Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r adroddiad Estyn yn ymateb i gais am gyngor parthed y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o brofiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n mynychu darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) ledled Cymru. Mae’n gwerthuso tegwch arlwy’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n cael eu lleoli mewn darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys eu cyfle i fanteisio ar arlwy cwricwlwm amser llawn neu ran-amser. Mae hefyd yn ystyried pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn gwerthuso a gwella ansawdd ac effaith y ddarpariaeth, ac yn adrodd ar y cyfnod pontio rhwng darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol ac ysgolion neu ddarpariaeth ôl-16.

Dull

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio tystiolaeth a gasglwyd yn ystod hanner olaf tymor yr hydref 2022.

Mae’r dystiolaeth yn cynnwys arolwg i’r holl awdurdodau lleol i ddarparu trosolwg o’r holl ddarpariaeth ac arferion AHY presennol. Daeth 17 ymateb i law. Yn ychwanegol at yr arolwg, cynhaliwyd 19 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda swyddogion arweiniol AHY. O ganlyniad, casglwyd gwybodaeth gan bob awdurdod lleol ar wahân i un.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr gwasanaethau gwella ysgolion o bob un o’r consortia rhanbarthol i drafod eu hymwneud ag AHY.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gydag arweinwyr unedau cyfeirio disgyblion (UCD), arweinwyr y cwricwlwm a disgyblion mewn 8 UCD. Roedd y sampl UCD yn cynnwys UCDau ar un safle ac UCDau portffolio, ac yn cwmpasu disgyblion rhwng pump ac un deg chwech oed. Roedd y sampl hefyd yn cynnwys UCDau a oedd wedi cytuno i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022.

Edrychwyd ar amrywiaeth o ddogfennau, gan gynnwys cynllunio’r cwricwlwm a llwybrau cymhwyster yn ystod yr ymweliadau ag UCDau. Yn ychwanegol, defnyddiom dystiolaeth o naw arolygiad UCD a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr 2019 a mis Rhagfyr 2022.

Crynodeb o'r prif gasgliadau

Profiadau’r cwricwlwm

  • Mewn ychydig o UCDau, mae arlwy’r cwricwlwm yn y sector cynradd a disgyblion oedran uwchradd iau wedi’i deilwra i ddarparu ymyriadau targedig penodol i gefnogi anghenion pob disgybl a’u dychweliad i ysgol brif ffrwd.
  • Mewn llawer o UCDau, mae ehangder y cwricwlwm ar gyfer disgyblion oedran uwchradd hŷn i gefnogi cyfnod pontio i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn effeithiol.
  • Dywedir bod gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n gadael UCDau ac yn dod yn bobl ifanc ‘nad ydynt yn ymgysylltu ag addysg, cyflogaeth na hyfforddiant’ (NACH).
  • Mae yna dystiolaeth gyfyngedig bod ysgolion prif ffrwd yn gweithio’n agos gyda darparwyr AHY i sicrhau parhad y cwricwlwm ar gyfer disgyblion o’u hysgol, ac eithrio mewn lleiafrif o UCDau. Mae hyn yn parhau i fod yn faes i’w wella.
  • Mae arweinwyr UCDau yn wynebu heriau wrth benodi athrawon pwnc arbenigol.
  • Mae gormod o UCDau â mynediad cyfyngedig at gyfleusterau addysgu arbenigol, ond mae nifer gynyddol o awdurdodau lleol yn buddsoddi mewn lleoliadau gwell sydd wedi’u harfogi’n llawn i gefnogi arlwy’r cwricwlwm llawn.
  • Mae gan ormod o ddisgyblion drefniadau addysg ran-amser nad ydynt yn cael eu cytuno’n gyson â’r awdurdod lleol. Ni chaiff rhaglenni cymorth bugeiliol eu defnyddio’n effeithiol na’u monitro’n ddigon da.
  • Ychydig iawn o awdurdodau lleol sydd yn darparu mwy na 10 awr o addysg bob wythnos i ddisgyblion AHY sy’n derbyn gwasanaethau tiwtora wedi’u trefnu gan yr awdurdod lleol.
  • Mae rhy ychydig o ddisgyblion sy’n derbyn gwasanaethau tiwtora wedi’u trefnu gan yr awdurdod lleol yn cael mynediad at arlwy cwricwlwm llawn.
  • Pan mae disgyblion yn cael addysg ran-amser mewn UCD neu ddarparwr AHY allanol ac ysgol brif ffrwd, nid yw llawer o ddisgyblion yn mynychu eu hysgol brif ffrwd pan y dylent.
  • Ran amlaf o lawer, mae’n well gan ddisgyblion fynychu eu UCD na’u hysgol brif ffrwd. Ychydig iawn o ddisgyblion oedd yn gweld eisiau eu hysgol brif ffrwd neu eisiau dychwelyd yno.

Prosesau sicrhau ansawdd

  • Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith negyddol gyda chynnydd mewn cyfraddau atgyfeirio ar gyfer darpariaeth AHY. O ganlyniad, mae nifer y disgyblion AHY yn cynyddu, ac maent yn aros yn hirach i elwa ar ddarpariaeth.
  • Bron ym mhob un o’r awdurdodau lleol, nid oes unrhyw brosesau ffurfiol i werthuso a gwella arlwy’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion AHY.
  • Mae gormod o ddisgyblion yn aros mewn darpariaeth AHY yn rhy hir, gan effeithio ar allu darparwyr i gyflawni ymyriadau tymor byr a dychwelyd disgyblion i ysgolion prif ffrwd yn ddigon cyflym.
  • Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi gwella’u defnydd o banelau gwneud penderfyniadau i bennu’r ddarpariaeth AHY sydd ei hangen ar gyfer disgyblion unigol, ond gall nifer ac amlder panelau arwain at oedi wrth gael mynediad at leoliadau.
  • Mae gormod o awdurdodau lleol nad ydynt yn nodi’n glir beth yw hyd disgwyliedig lleoliad mewn darparwyr AHY ar gyfer disgyblion ac nid yw prosesau adolygu wedi’u datblygu’n ddigonol.

Cyfnod pontio rhwng darpariaeth AHY ac ysgolion prif ffrwd neu addysg bellach, hyfforddiant, neu gyflogaeth

  • Nifer fach o ddisgyblion AHY sydd wedi dychwelyd i ysgol brif ffrwd yn llwyddiannus dros y pedair blynedd ddiwethaf.
  • Rhwystr rhag ailintegreiddio disgyblion yn llwyddiannus i ysgolion prif ffrwd yw cymhlethdod anghenion disgyblion.
  • Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae UCDau yn gweithredu mwy yn unol ag ysgolion arbennig gan fod lleoliadau disgyblion yn rhai tymor hir. Pan mae arfer yn effeithiol, mae cynlluniau clir ar waith i ystyried hyd y cyfnod y caiff disgyblion eu lleoli mewn darpariaeth AHY. Mae’r broses hon yn llai cadarn lle mae awdurdodau lleol yn comisiynu darparwyr AHY allanol.
  • Mewn ychydig o UCDau, mae awdurdodau lleol wedi cyflwyno darpariaeth dosbarth bach ychwanegol yn ddiweddar, yn benodol i dargedu cymorth dwys tymor byrrach ar gyfer disgyblion cynradd a disgyblion oedran uwchradd iau. Pan mae’r trefniadau hyn ar waith, mae yna nifer gynyddol, ond bach, o ddisgyblion yn dychwelyd i ysgol brif ffrwd gyda chymorth.
  • Mae cyfleoedd i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd ar gyfer disgyblion oedran uwchradd hŷn yn parhau i fod yn opsiwn, er ei bod yn llai tebygol mai dyma’r llwybr ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion. Bron ym mhob awdurdod lleol, mae arlwy’r cwricwlwm ar gyfer y disgyblion hyn yn canolbwyntio ar gefnogi symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn gosod yr argymhellion canlynol ar gyfer UCDau, ysgolion prif ffrwd, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion:

UCDau ac ysgolion prif ffrwd

  1. Rannu arfer â’i gilydd a gweithio gydag awdurdodau lleol, disgyblion, a rhieni i gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddychwelyd i addysg brif ffrwd.
  2. Monitro presenoldeb disgyblion yn agos i sicrhau eu bod yn elwa ar eu darpariaeth lawn ac, yn benodol, i ddiogelu disgyblion lle maent yn cael addysg ran-amser mewn gwahanol ddarparwr.

Awdurdodau lleol a’u gwasanaethau gwella ysgolion

  1. Gynorthwyo mwy o ddisgyblion i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd lle bo’n briodol trwy:
    • gryfhau cymorth dwys tymor byr mewn darpariaeth AHY.
    • sicrhau bod penderfyniadau am leoliadau’n cael eu gwneud yn brydlon ac yn nodi hyd cytunedig, rolau a chyfrifoldebau clir a dyddiad adolygu.
  2. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn UCDau sy’n diwallu anghenion pob un o’r disgyblion, gan weithio gyda’r pwyllgor rheoli a’r athro sydd â gofal.
  3. Sicrhau darpariaeth cwricwlwm mewn darparwyr AHY heblaw UCDau.
  4. Cryfhau’r prosesau sicrhau ansawdd a monitro i sicrhau bod arlwy’r cwricwlwm yn cael ei gyflwyno’n effeithiol mewn darparwyr AHY.
  5. Herio a monitro presenoldeb disgyblion yn drylwyr ar draws darparwyr AHY, gan gynnwys defnydd priodol o amserlenni rhan-amser a rhaglenni cymorth bugeiliol.

Llywodraeth Cymru

  1. Ddiweddaru a sicrhau bod y Fframwaith ar gyfer Gweithredu AHY yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys yr holl ganllawiau atodol perthnasol ar AHY, i adlewyrchu argymhellion yr adroddiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae’r argymhellion a wnaed gan Estyn yn gyson ag egwyddorion a chamau gweithredu sydd i’w gweld yn Fframwaith Gweithredu ar gyfer Darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol, sydd yn cael ei ddiwygio ar hyn o bryd i adlewyrchu canfyddiadau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.