Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff teithio llesol ei fesur fel cerdded am o leiaf 10 munud neu feicio fel dull o deithio i gyrraedd man penodol. Nid yw'n cynnwys cerdded na beicio er mwynhad, am resymau iechyd neu fel ymarfer. Caiff gwybodaeth am deithio llesol gan bobl yng Nghymru ei chasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae canlyniadau ychwanegol ar gael yn nangosydd canlyniadau rhyngweithiol Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Prif bwyntiau

Gofynnwyd y cwestiynau teithio llesol (am feicio neu gerdded fel dull teithio) yn yr Arolwg Cenedlaethol mwyaf diweddar i oedolion 16 a throsodd.

Ebrill 2021 i Fawrth 2022

  • Roedd 6% o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol.
  • Roedd 51% o bobl yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol, o gymharu â 60% yn 2019-20.
  • Roedd 22% o bobl mewn iechyd da iawn wedi cerdded bob dydd yn ystod y 3 mis diwethaf.
  • Roedd 64% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd trefol yn cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 47% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig.
  • Mae data gan GIG Cymru yn dangos y cafodd 217 o gerddwyr ag anafiadau difrifol a 176 o feicwyr a gafodd eu hanafu mewn gwrthdrawiad eu derbyn i'r ysbyty yn 2021.

Amlder teithio llesol

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cynnwys cwestiynau am deithio llesol ers 2013-14. Gofynnir i bobl pa mor aml y maent wedi defnyddio beic neu wedi cerdded fel dull o deithio yn ystod y tri mis blaenorol. Mae Siart 1 yn dangos pa mor aml roedd oedolion wedi beicio fel dull teithio llesol fesul blwyddyn, ac mae Siart 2 yn dangos pa mor aml roedd oedolion wedi cerdded fel dull teithio llesol fesul blwyddyn.

Image
Yn 2021-22, roedd 6% o bobl yn seiclo o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol.

(a) Mae'r data ddim ar gael ar gyfer 2020-21 oherwydd newidiadau i'r arolwg cenedlaethol Cymru yn sgil y pandemig coronafeirws (COVID-19).
(b) Roedd gostyngiad ym maint y sampl yn 2019-20 ar gyfer atebion i gwestiynau teithio llesol am feicio, sy’n golygu na ddylid cymharu gyda blynyddoedd blaenorol.

Yn 2021-22, roedd 6% o oedolion yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol.

Image
Yn 2021-22, teithiodd 51% o bobl yn llesol o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos trwy gerdded.

(a) Mae'r data ddim ar gael ar gyfer 2020-21 oherwydd newidiadau i'r arolwg cenedlaethol Cymru yn sgil y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Yn 2021-22, roedd 51% o bobl yn teithio'n llesol o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos drwy gerdded, gostyngiad o 9 pwynt canran o gymharu â 2019-20.

Roedd canran y bobl a oedd yn cerdded yn aml am o leiaf 10 munud yn llawer uwch na'r ganran a oedd yn beicio'n aml fel dull o deithio.

Beicio

Pan ofynnwyd pa mor aml roeddent wedi defnyddio beic fel dull teithio yn ystod y tri mis blaenorol, roedd dynion yn llawer mwy tebygol o feicio, ac o wneud hynny'n amlach na menywod (Siart 3).

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod 4.6% o ddynion a 3.0% o fenywod yn seiclo unwaith neu ddwywaith y mis.

Roedd pobl â salwch cyfyngus hirdymor, anabledd neu eiddilwch yn llai tebygol o fod wedi beicio o leiaf unwaith yr wythnos na phobl heb salwch cyfyngus. (Siart 4).

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod pobl sydd â salwch, anabledd neu lesgedd hirdymor yn llai tebygol o feicio na'r rhai heb salwch cyfyngus.

Cerdded

Pan ofynnwyd pa mor aml roeddent wedi cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio yn ystod y tri mis blaenorol, dywedodd 18% eu bod yn cerdded am fwy na 10 munud bob dydd, dywedodd 16% eu bod yn cerdded sawl gwaith yr wythnos a dywedodd 17% unwaith neu ddwywaith yr wythnos (Siart 5). Roedd 7% arall yn cerdded unwaith neu ddwywaith y mis a dywedodd 42% eu bod yn cerdded yn llai aml neu nad oeddent byth yn cerdded.

Yn wahanol i feicio, nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng amlder cerdded dynion a menywod.

Image
Mae Siart 5 yn dangos bod 18% o bobl yn cerdded am fwy na 10 munud bob dydd a 16% yn cerdded sawl gwaith yr wythnos.

Roedd pobl â salwch cyfyngus hirdymor, anabledd neu eiddilwch yn llai tebygol o gerdded bob dydd (13%) am fwy na 10 munud na phobl heb salwch cyfyngus (20%). (Siart 6)

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod pobl sydd â salwch, anabledd neu lesgedd hirdymor yn llai tebygol o gerdded am fwy na 10 munud na'r rhai heb salwch cyfyngus.

Teithio llesol yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig

Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn amlder teithio llesol drwy feicio rhwng y rhai yn byw mewn ardaloedd gwledig a threfol (Siart 7).

Image
Mae Siart 7 yn dangos fod pobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol ychydig yn fwy tebygol o feicio bob dydd fel ffordd o drafnidiaeth o'i gymharu ag ardaloedd gwledig.

Roedd 64% o bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 47% o bobl mewn ardaloedd gwledig. Roedd pobl mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol o gerdded yn amlach hefyd, gydag 20% yn cerdded bob dydd o gymharu â 13% mewn ardaloedd gwledig (Siart 8).

Image
Mae Siart 8 yn dangos bod 64% o bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded am fwy na 10 munud fel ffordd o deithio o leiaf unwaith y mis, o'i gymharu â 47% o bobl mewn ardaloedd gwledig.

Teithio llesol ac iechyd cyffredinol ac ymarfer corff

Gofynnwyd i ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol roi gradd i'w hiechyd cyffredinol yn dechrau o ‘gwael iawn’ i ‘da iawn’. Fel y gellid disgwyl efallai, roedd cydberthynas glir rhwng cerdded a beicio at ddibenion teithio llesol ac iechyd cyffredinol yr ymatebwyr. Roedd pobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn ‘dda iawn’ neu'n ‘dda’ yn fwy tebygol o gerdded neu feicio yn rheolaidd. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r ystadegau hyn i ddod i gasgliadau ynghylch natur y gydberthynas – gall rhai pobl fod yn iach oherwydd eu bod yn cerdded neu'n beicio a gall pobl eraill ddewis teithio'n llesol am eu bod yn iach yn barod.

Roedd 22% o bobl ag iechyd da iawn a 19% o bobl ag iechyd da yn cerdded fel dull o deithio bob dydd o gymharu â 13% a ddywedodd fod eu hiechyd yn weddol ac 8% a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael neu'n wael iawn (Siart 9).

Image
Mae Siart 10 yn dangos mai pobl mewn iechyd da iawn oedd y mwyafekly i gerdded am fwy na 10 munud fel modd o drafnidiaeth yn ystod y 3 mis diwethaf.

Yn achos beicio, roedd 14% o bobl ag iechyd da iawn a 9% o bobl ag iechyd da yn beicio fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis o gymharu â 6% a ddywedodd fod eu hiechyd yn weddol (Siart 10).

Image
Mae Siart 11 yn dangos bod 14% o bobl mewn iechyd da iawn a 9% o bobl mewn iechyd da yn seiclo fel ffordd o deithio o leiaf unwaith y mis o'i gymharu â 6% mewn iechyd teg.

(a) Data ddim ar gael ar gyfer iechyd cyffredinol gwael neu wael iawn oherwydd meintiau sampl bach. 

Teithio i'r ysgol

Gofynnwyd i'r rhieni sut roedd eu plentyn yn teithio i'r ysgol ac yn ôl ar ddiwrnod ysgol arferol. Gallent ddewis mwy nag un dull o deithio. Mae Siart 11 yn dangos y dulliau teithio a ddefnyddiwyd gan blant i fynd i'w hysgol gynradd yn 2018-19 a 2021-22, y ddwy flynedd ddiwethaf y mae'r data hyn ar gael.

Image
Mae Siart 11 yn dangos mai Car oedd y dull teithio mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd i gyrraedd ysgol gynradd, gyda 51% yn cyrraedd yr ysgol mewn car yn 2021-22, ac yna cerdded gydag oedolyn (40%).

(a) Mae dulliau bws lleol, trên, beic, tacsi ac 'arall' wedi'u hepgor o'r siart hon oherwydd meintiau sampl bach.
(b) Efallai na fydd y cyfansymiau'n dod i 100% oherwydd gellir dewis sawl modd teithio.

Y car oedd y dull teithio mwyaf cyffredin i fynd i ysgol gynradd, gyda 51% yn mynd i'r ysgol mewn car yn 2021-22, gyda cherdded gydag oedolyn (40%) yn dilyn.

Mae Siart 12 yn dangos y dulliau teithio a ddefnyddiwyd gan blant i fynd i'w hysgol uwchradd, yn ôl blwyddyn.

Image
Mae Siart 12 yn dangos mai bysiau ysgol a cherdded oedd y ffyrdd mwyaf cyffredin o gyrraedd yr ysgol uwchradd yn 2021-22.

(a) Mae cerdded gyda dulliau oedolion, trên, beic ac 'arall' wedi'u hepgor o'r siart hon oherwydd meintiau sampl bach. 
(b) Efallai na fydd y cyfansymiau'n dod i 100% oherwydd gellir dewis sawl modd teithio.

Y ffyrdd mwyaf cyffredin o deithio i ysgol uwchradd yn 2021-22 oedd bysiau ysgol (33%) a cherdded (32%).

Drwy gyfuno'r rhai sy'n cerdded gydag oedolyn, ar eu pen eu hunain neu gyda phlant eraill â'r ychydig sy'n beicio, roedd 48% o blant yn teithio mewn ffordd lesol i'r ysgol gynradd a 34% i'r ysgol uwchradd yn 2021-22.

Termau a diffiniadau

Trefol a gwledig

Mae 'trefol' yn cynnwys aneddiadau gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy a threfi bach a'u cyrion, lle mae'r ardal gyfagos ehangach yn fwy prin ei phoblogaeth. Mae “gwledig” yn cynnwys pob ardal arall.

Gwybodaeth allweddol o ansawdd

Cefndir

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r canlyniadau a nodir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Dehongli'r canlyniadau

Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar yr ymatebwyr a roddodd ateb i'r cwestiwn perthnasol yn unig. Dim ond is-sampl o ymatebwyr a gafodd eu holi am rai pynciau yn yr arolwg ac ni ofynnwyd cwestiynau eraill os nad oeddent yn berthnasol. Gall atebion coll hefyd ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys amharodrwydd neu anallu i ateb cwestiwn penodol.

Lle nodwyd cydberthynas rhwng dau ffactor, nid yw hyn yn golygu mai cydberthynas achosol ydyw. Mae angen dadansoddiad manylach er mwyn nodi a yw un ffactor yn achosi newid mewn un arall, neu a yw ffactorau eraill yn bwysicach mewn gwirionedd.

Mae'r canlyniadau'n cael eu pwysoli er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu dosbarthiad oedran a rhyw poblogaeth Cymru.

Adroddiad Ansawdd

Mae adroddiad ansawdd cryno ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth fanylach am ansawdd yr arolwg yn ogystal â chrynodeb o'r dulliau a ddefnyddir i lunio'r canlyniadau.

Cyd-destun

Mae'r Ddeddf Teithio Llesol (Deddfwriaeth y Deyrnas Unedig) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fapio a chynllunio ar gyfer llwybrau teithio llesol addas, adeiladu a gwella isadeiledd ar gyfer cerdded a beicio, a hyrwyddo cerdded a beicio bob blwyddyn.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i roi gwybodaeth i lywodraeth, y cyfryngau a chymdeithas ac fe'u defnyddir o fewn Llywodraeth Cymru i lunio a monitro polisïau. Ar hyn o bryd, nid oes ffynonellau data cyfredol a swyddogol eraill ar gael ynghylch teithio llesol yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, defnyddir y ffigurau hyn yn benodol i fonitro effaith Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Cywirdeb

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am gywirdeb yr arolwg hwn yn yr adroddiad technegol.

Gellir cael data ar nifer y beicwyr pedal ag anafiadau difrifol a gaiff eu derbyn i'r ysbyty gan y GIG.

Amseroldeb a phrydlondeb

Casglwyd y ffigurau ar gyfer 2021-22 a chafodd datganiad cyntaf ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2019.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y bwletin ystadegol hwn ei rag-gyhoeddi a'i osod ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil.

Cymharu a chydlynu

Mae'r cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 ar Deithio Llesol yn wahanol i gwestiynau blaenorol ac felly nid oes modd cymharu'r data'n uniongyrchol â bwletinau ystadegol blaenorol. Mae'r tabl isod yn dangos y cwestiynau a gafodd eu cynnwys yn 2019-20 ar deithio llesol. Yn y bwletin hwn dadansoddwyd cwestiynau'r arolwg dros sawl blwyddyn os oeddent wedi aros yr un peth, fel y dangosir yn y tabl isod.

Categoriau y cwestiynau a ofynnwyd ar deithio llesol (oedolion) yn arolwg 2019-20
  2016-17 2017-18 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Pa mor aml yn defnyddio beic i fynd rhywle D D D D D D
Pa mor aml yn cerdded am 10 munud i gyrraedd rhywle  N D D D D D
Y cerdded (10 munud+) neu'n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel modd o drafnidiaeth N N D D D D

D: wedi ei ofyn
N: heb ei ofyn

Categoriau y cwestiynau a ofynnwyd ar deithio llesol (plant) yn arolwg 2019-20
  2016-17 2017-18 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Sut mae'r plentyn yn teithio i ysgol gynradd N N D N N D
Gofyn i rieni plant ysgolion cynradd N N D N D D
Dull arferol o deithio i'r ysgol gynradd (bws) D N D N N D
Dull arferol o deithio i'r ysgol gynradd (car neu lifft) D N D N N D
Dull arferol o deithio i'r ysgol gynradd (cerdded) D N D N N D
Dull arferol o deithio i'r ysgol uwchradd (bws) D N D N N D
Dull arferol o deithio i'r ysgol uwchradd (car neu lifft) D N D N N D
Dull arferol o deithio i'r ysgol uwchradd (cerdded) D N D N N D

D: wedi ei ofyn
N: heb ei ofyn

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn llunio adroddiad ar Ystadegau cerdded a beicio ar gyfer Lloegr.

Mae Transport Scotland yn llunio cyhoeddiad o dan y teitl ‘Walking and Cycling’.

Mae'r Adran Seilwaith yn llunio cyfres o dablau ar Dueddiadau Teithio Llesol a Thrafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Symbolau

Talgrynnwyd y ffigurau i'r cyfanrifau agosaf. Efallai y bydd anghysondeb i'w weld rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a'r cyfanswm a ddangosir.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac yn dynodi cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol.

  • Ychwanegu at a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • Gwella ein dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi darlun ehangach o'r pwnc.
  • Gwell delweddau drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'u hadfer pan fydd safonau'n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn y gellir eu darparu drwy e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 26/2022