Neidio i'r prif gynnwy

Bydd trwydded gyffredinol TB16e yn caniatáu i chi symud gwartheg o safle o dan gyfyngiadau TB i Uned Besgi Gymeradwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dim ond symudiadau cyfyngedig ac o dan reolaeth a ganiateir ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB. Mae hyn er mwyn rheoli'r risg o ledaenu TB mewn gwartheg drwy symud gwartheg sydd â haint heb ei ddarganfod.

O 2 Hydref 2023 ymlaen, gall ceidwaid buchesi dan gyfyngiadau TB wneud cais am drwydded gyffredinol (TB16e). Mae hyn yn ymdrin â symud gwartheg:

  • yn uniongyrchol, neu
  • drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”) yng Nghymru neu Loegr i:
    • Uned Besgi Gymeradwy (AFU)
    • Uned Besgi Gymeradwy Uwch gyda Thir Pori (yn Lloegr) (AFUE)
    • lladd-dy 

Bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer y cyfnod rhwng profion cyfnod byr. Bydd angen gwneud cais am drwydded newydd ar ôl pob prawf cyfnod byr.

Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i symud gwartheg i arwerthiant arbennig TB (marchnad oren), byddwn yn rhoi trwydded TB16e. Bydd ‘dyddiad yn ddilys tan’ ar y drwydded wedi'i gwblhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae'n bosibl y bydd amodau ychwanegol. Ar gyfer buchesi wedi’u heintio â TB yng Nghymru, pan fo'r prawf nesaf yn brawf clirio posibl, fel arfer bydd amod ychwanegol yn cael ei gynnwys, sef ‘Dim ond yn ddilys ar gyfer lloi o dan 90 diwrnod oed’.

Gallwch gopïo'r drwydded wreiddiol gynifer o weithiau ag y bo angen yn ystod y cyfnod mae'r drwydded yn ddilys. Bob tro rydych yn dymuno symud gwartheg, bydd angen i chi:

  • gwblhau Rhan 2 y drwydded gyda manylion safle pen y daith (h.y. enw a chyfeiriad yr AFU/AFUE neu'r farchnad oren)
  • ychwanegu manylion y gwartheg y byddwch yn eu symud:
    • dyfais adnabod swyddogol yr anifail (rhif tag clust)
    • dyddiad geni
    • dyddiad y prawf TB diwethaf (os oes angen prawf cyn symud, felly nid oes angen ei gwblhau ar gyfer lloi o dan 42 diwrnod oed)

Yng Nghymru, dylech wneud cais i APHA, drwy:

Bydd y drwydded gan gynnwys yr amodau manwl yn cael ei chyhoeddi ar dudalen twbercwlosis buchol (bovine TB ar gov.uk). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau TB gwartheg ac ar TB hub.co.uk.