Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau newydd i brofi mwy o weithwyr hanfodol am y coronafeirws fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd datrysiadau technoleg, cefnogaeth gan gynlluniau milwrol a chael gwared ar y cap ar atgyfeiriadau gweithwyr cymdeithasol yn cyflymu’r system er mwyn sicrhau bod mwy o weithwyr hanfodol yn cael eu profi’n ddyddiol yng Nghymru.

Mae’r rhain i gyd yn argymhellion o adolygiad a drefnwyd gan y Gweinidog Iechyd yn dilyn pryderon nad oedd digon o brofion yn cael eu cynnal o dan y system bresennol.

Dywedodd Mr Gething:

“Rydyn ni’n cynyddu ein capasiti i brofi yng Nghymru drwy ein hunedau profi cymunedol, cyflwyno canolfannau gyrru heibio rhanbarthol ar gyfer profi ac, o fewn wythnosau, gwasanaeth profi gartref ar-lein. 
 
“Gan nad yw nifer dyddiol y profion wedi bod yn cyfateb y capasiti rydyn ni wedi’i greu yng Nghymru, rwyf wedi trefnu adolygiad cyflym o’r system bresennol. 
 
“Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o argymhellion i gyflymu’r broses o atgyfeirio gweithwyr allweddol ar gyfer eu profi. Rwyf wedi derbyn y rhain i gyd i gael eu gweithredu ar unwaith. 
 
“Heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi ein polisi profi gweithwyr hanfodol sy’n amlinellu pa weithwyr fydd yn cael eu profi a sut.
 
“Rydw i eisiau gweld cynnydd cyflym mewn profi gweithwyr hanfodol ledled Cymru fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn gynt a bod â hyder i wneud eu gwaith yn ddiogel. Mae eu cyfraniad at atal lledaeniad y coronafeirws a’n cadw ni i gyd yn ddiogel yn amhrisiadwy.”

Mae’r argymhellion, sydd wedi’u cymeradwyo gan y Gweinidog, yn cynnwys y canlynol:

  • Gwaith i ddarparu platfform archebu ar y we i gael gwared ar fiwrocratiaeth. 
  • Cael gwared ar y terfyn uchaf ar atgyfeiriadau ym mhob awdurdod lleol.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Fforymau Cadernid Lleol i adolygu a diwygio’r broses gyfeirio ar gyfer profi gweithwyr hanfodol.
  • Y fyddin i edrych ar y prosesau gweithredol ac i gyflymu’r system a’i gwneud yn fwy effeithlon.