Neidio i'r prif gynnwy

Amrywiaeth o wybodaeth ei gasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru am deithio llesol gan bobl yn ystod Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Mesurir Teithio Llesol isod fel cerdded am o leiaf 10 munud neu feicio, boed am y cyfan neu ran o'r daith, i gyrraedd cyrchfan arbennig. Canfuwyd y lefelau gweithgaredd canlynol (dim ond yn cynnwys teithiau a wnaed ar gyfer dibenion teithio llesol).

Prif bwyntiau

  • Teithiodd 6% o oedolion ar feic o leiaf unwaith yr wythnos. Cymharol ychydig o newid fu yn ddiweddar.
  • Roedd 57% o oedolion yn cerdded fwy nag unwaith yr wythnos. Nid yw hyn wedi newid llawer o’r flwyddyn flaenorol.
  • Bu i 70% o bobl mewn ardaloedd trefol gerdded mwy na 10 munud fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 56% o bobl mewn ardaloedd gwledig.
  • Roedd dynion, pobl iau, y rheini heb salwch cyfyngol a'r rheini sydd â chymwysterau yn fwy tebygol nag eraill o seiclo.
  • Roedd pobl ifanc, y rheini heb salwch cyfyngol, y rheini â chymwysterau a phobl o ardaloedd trefol yn fwy tebygol nag eraill o gerdded am fwy na 10 munud i gyrraedd cyrchfan arbennig.
  • Mae 44% o blant yn teithio'n llesol i'r ysgol gynradd, ac 34% i'r ysgol uwchradd.
  • Cafodd 225 o feicwyr pedal wedi eu hanafu’n ddifrifol eu derbyn i’r ysbyty yn 2018-19.

Adroddiadau

Teithio llesol, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 636 KB

PDF
Saesneg yn unig
636 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.