Neidio i'r prif gynnwy

Os byddwch yn mynd â’ch gwartheg i fwy nag un sioe amaethyddol y tu allan yr Ardal TB Isel, gallwch ddefnyddio uned gwarantîn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwartheg sy'n cael eu symud i'r Ardal TB Isel o'r tu allan i'r Ardal TB Isel

Os bydd gwartheg yn cael eu symud i ddaliad yn yr Ardal TB Isel o'r tu allan i'r ardal honno, fel arfer bydd angen cynnal prawf ar ôl symud. Bydd angen cynnal y prawf rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl symud y gwartheg, a rhaid eu cadw ar y  daliad nes eu bod yn cael y prawf.

Gwartheg sy'n cael eu symud i sioe y tu allan i'r Ardal TB Isel o'r Ardal TB Isel 

Os bydd ceidwad yn yr Ardal TB Isel am fynd â’i wartheg i nifer o sioeau amaethyddol y tu allan i'r ardal, gall ddefnyddio uned gwarantîn. Trwy eu cadw mewn uned gwarantîn, ni fydd angen prawf ar ôl symud arnyn nhw bob tro y byddan nhw'n gadael ac yn dod yn ôl i'r daliad.

Bydd y gwartheg fydd yn cael eu cadw yn yr uned gwarantîn yn cael eu cadw ar wahân i weddill yr anifeiliaid ar y daliad. Mae hyn yn golygu y cewch symud eich gwartheg o'r uned gwarantîn ac yn ôl iddi o sioeau amaethyddol nifer o weithiau. Bydd dal gofyn iddyn nhw gael canlyniad clir i brawf ar ôl symud rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl mynd y tro cyntaf i'r uned gwarantîn. Ond fe fyddan nhw'n cael symud i ac o sioeau tra'n aros am ganlyniad y prawf.

Ar ôl dychwelyd o'r sioe olaf, bydd angen cynnal prawf ar ôl symud rhwng 60 a 120 diwrnod ar ôl y symudiad. Ar ôl y prawf, byddan nhw'n cael gadael yr uned gwarantîn a mynd yn ôl i'r prif ddaliad.