Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y teithiau awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn parhau i’r dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwasanaeth Awyr Mewnol Cymru yw'r ffordd gyflymaf o deithio rhwng y gogledd a'r de, ac mae’n galluogi teithwyr a thwristiaid i deithio ar draws y wlad ac yn ôl mewn diwrnod, heb yr angen i aros dros nos.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: 

"Yn dilyn adolygiad trylwyr yn 2016, mae'n bleser gen i gyhoeddi y bydd Gwasanaeth Awyr Mewnol Cymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn parhau.

"Er bod y gwasanaeth wedi wynebu anawsterau yn y gorffennol - oherwydd gweithredwyr blaenorol yn fwy na dim, daeth yr adolygiad i'r casgliad ei fod yn ffordd gyflym a chyfleus o deithio rhwng y de a'r gogledd, sy’n hanfodol i'n heconomi.

"Roedd yr adolygiad yn argymell y dylid gwneud mwy na chadw’r gwasanaeth yn unig, dylid helpu'r gwasanaeth awyr i dyfu hefyd. Rydym bellach yn edrych ar sut y gellid datblygu’r llwybr dros y pedair blynedd nesaf, a thu hwnt, i helpu i roi hwb i economi Cymru.

"Bydd y broses gystadleuol o gaffael gweithredwr hirdymor ar gyfer y gwasanaeth yn dechrau yn yr ychydig fisoedd nesaf. Yn y cyfamser, bydd y gweithredwr presennol, Eastern Airways, yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth, gan sicrhau gwasanaeth di-dor i deithwyr."