Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

  1. Yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd yn 2021, cynhaliodd swyddogion waith dadansoddi a gwerthuso mewnol pellach i ystyried Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) rhwng mis Chwefror a mis Medi 2023. 
     
  2. Fel rhan o'r gwaith hwn, casglwyd gwybodaeth o'r ymatebion a gafwyd i'r arolwg gan 14 o'r 22 awdurdod lleol ac 8 coleg addysg bellach, ac adolygodd swyddogion y dystiolaeth a gyflwynwyd ar gyfer adolygiad 2021. Fe wnaethom hefyd gwrdd â chynrychiolwyr: 
  • o swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • swyddogion Cyfarwyddwyr Addysg a Thrafnidiaeth awdurdodau lleol
  • o'r Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig

Hefyd, fe ystyriwyd:

  • dadleuon y Senedd
  • cwestiynau llafar ac ysgrifenedig
  •  adroddiadau Pwyllgorau

Adolygwyd yr holl ohebiaeth, gan gynnwys y deisebau, a dderbyniwyd ers i'r adolygiad blaenorol gael ei gynnal ac ystyriwyd dros 80 o bapurau ymchwil o'r DU a phapurau ymchwil rhyngwladol ar fathau arloesol o ddarpariaeth cludiant i'r ysgol. 

  1. Yn ogystal, cynhaliodd Cymru Ifanc ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc ledled Cymru i gael eu barn ar y Cod Ymddygiad wrth Deithio Cymru gyfan gan alluogi tua 70 o ddysgwyr o 6 ysgol i roi sylwadau amhrisiadwy ar eu profiadau o deithio i'r ysgol. 
     
  2. Ymgysylltodd swyddogion â gwaith Senedd Ieuenctid Cymru ar Deithio Cynaliadwy a oedd yn digwydd ar yr un pryd o'r adolygiad. Mae'r argymhellion yn y papur hwn wedi ystyried canfyddiadau ac argymhellion adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, 'Ffyrdd Gwyrdd'. 

Y prif ganfyddiadau ac argymhellion

  1. Mae'r gwaith dadansoddi a gwerthuso hwn wedi dod i'r casgliad, o ystyried y diwygiadau sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio ar gyfer strwythur y diwydiant bysiau, a gyda Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol o ran pwysau ar gyllidebau, na ddylid mynd ati ar hyn o bryd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth sy'n sail i Deithio gan Ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r costau ar gyfer cyfrifoldebau statudol presennol awdurdodau lleol wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i amrywiaeth o faterion gan gynnwys prisiau tanwydd uwch, prinder gyrwyr ac argaeledd gweithredwyr ac felly byddai angen buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru na ellir ei fforddio ar hyn o bryd. 
     
  2. Mae'r gwaith dadansoddi a gwerthuso yn gwneud nifer o argymhellion sy'n darparu'r fframwaith i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y ddarpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru a bydd yn helpu i fynd i'r afael â nifer o'r materion a godwyd gan randdeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni.

Argymhelliad 1: Diweddaru'r ddogfen Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol i gyd-fynd â newidiadau deddfwriaethol; hyrwyddo a chryfhau cyfrifoldeb cyfunol ar draws llywodraeth leol, ysgolion, rhieni a dysgwyr; a gwella cysondeb y ddarpariaeth ar draws Cymru

  1. Mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad y dylai gwaith ddechrau ar unwaith i ddiweddaru'r canllawiau statudol sy'n cefnogi cyflwyno trefniadau teithio a chludo ar gyfer ein dysgwyr ledled Cymru, sef Teithio i Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (2014) a'r Chod Ymddygiad wrth Deithio ar gyfer Cymru Gyfan (2018). 
     
  2. Dylid diweddaru'r canllawiau i gyd-fynd â'r newidiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers eu cyhoeddi, yr hierarchiaeth drafnidiaeth a nodir yn Llwybr Newydd a dyheadau Llywodraeth Cymru o ran Sero Net. 
     
  3. Bydd y diweddariad i'r canllawiau yn helpu i fynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd yn yr adolygiad blaenorol (sydd i gyd yn dal i fod yn berthnasol) ac sydd wedi'u hailadrodd yng nghanfyddiadau'r adolygiad cyfredol hwn. Bydd hyn yn cynnwys diweddaru a diffinio'n glir rolau a chyfrifoldebau i bawb sy'n ymwneud â theithio i'r ysgol er mwyn cefnogi dull gweithredu mwy cyson ar gyfer darpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru. Bydd y canllawiau'n cael eu datblygu i ddarparu fframwaith ar gyfer cyflwyno darpariaeth teithio i'r ysgol sy'n gymdeithasol gyfiawn, yn amgylcheddol ac yn ariannol gynaliadwy ac sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac yn cynnwys arferion gorau o Gymru, a thu hwnt.

Argymhelliad 2: Comisiynu darn o waith i ddiweddaru'r Cod Ymddygiad Teithio ar gyfer Cymru Gyfan a'r adnoddau i ysgolion a diweddaru'r canllawiau statudol cysylltiedig

  1. Fel rhan o'r gwaith dadansoddi a gwerthuso hwn, cynhaliodd Cymru Ifanc weithdai gyda 69 o blant o 6 ysgol ledled Cymru. Cafwyd cipolwg gwerthfawr ar farn a theimladau plant a phobl ifanc ynghylch teithio i'r ysgol a sut y gellir diweddaru'r Cod Ymddygiad wrth Deithio ar gyfer Cymru gyfan i fod yn fwy perthnasol a hygyrch ac wedi ymwreiddio mwy ym mywyd ysgol plant a phobl ifanc. Amlygodd yr ymgynghoriad yr angen i godi proffil y ddogfen bwysig hon a'r adnoddau cysylltiedig; dim ond 2 allan o'r 69 o blant oedd wedi clywed am y Cod. Awgrymodd y plant a'r bobl ifanc rai atebion arloesol i wella hyn ac i sicrhau bod teithio a chludiant i'r ysgol yn rhan annatod o gymuned yr ysgol. 
     
  2. Argymhellir felly bod y gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn cael ei defnyddio i gefnogi rhaglen waith i gyd-greu gyda phlant a phobl ifanc God Ymddygiad wrth Deithio newydd er mwyn ymgorffori ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb o fewn ysgolion a chymunedau, a sicrhau bod y negeseuon allweddol yn adlewyrchu'r adborth o'r ymgynghoriad cynnar a'r cyfleoedd a gyflwynir gan yr hierarchiaeth drafnidiaeth.
     
  3. Fel rhan o'r ffrwd waith hon bydd swyddogion trafnidiaeth ac addysg yn archwilio opsiynau i weithio gyda phartneriaid ym meysydd teithio llesol ac addysg i gyd-gynllunio'r pecynnau adnoddau cwricwlwm a chyfathrebu i'w defnyddio gan ysgolion, cyrff llywodraethu, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i gefnogi gweithredu'r Cod yn gyson ledled Cymru a sicrhau perthnasedd i bob dull teithio. 
     
  4. Yn ogystal, bydd swyddogion yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, awdurdodau lleol, ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau bod y canllawiau statudol cysylltiedig yn cael eu diweddaru i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau yn glir a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod lle a sut y gallant lywio a dylanwadu ar bob mater teithio ysgol a chael gafael ar gymorth perthnasol. 

Argymhelliad 3: Hyrwyddo arferion gorau, adnoddau a chydweithio pellach ar draws awdurdodau lleol

  1. Amlygodd yr adolygiad rai arferion rhagorol sydd waith ar draws Cymru i amrywio'r ystod o opsiynau teithio ar gyfer plant a phobl ifanc, sy'n hyrwyddo'r defnydd o atebion mwy teilwredig, hyblyg ac arloesol i annog cerdded, beicio a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. 
     
  2. Mae'r adolygiad yn dod i'r casgliad y gellir gwneud mwy drwy ddefnyddio rhwydweithiau sefydledig fel ATCO, CLlLC a Trafnidiaeth Cymru i rannu rhai o'r arferion hyn a rhai o'r adnoddau rhagorol a ddatblygwyd. 
     
  3. Er enghraifft, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig Cyllidebau Teithio Personol i rai teuluoedd ac wedi datblygu polisïau arferion da a thempledi i gefnogi eu defnydd. Mae Cyllidebau Teithio Personol yn caniatáu i rieni neu ofalwyr wneud eu trefniadau teithio hyblyg eu hunain i'r ysgol neu'r coleg yn hytrach na theithio ar gerbyd a ddarperir gan yr awdurdod lleol. Cyfrifir Cyllidebau Teithio Personol yn seiliedig ar y pellter rhwng y cartref a'r ysgol neu'r coleg am yr union nifer o ddyddiau y mae'r plentyn yn mynychu'r ysgol ac mae'n ystyried gofynion teithio cyfredol y plentyn. Os yw'r awdurdod lleol yn cyfrifo y byddai Cyllideb Teithio Personol yn fwy cost-effeithiol na chontractio'r ddarpariaeth yn uniongyrchol eu hunain, darperir Cyllideb i rieni neu warcheidwaid plant sy'n gymwys i gael cludiant i'r ysgol. Gallai hyrwyddo Cyllidebau Teithio Personol, y cytunir arnynt yn ofalus, i ddenu pobl i fanteisio arnynt helpu i sicrhau arbedion ariannol cymedrol ond pwysig a chyfrannu at ddatblygu annibyniaeth ac, mewn llawer o achosion, hyrwyddo rhyngweithio gwell rhwng rhieni a'r ysgol wrth ollwng a chasglu bob dydd. Gallai hefyd darparu cyfleoedd i awdurdodau lleol a theuluoedd ystyried atebion eraill yn lle cludiant drud o ddrws i ddrws. Mae'r polisïau a'r templedi a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Fynwy wedi cael eu rhannu â rhai awdurdodau lleol er mwyn iddynt ystyried gweithredu'r polisi ond nid oes mecanwaith ffurfiol, cyson i sicrhau bod modd casglu ynghyd a lledaenu adnoddau o'r fath, ac unrhyw wersi a ddysgwyd, ar draws pob awdurdod. 
     
  4. Mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad y dylai swyddogion weithio gyda phartneriaid cyflawni i nodi strwythur llywodraethu cydlynol a chyson addas a phlatfform i hyrwyddo mentrau o'r fath a chefnogi rhannu adnoddau arferion gorau gan gynnwys arferion gorau o ran contractau cludiant neu deithio ac adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau.

Argymhelliad 4: Archwilio opsiynau i ddatblygu rhaglen grant a ariennir gan arian cyfatebol i ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer hyfforddiant teithio annibynnol 

  1. Dylai mentrau fel defnyddio hyfforddiant teithio annibynnol i sicrhau bod gan bob un o'n pobl ifanc y sgiliau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus ac yn annibynnol gael eu hyrwyddo a'u cefnogi ymhellach gan Lywodraeth Cymru.
     
  2. Yng Nghaerdydd cafodd yr hyfforddiant teithio annibynnol ei ariannu i ddechrau drwy gyllid sbarduno gan Lywodraeth Cymru a CLlLC yn 2008 i 2009. Mae'r Cyngor wedi datblygu'r rhaglen dros y degawd diwethaf i fod yn wasanaeth hunangyllido sy'n darparu hyfforddiant unigol a grŵp i unigolion addas er mwyn iddynt allu defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd eu mannau dysgu, gan ddatblygu sgil gydol oes sy'n agor mwy o gyfleoedd cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth hirdymor iddynt. Drwy ddatblygu'r gwasanaeth yn fewnol, mae'r Cyngor wedi gallu teilwra ac addasu'r ymyriad a datblygu arbenigedd lleol y gellid ac y dylid ei ddefnyddio fel esiampl. Mae cydweithwyr mewn awdurdodau lleol yn Rhondda Cynon Taf a Chastell-nedd Port Talbot hefyd wedi cydnabod manteision rhaglen o'r fath ac er eu bod ar hyn o bryd ar ddechrau'r broses ddatblygu, maent yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yng Nghaerdydd i ddysgu o'u profiad nhw.
     
  3. Mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad y dylid hyrwyddo'r math hwn o fodel buddsoddi i arbed ar gyfer darparu Hyfforddiant Teithio Annibynnol i awdurdodau lleol ac, os gellir dod o hyd i gyllid priodol, y dylai cynllun grant arian cyfatebol fod ar gael i helpu awdurdodau lleol i ddatblygu a chefnogi rhaglen o'r fath os yw'r seilwaith trafnidiaeth gofynnol yn caniatáu hynny; neu annog atebion eraill sy'n manteisio i'r eithaf ar fuddsoddiad presennol Llywodraeth Cymru mewn rhaglenni Diogelwch ar y Ffyrdd ar draws yr awdurdodau lleol. 

Argymhelliad 5: Cynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a'r defnydd o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus 

  1. Yn unol â hierarchiaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru a nodir yn Llwybr Newydd, mae'r gwaith gwerthuso a dadansoddi hwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid cyflenwi eraill yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i'n dysgwyr ddefnyddio dulliau teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd eu man dysgu. 
     
  2. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gaffael rhaglen Teithiau Iach newydd ac mae'n parhau i ariannu Eco-ysgolion. Mae rhaglenni fel y rhain yn gyfle i sicrhau bod ysgolion, dysgwyr a chymunedau yn cael y gefnogaeth, yr adnoddau a'r hyfforddiant penodol sydd eu hangen arnynt i ddarparu'r seilwaith llywodraethu ac amgylcheddol i annog mwy o deithiau iach a mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i deithio i ysgolion a cholegau. Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil ymyriadau o'r fath.
     
  3. Er mwyn cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, mae angen i'n dysgwyr gael mynediad at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus da. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud gwaith helaeth gan weithio'n agos gyda gweithredwyr bysiau lleol i ddiwygio amserlenni er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n teithio ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus i'w mannau dysgu, gan gynyddu sgiliau a hyder y bobl ifanc a sicrhau llwybrau i aelodau eraill o'r gymuned. 
     
  4. Mae gweithredu rhwydwaith masnachfraint yn gyfle i sicrhau bod ysgolion a cholegau yn cael eu hystyried wrth gynllunio rhwydweithiau bysiau rhanbarthol. Argymhellir felly, fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer gweithredu'r Bil Bysiau, bod Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau bod y gwaith y maent yn ei wneud i ddatblygu'r rhwydwaith yn cynnwys ein sefydliadau dysgu, ysgolion a cholegau addysg bellach yn ogystal â phrifysgolion. Bydd hyn yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan rwydwaith masnachfraint i annog mwy o blant a phobl ifanc i ddefnyddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus. 
     
  5. Roedd yr adolygiad hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i gynyddu'r defnydd o'r rhwydwaith rheilffyrdd i helpu plant a phobl ifanc i gyrraedd eu man dysgu. Nododd yr adolygiad ardal yn Sir y Fflint lle y gellid agor cysylltiadau rheilffordd ar gyfer plant ysgol, yn ogystal â'r gymuned ehangach, gyda rhywfaint o gydweithio rhwng Trafnidiaeth Cymru a thimau trafnidiaeth awdurdodau lleol a theithio llesol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Gallai nodi a gweithredu newidiadau fel hyn arbed adnoddau sylweddol i'r awdurdod lleol, yn ogystal â datblygu sgiliau cenedlaethau'r dyfodol i fod yn unigolion diogel, hyderus a galluog sy'n gweld trafnidiaeth gyhoeddus fel yr allwedd i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Argymhellir felly bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Sir y Fflint i archwilio'r rhwystrau a'r cyfleoedd i ddatblygu'r cyswllt rheilffordd hwn i'w ddefnyddio gan ddysgwyr. Gellid defnyddio'r astudiaeth achos hon fel prosiect peilot ar gyfer sut y gellid nodi cyfleoedd mewn awdurdodau lleol a dysgu gwersi ar gyfer gwneud y mwyaf o'n cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. 

Argymhellion

  1. Datblygwyd yr argymhellion i gyd-fynd â'r ymrwymiadau deddfwriaethol a'r cyfyngiadau ariannol cyfredol. Bydd y camau a nodir yn cael eu goruchwylio gan weithgor trawsadrannol i sicrhau ymgysylltiad llawn â'r ystod o gydweithwyr polisi sydd â diddordeb yn y mater hwn sy'n cwmpasu sawl portffolio gan gynnwys trafnidiaeth, addysg, y Gymraeg, iechyd a materion gwledig. 
     
  2. Bydd cyflawni newid yn llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithredu sy'n cynnwys awdurdodau lleol, ysgolion, gweithredwyr bysiau a rheilffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, teuluoedd a'r plant a'r bobl ifanc eu hunain. Mae'n hanfodol bod yr holl bartneriaid hyn yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu'r fframwaith a'r cymorth i sicrhau bod ein dysgwyr yn deall eu hawliau, yn ogystal â'u cyfrifoldebau i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder i gyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac mewn ffordd gynaliadwy. Felly, bydd y grŵp trawsadrannol yn datblygu strwythur llywodraethu ac amserlen briodol ar gyfer cyflawni'r camau nesaf hyn.

Argymhelliad 1

Diweddaru'r ddogfen Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol i gyd-fynd â newidiadau deddfwriaethol; hyrwyddo a chryfhau cyfrifoldeb cyfunol ar draws llywodraeth leol, ysgolion, rhieni a dysgwyr; a gwella cysondeb y ddarpariaeth ar draws Cymru

Argymhelliad 2

Comisiynu darn o waith i ddiweddaru'r Cod Ymddygiad Teithio ar gyfer Cymru Gyfan a'r adnoddau i ysgolion a diweddaru'r canllawiau statudol cysylltiedig.

Argymhelliad 3

Hyrwyddo arferion gorau, adnoddau a chydweithio pellach ar draws awdurdodau lleol.

Argymhelliad 4

Archwilio opsiynau i ddatblygu rhaglen grant a ariennir gan arian cyfatebol i ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer hyfforddiant teithio annibynnol.

Argymhelliad 5

Cynyddu cyfleoedd ar gyfer teithio llesol a'r defnydd o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus