Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniad o brofion ar fuchesi cyffiniol, pam ei fod yn bwysig a sut i drefnu prawf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diffiniad o brawf cyffiniol

Prawf gwyliadwriaeth ychwanegol ar groen buches i gadw golwg sy'n ofynnol ar gyfer buchesi cyffiniol, neu sy'n agos at achos TB.

Rhesymau dros ofyn am brawf cyffiniol

Gwyddom fod ffermydd sy'n agos at achos o TB mewn mwy o berygl na ffermydd ymhellach i ffwrdd. Gellir trosglwyddo TB mewn gwartheg yn lleol yn y ffyrdd canlynol:

  • yn uniongyrchol trwy gyswllt trwyn-i-drwyn gan wartheg dros ffin
  • trwy fywyd gwyllt lleol heintiedig gyda mynediad at fwyd, neu fwynau anifeiliaid
  • trwy yfed o gyrsiau dŵr y mae gan wartheg o fuchesi eraill, neu fywyd gwyllt fynediad atynt, neu o gafnau dŵr agored i fywyd gwyllt
  • trwy'r llwybr awyr trwy ledaenu tail a slyri o fferm heintiedig

Mae'n bwysig nodi TB mewn buches cyn gynted â phosibl ar ôl yr heintio, er mwyn lleihau lledaeniad y clefyd i anifeiliaid eraill yn y fuches. 

Meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa fuchesi sydd angen prawf cyffiniol

Mae'r profion hyn wedi'u trefnu ar gyfer buchesi:

  • sydd yn union gyffiniol i fuches wedi'i heintio â TB; neu
  • wedi'u gwahanu gan afon neu ffordd fach; neu
  • lai nag 1km i ffwrdd o'r fuches wedi'i heintio â TB, ond wedi'i gwahanu gan ddarn o dir heb ei stocio, neu goetir, neu gynefin addas ar gyfer moch daear neu geirw

Trefnu prawf cyffiniol

Bydd amseriad y prawf cyffiniol yn dibynnu ar ddyddiad y prawf diweddaraf yn y fuches. Trefnir fel a ganlyn:

  • os oedd y prawf twbercwlin negyddol diwethaf bedwar mis yn ôl neu fwy, trefnir prawf cyffiniol, ar unwaith. Mae ffenestr deufis i gwblhau'r prawf
  • os cynhaliwyd y prawf twbercwlin negyddol diwethaf lai na phedwar mis yn ôl, mae dyddiad y prawf cyffiniol yn cael ei ohirio. Fodd bynnag, rhaid ei gwblhau o fewn chwe mis o ddyddiad dechrau'r prawf buches clir diwethaf. Mae'r ffenestr i gwblhau'r prawf yn agor dau fis yn gynharach na'r dyddiad cwblhau diwethaf