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cyflwyno’n rhannol i sicrhau bod cynghorau’n gallu ymateb i’r effeithiau y mae nifer fawr o’r eiddo hynny’n eu cael ar ein cymunedau, gwasanaethau lleol a’r stoc dai – ac i sicrhau bod perchnogion yn gwneud ‘cyfraniad teg’ drwy’r system dreth. O ystyried costau cynyddol llety mewn ardaloedd problemus, mae angen i Awdurdodau Lleol sicrhau bod y dreth a godir yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw.

29.    Rhaid i Awdurdodau Lleol gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu premiymau treth gyngor o ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir, gan nodi’r swm a godwyd a sut y cafodd ei wario. Dylai Llywodraeth Cymru osod disgwyliad fod y dreth yn cefnogi atebion tai fforddiadwy i bobl leol. Gall hyn gynnwys prynu tai oddi ar y farchnad agored mewn ardaloedd poblogaidd.

30.    Mae llawer o Gynghorau sy’n rheoli eu stoc eu hunain o dai fforddiadwy o blaid clustnodi’r cyllid ychwanegol a godir o’r dreth ail gartrefi ar gyfer tai cymdeithasol drwy’r Cyfrif Refeniw Tai. Dylai Llywodraeth Cymru a CLlLC edrych rhagor ar hyn.

Mesurau tymor hir

Mae argymhellion y grŵp hwn wedi canolbwyntio ar yr ymyriadau tymor byr a phragmatig y mae modd eu cyflawni. Fodd bynnag, rhaid i’r broses o wella’r system yn y tymor hir ddechrau nawr hefyd os ydym am osgoi rhagor o argyfyngau yn y dyfodol, a chreu cyflenwad cynaliadwy a chyraeddadwy o dai cymdeithasol ar gyfer y wlad.

Mae nodi tir ar gyfer anghenion tai yn y dyfodol yn ffocws allweddol ym mhroses y Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, mae datblygwyr yn dweud nad oes unrhyw ragdybiaeth ar gyfer datblygu yn ystod y cam cynllunio lleol i dir sydd wedi’i nodi a’i gytuno fel tir addas ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae noddwyr tir i'w ddatblygu yn gorfod mynd drwy broses hirfaith i ddyrannu safle i’r Cynllun Datblygu Lleol, ac maent hefyd yn aml yn wynebu prawf hir arall i gael caniatâd cynllunio amlinellol, ac yna caniatâd cynllunio llawn. Dylai dyraniad i’r Cynllun Datblygu Lleol olygu nad oes unrhyw drafodaeth bellach am yr egwyddor o ddatblygiad preswyl, a dylai’r ffocws symud tuag at gynigion manwl. Fodd bynnag, yn aml mae’r ddadl yn ystod y cam cynllunio yn canolbwyntio ar ailgynnal dadl sydd eisoes wedi’i setlo yng nghyfnod y Cynllun Datblygu Lleol.

Yn ogystal â bod yn fuddsoddiad sylweddol mewn costau ac amser, mae’r broses yn defnyddio adnoddau sylweddol gan awdurdodau cynllunio lleol. Mewn Argyfwng Tai, nid yw hyn yn dda ar y gorau ac weithiau mae’n rhywbeth nad oes modd ei esgusodi.

Mae’r broses hirfaith ar gyfer dod â thir i gael ei ddefnyddio ar gyfer tai yn aml yn golygu bod y gyfradd ddatblygu yn is na’r disgwyl pan grëwyd y Cynllun Datblygu Lleol. Roedd cyfarfod o gwmpas y bwrdd gydag 16 o sefydliadau a gynullwyd gan y cyfreithwyr Hugh James wedi argymell i’r tasglu fod dangosydd newydd ar gyfer monitro tai yn nodi diffyg parhaus yn y ddarpariaeth tai, a dylid defnyddio mecanwaith wrth gefn i ganiatáu i safleoedd eraill ddod ymlaen y tu allan i broses y CDLl pan fo'r CDLl yn methu yn erbyn set o feini prawf y cytunwyd arnynt. Mae angen ystyried rhagor ar hyn, a gallai gynnwys gofyniad bod cyfran sylfaenol o’r cartrefi ar bob safle yn rhai fforddiadwy.

Cyflenwad tir

31.    Dylai tir y nodir ei fod yn addas ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol fod â rhagdybiaeth o blaid datblygu. Bydd y newid hwn i alluogi ‘Caniatâd mewn Egwyddor’ yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol ac mae angen ei gyd-gynhyrchu gyda’r awdurdodau lleol. 

Mae’r ddadl wedi canolbwyntio’n llwyr ar gyflwyno tir ar gyfer tai newydd ac mae angen canolbwyntio hefyd ar wneud defnydd llawn o’r stoc bresennol. Dylid darparu cymhellion a’u marchnata’n glir i sicrhau bod gan breswylwyr presennol yr opsiwn i gael cartref llai o faint lle bo hynny’n briodol, a sicrhau bod mwy o bobl yn dod o hyd i’r cartrefi sy’n addas ar eu cyfer nhw.

Cynllunio tymor hir i fynd i’r afael â digartrefedd

Clywodd y tasglu nad oes digon o gydgysylltu rhwng asesiadau ar anghenion y cyflenwad tai ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd a chynllunio tai’n strategol.

32.    Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol a Chynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiad cynnydd blynyddol i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu yn erbyn yr anghenion a nodir yn y dogfennau hyn – yn enwedig ar gyfer pobl sy’n ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro.

33.    Rhaid i Lywodraeth Cymru adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Ailgartrefu Cyflym ynghylch y ffordd orau o adlewyrchu data ar anghenion digartrefedd wrth gynllunio cyflenwadau, gan sicrhau bod y cyflenwad tai i fynd i’r afael ag anghenion pobl leol ddigartref yn cael ei flaenoriaethu’n briodol.

Cyllid

Mae cyllid yn rhan hanfodol o’r broses adeiladu tai ac mae datblygiadau’n aml yn ddrud ac yn cymryd blynyddoedd i’w cwblhau. Clywodd y panel dystiolaeth fod rhai rhannau o’r system gyllid yn cael eu defnyddio’n anaml neu byth ar gyfer tai fforddiadwy a’u bod yn gallu cyfyngu ar adnoddau. 

Os yw datblygwyr sy'n fusnesau bach a chanolig am barhau i ymgysylltu a thyfu, mae datblygwyr wedi tynnu sylw at y ffaith fod angen rhoi mwy o ystyriaeth i’r costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â chael caniatâd cynllunio, sef costau sy’n codi fwy a mwy ac nad ydynt yn cael eu hariannu gan y rhan fwyaf o fanciau ar hyn o bryd.

34.    Gall yr angen am sicrebau i liniaru pan fydd methiant ariannol gan ddatblygwr gael effaith sylweddol ar gyflawni cynlluniau tai fforddiadwy mewn da bryd ac yn anaml y cânt eu defnyddio. Nid yw’r rhain yn ateb diben defnyddiol pan fydd y cynlluniau’n cael eu datblygu gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac ni ddylent fod yn berthnasol mwyach.

35.    Yn yr un modd, mae Bondiau Perfformiad wedi bod yn ofynnol ar gyfer gwaith sector cyhoeddus a wneir gan fusnesau bach a chanolig, ond mae’r panel wedi clywed bod y bondiau hyn yn gynyddol anodd a chostus i’w cael ac y gallent gael effaith ddi-fudd ar fusnesau bach a chanolig llai o faint. Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu darn o waith ymchwil i asesu a yw’r canfyddiad hwn o fethiant y farchnad yn gywir ac i benderfynu ar y camau nesaf, gan gynnwys ystyried a yw cael Llywodraeth Cymru i danysgrifennu yn fater hyfyw.

36.    Rhaid i Fanc Datblygu Cymru chwarae mwy o ran yn darparu cyllid ar gyfer tai cymdeithasol. Mae rhan benodol i Fanc Datblygu Cymru ei chwarae o ran cefnogi busnesau bach a chanolig. Mae rhanddeiliaid yn dweud eu bod yn cael trafferth ymgysylltu â’r banc ac maent yn teimlo nad ydynt yn deall y sector.

37.    Dylai Llywodraeth Cymru weithredu’r newid y bu’n ymgynghori arno y llynedd a rhoi rhyddhad ar Dreth Trafodiadau Tir i Awdurdodau Lleol sy’n caffael eiddo at ddibenion tai cymdeithasol – yn union fel y mae eisoes yn ei wneud ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae cymal eithrio morgeisai (MEC) yn eithriad i ddarpariaethau tai fforddiadwy, fel arfer mewn cytundebau Adran 106 ond hefyd mewn dogfennau cynllunio a dogfennau cyfreithiol eraill fel gweithredoedd trosglwyddo. Petai landlord cymdeithasol cofrestredig yn methu talu ei ddyledion a phetai benthyciwr yn cymryd meddiant o’r sicreb – rhywbeth sydd heb ddigwydd erioed yng Nghymru – mae’r cymal MEC yn caniatáu i fenthyciwr werthu cartrefi ar y farchnad agored os dilynwyd rhai camau. 

Mae MECs yn golygu bod modd cael prisiadau uwch drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig heb amharu dim ar ddarpariaeth tai fforddiadwy’r awdurdod lleol. Mae’r prisiadau uwch yn cefnogi symiau mwy o fenthyca ac, yn y pen draw, mwy o gapasiti i adeiladu tai fforddiadwy ledled Cymru. Roedd Savills yn amcangyfrif bod cyfyngiadau MEC yn cwtogi ar gapasiti benthyca yn y sector o tua £166-333m, sef swm a allai, o’i gyfuno â grant, ariannu 2,000-4,000 o dai cymdeithasol ar rent.

38.    Dylid datblygu dull gweithredu safonol ar gyfer MECs, gan ddileu’r angen i negodi’r eitem hon ar ddogfennau cynllunio yn y dyfodol. Dylai awdurdodau lleol a Chymdeithasau Tai weithio gyda’i gilydd, ynghyd â phartneriaid yn y diwydiant adeiladu, i ddatblygu un.

Sgiliau 

Clywodd y Tasglu dystiolaeth yn rheolaidd o bwysigrwydd sgiliau a’r tagfeydd sy’n cael eu creu gan brinder sgiliau. Caiff hyn ei adlewyrchu ar draws y proffesiynau amgylchedd adeiledig, gan gynnwys y gweithlu dylunio ac adeiladu, yn ogystal ag mewn cymwysterau technegol drwy’r broses gynllunio a chymeradwyo.

Nid yw argymhellion y Tasglu yn mynd i’r afael â maint yr her sgiliau yng Nghymru, ond heb fynd i’r afael â’r broblem honno bydd yr awgrymiadau ymarferol yr ydym wedi’u gwneud yn cael eu tanseilio’n barhaus gan brinder y bobl sydd eu hangen arnom. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y flaenoriaeth a roddir i dai fforddiadwy a’r rhan y mae sgiliau hanfodol yn ei chwarae yn hynny, a chael agwedd drawslywodraethol, er enghraifft drwy gyllid mewn meysydd fel prentisiaethau. 

Hanfodol yw datblygu argymhellion adolygiad Lusher yn llwyddiannus, yn ogystal â chydnabod y rhan hanfodol y mae’r amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn yr adolygiad cyfredol o sgiliau gwyrdd. 

Gall y sector hefyd wneud mwy i ymgysylltu â phobl ifanc, a dylai fod yn hyderus fod cyflenwad cryf wedi’i greu, a buddsoddi yn y gwaith o recriwtio a hyfforddi ei weithlu yn unol â hynny. Dylai’r proffesiynau amgylchedd adeiledig ymgysylltu ag ysgolion a deall sut i wneud y llwybrau gyrfa hynny’n fwy gweladwy yn y cwricwlwm newydd, yn enwedig mewn meysydd y tu hwnt i beirianneg, megis dylunio trefol a thirwedd a phensaernïaeth. Ar draws y darn, ond ar yr ochr dechnegol yn benodol, rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein holl ddulliau gweithredu yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r adnoddau cyfyngedig sydd gennym – fel yn yr argymhellion cydweithredol a wnaed gennym yn gynharach. 

Rydym wedi gweld enghreifftiau o arferion da ledled Cymru, a chredwn y gellid dysgu ohonynt, eu cynyddu neu eu rhoi ar waith mewn mannau eraill. Roedd hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae’r cyd-raglen prentisiaethau wedi llwyddo i gefnogi oedolion ifanc i gael cyflogaeth gynaliadwy yn y diwydiant adeiladu. Cyfle Building Skills yn ne-orllewin Cymru y tynnwyd sylw ato fel esiampl o hyfforddi pobl ifanc i ennill prentisiaethau a chael cymwysterau.
  • Mae hwb coleg adeiladu a datgarboneiddio Tŷ Gwyrddfai ym Mhenygroes yn brosiect cydweithredol rhwng landlord cymdeithasol cofrestredig, addysg bellach ac addysg uwch yn hyfforddi cyflenwad o weithwyr medrus mewn technegau carbon isel.
  • Mae gan gymdeithas tai Adra ei thîm cynnal a chadw ac adeiladu mewnol ei hun, sef Trwsio, sy’n golygu bod modd cynllunio’r gweithlu
    Rydym yn argymell y canlynol:

39.    Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol nodi sut y gellir mabwysiadu enghreifftiau o arferion da yn eu hardaloedd.

40.    Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Gymdeithas Tai nodi camau y gallant eu cymryd i gyfrannu at ddatblygu ffrwd sgiliau

41.    Dylid adfer y Brentisiaeth Lefel 2 mewn Adeiladu.

Atodiad 1: Aelodaeth

Cadarnhawyd aelodaeth y Tasglu ar 28 Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol fel a ganlyn:

Amanda Davies, Cadeirydd Cymoedd i'r Arfordir
Y Cynghorydd Andrea Lewis, Arweinydd Tai CLlLC
Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn
Mark Hand, Cyfarwyddwr Cymru, Gogledd Iwerddon a Planning Aid England yn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol
Andrew Farrow, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir y Fflint 
Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.

Yn ogystal, gofynnodd y Cadeirydd i ddau aelod arall fod yn bresennol i gefnogi’r gwaith:

Rhea Stevens, Cyfarwyddwr Materion Allanol Cartrefi Cymunedol Cymru
Dorian Payne, Rheolwr-gyfarwyddwr yn Grŵp Castell