Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, wrth siarad am y ffordd y mae’r sefyllfa yng Nghymru’n cael ei chamddeall, wedi dweud bod nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg ar ei isaf ers deng mlynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cangen Sir Benfro o NFU Cymru neithiwr, disgrifiodd y Prif Filfeddyg y gwaith da sydd wedi’i wneud, gyda thros 95% o fuchesi Cymru bellach heb TB. 

Cyfeiriodd hefyd at y cynnydd yn nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd.  Pwysleisiodd nad yw hynny’n brawf bod y sefyllfa’n gwaethygu fel mae rhai’n ddweud, er bod y ffigurau’n dal yn destun pryder. 

Mae’r cynnydd yn ganlyniad i ddefnyddio mwy ar y prawf gwaed interferon gamma a dehongli’r prawf croen yn drylwyrach. O ganlyniad, mae gwartheg heintiedig mewn buchesi sydd â hanes o TB yn cael eu darganfod yn gynt. 

Mae’r profion mwy sensitif hyn yn darganfod yr haint yn gynt ac yn arafu lledaeniad y clefyd.  Disgwylir i nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd gwympo dros amser o ganlyniad i ddefnyddio’r profion ac wrth i nifer y buchesi heintiedig barhau i gwympo. 

Gwnaeth y Prif Filfeddyg esbonio hefyd safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch rheoli’r clefyd mewn bywyd gwyllt gan ddweud bod y penderfyniad wedi’i wneud yng Nghymru i beidio ag efelychu Loegr a chynnal rhaglen ddifa.

Mae’r Treialon Difa Moch Daear yn Lloegr wedi dangos gostyngiad o 16% yn nifer yr achosion newydd o TB Gwartheg dros naw mlynedd.  Yng Nghymru, mae nifer yr achosion newydd wedi cwympo 47% mewn wyth mlynedd trwy raglen o gynnal profion amlach, gwella bioddiogelwch a mesurau eraill ar reoli gwartheg.  Fodd bynnag, rhaid cydnabod mewn buchesi lle ceir achosion tymor hir o TB bod y dystiolaeth yn awgrymu bod bywyd gwyllt yn gronfa i’r haint. 

O’r herwydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cynnig ymateb pwyllog i reoli’r clefyd mewn anifeiliaid gwyllt yng Nghymru.  Gan ganolbwyntio ar y buchesi sy’n cael eu hailheintio dro ar ôl tro, lle gellir profi’n wrthrychol bod moch daear wedi’u heintio, cynigir bod y grwpiau heintiedig o foch daear yn cael eu trapio a’u lladd heb greulondeb. 

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol bod y gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cynlluniau gweithredu penodol ar gyfer pob buches, gan fynd i’r afael â chyfraniad anifeiliaid gwyllt at y broblem. 

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Christianne Glossop: 

“Rydym i gyd yn cydnabod bod TB Gwartheg yn cael effaith ariannol a chymdeithasol fawr ar fusnesau fferm ac economi cefn gwlad.  Er cystal gweld nifer yr achosion newydd yn cwympo, a hynny hyd yn oed yn yr ardaloedd lle mae TB ar ei waethaf, rwy’n deall nad yw hynny’n gysur i’r ffermydd hynny sy’n gorfod dygymod â TB nawr.  Dyna pam ein bod am ganolbwyntio ein hymdrechion i ddileu’r clefyd mewn buchesi sydd wedi’u heintio." 

“Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar ein Rhaglen Newydd i Ddileu TB bellach wedi dod i ben ac rydym yn croesawu’r ymatebion ddaeth i law.  Rydym wedi ymrwymo i ddileu’r clefyd yng Nghymru, ond allwn ni ddim gwneud hynny ar ein pen ein hunain.  Calonogol oedd gweld felly bod NFU Cymru yn croesawu’n cynlluniau rhanbartholi, gan eu nod yw diogelu’r ardaloedd lle mae TB yn brinnach tra’n parhau â’r frwydr mewn ardaloedd eraill.  Bydd hynny’n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i wneud wrth inni weithio i wireddu’n huchelgais o gael gwared ar TB yng Nghymru.” 

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Rhaglen newydd i Ddileu TB Gwartheg.  Disgwylir cyhoeddi’r rhaglen newydd yn y gwanwyn.