Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddydd Iau 10 Awst 2023, yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Flwyddyn yn ôl, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion, fe wnes i siarad mewn sesiwn debyg i hon gyda CDPS. Fe wnes i bwysleisio pa mor bwysig y mae hi i roi siaradwyr Cymraeg ynghanol gwasanaethau. Hefyd fe wnes i ddweud bod angen i ni sicrhau bod cynnwys yn Gymraeg yn hawdd i siaradwyr Cymraeg ei ddeall a’i ddefnyddio.

Defnydd o’r Gymraeg, mwy na jyst darpariaeth oedd y neges bryd hynny. Pobl, mwy na jyst proses hefyd.

A dwi’n dal i gredu hynny.

A dwi mor falch bod CDPS yn rhoi’r defnyddiwr wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi dros y flwyddyn ddiwethaf tuag at yr hyn ni’n lansio eleni sef llyfr swmpus, pwysig, defnyddiol.

Y llynedd, clywon ni gan siaradwyr Cymraeg am eu profiadau wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg . Eu neges oedd ei bod nhw weithiau’n ei chael hi’n anodd deall y gwasanaethau, ac o’r herwydd maen nhw’n eu defnyddio’n llai aml nag y gallen nhw. Mae hyn, wrth reswm, yn drueni, gan ein bod ni am gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

Y llynedd, fe wnaethon ni ddysgu o’r sesiwn ar y cyd â’r CDPS fod angen i ni wneud mwy na jyst cyfieithu er mwyn gwneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch. Dyna pam mae heddiw’n gyfle cyffrous i ni glywed am y gwaith y mae CDPS wedi arwain arno ers hynny, yn seiliedig ar lais pobl. Ac mae hynny i gyd am ‘ysgrifennu triawd’.

Nawr mae hwn yn ddull o ysgrifennu sy’n cynnwys tri neu fwy o bobl yn y broses creu cynnwys. Y nod yw creu cynnwys clir a hawdd ei ddeall i bobl sy’n medru’r Gymraeg a’r rhai sy ddim. Y peth gwych amdano fe yw ei fod e’n gallu gwella’r ddwy iaith ar yr un pryd!

Mae llawer o bobl wedi dweud wrtha i yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog nad ydyn nhw’n credu bod eu Cymraeg yn ‘ddigon da’ i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd ffurfiol neu swyddogol. Rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth mae llawer o bobl yn ei deimlo’n ddwfn. Mae’r Gymraeg yn rhan werthfawr o’n diwylliant, ac ry’n ni am sicrhau ei bod hi’n hygyrch i bawb, beth bynnag yw lefel eu Cymraeg neu sut bynnag maen nhw’n teimlo am eu sgiliau iaith.

Flwyddyn yn ôl, gofynnais i oedden ni’n ddigon dewr i newid pethau. Heddiw, rwy’n gweld ein bod ni. A da hynny. Ry’n ni’n ddigon dewr i roi’r Gymraeg ynghanol ein cynllunio. Ry’n ni’n ddigon dewr i wneud mwy na jyst cyfieithu. Ry’n ni’n ddigon dewr i ddefnyddio ysgrifennu triawd a gwneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch i bawb. Ry’n ni’n ddigon dewr i wrando ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau.

Rwy’n gwybod efallai na fydd hon yn dasg hawdd, ond dwi hefyd yn gwybod ei bod hi’n un mae’n rhaid ei gwneud. Mae’r Gymraeg yn rhan werthfawr o’n diwylliant ni, a thrwy wneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch, ry’n ni’n gwneud mwy na jyst helpu siaradwyr Cymraeg , ry’n ni hefyd yn helpu i sicrhau dyfodol ein hiaith.

Felly gadewch i ni fod yn ddewr. Gadewch i ni newid pethau. Gadewch i ni wneud cynnwys Cymraeg yn fwy hygyrch i bawb. Gyda’n gilydd, gallwn wneud y Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus am genedlaethau i ddod.